Cynigion arbennig a mynediad am ddim i atyniadau treftadaeth y gwanwyn yma

Cynigion arbennig a mynediad am ddim i atyniadau treftadaeth y gwanwyn yma

Two young people running through the museum.
Ymwelwyr yn Amgueddfa Glanfa Windermere, sy'n cynnig mynediad am ddim fel rhan o'r wythnos. Credyd: Tom Arran.

Cynhelir Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol rhwng dydd Sadwrn 7 a dydd Sul 15 Mawrth 2026, a bydd cannoedd o leoliadau treftadaeth yn cymryd rhan.

Mynnwch gip ar y gorffennol mewn tai hanesyddol, cestyll ac amgueddfeydd neu cofleidiwch natur yn ei holl ogoniant mewn llu o fannau bywyd gwyllt poblogaidd fis Mawrth yma.

I ddweud diolch am y £32 miliwn a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr bob wythnos, mae lleoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cynnig mynediad am ddim, gostyngiadau a bargeinion arbennig.

Gyda mwy na 600 o gynigion ar gael, y cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau fforio yw tocyn neu gerdyn crafu'r Loteri Genedlaethol!

Ble byddwch chi'n ymweld?

Mynediad am ddim 

Mae cannoedd o safleoedd a lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agor eu drysau am ddim, gan gynnwys Castell a Gardd Powis yng Nghymru, Sutton Hoo yn Suffolk, Castell Lindisfarne yn Northumberland a Florence Court yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Yr Alban yn cynnig mynediad am ddim i leoedd fel The Hill House, Amgueddfa Man Geni Robert Burns a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glencoe.

Ewch ar daith i safleoedd Treftadaeth Lloegr rhagorol am ddim, gan gynnwysNeuadd a Gerddi Brodsworth, Castell Dover a Chastell Pendennis.

Ewch allan yn yr awyr agored ac archwiliwch warchodfeydd natur llawn bywyd yr RSPB, fel Strumpshaw Fen, Saltholme a Chonwy.

Gallwch hefyd gael mynediad am ddim i:

  • Barc Cerfluniau Swydd Efrog
  • Amgueddfa Man Geni Robert Burns
  • Amgueddfa Brunel
  • Prosiect Eden
  • Abaty Delapré
  • Amgueddfa Werin Ulster

Teithiau tywys am ddim

Two visitors investigate a red tank engine in a wooden shed at the Ffestiniog and Welsh Highland Railway.
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn darparu teithiau tu ôl i'r llenni.

Cerddwch yn ôl troed milwr Rhufeinig yng Nghaer ac Amffitheatr Richborough, archwiliwch y 'Maritime Mile' ar hyd Glannau Hanesyddol Belfast neu neidiwch ar daith yn Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru.

Bargeinion 2-am-1 a gostyngiad 50%

Camwch i mewn i hanes yn lleoliad eiconig Tŵr Llundain, dewch o hyd i storïau yng Nghastell Hillsborough neu olrhain hanes y gêm brydferth yn Amgueddfa Bêl-droed Yr Alban – y cyfan gyda gostyngiad 50%.

Mae safleoedd gan gynnwys y Foundling Museum, y Cutty Sark, yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol a Sŵ Caeredin yn darparu cynigion 2-am-1.

An adult and child on a 4D interactive game at the museum.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn derbyn mynediad 2 am 1 i theatrau 4D Amgueddfa'r Awyrlu Brenhinol. Credyd: RAF Museum.

Cynigion arbennig

Ymwelwch â Thŷ Harewood gyda thocynnau disgownt, mynnwch fynediad am ddim i blant yn y Baddonau Rhufeinig, neu profwch hedfan gyda'r Red Arrows yn theatr 4D anhygoel Amgueddfeydd yr Awyrlu Brenhinol.

Dewch o hyd i gynnig yn eich ardal chi 

Archwiliwch yr holl gynigion sydd ar gael yn ystod yr Wythnos Agored ar wefan y Loteri Genedlaethol.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i glywed am gyfleoedd fel hyn yn y dyfodol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...