Cymru: penderfyniadau dirprwyedig mis Rhagfyr 2025
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Saving Wales' Global Culinary Heritage: collecting and recording food culture, stories and recipes.
Ymgeisydd: Made in Roath
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 18 mis (Tachwedd 2025 - Mai 2027) i gofnodi diwylliant bwyd trwy straeon ac atgofion pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cynhyrchu ffilmiau, podlediadau, cyfweliadau a chardiau ryseitiau.
Penderfyniad: Gwrthod
Bridging Worlds: Connecting Communities Through Gower's Heritage
Ymgeisydd: The Centre for African Entrepreneurship
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 5 mlynedd arfaethedig yw hwn sy'n dechrau ym mis Chwefror 2026 ac yn gorffen ym mis Ionawr 2031 i gofnodi straeon cymunedau lleol yn ardal Abertawe a Gŵyr a rhai ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi gwneud Abertawe yn gartref iddynt.
Penderfyniad: Gwrthod
Revive Murton Green: A New Era of Play
Ymgeisydd: CYNGOR CYMUNED LLANDEILO FERWALLT
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect arfaethedig 18 mis (Rhagfyr 2025 – Mai 2027) yw hwn i ddylunio a gosod parc chwarae newydd a gwella'r draenio ar ardal o dir comin yn Llandeilo Ferwallt ar Benrhyn Gŵyr.
Penderfyniad: Gwrthod
#HP ABERDULAIS COMMUNITY HERITAGE HUB - Turning a Past into a Future for Non-Traditional Volunteering and Employment in Heritage in Neath Port Talbot.
Ymgeisydd: St Giles Trust
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 16 mis yw hwn sydd â'r nod o adfywio Sgwd Aberdulais, yng Nghastell-nedd Port Talbot, trwy ennyn diddordeb y gymuned, gan ganolbwyntio ar wirfoddolwyr annhraddodiadol, yn enwedig y rhai sy'n wynebu adfyd fel tlodi, troseddu a gwahaniaethu.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £249,106 (100%)
Calon Coedlannau - Ailddarganfod llên gwerin ac iaith mewn coetiroedd cymunedol yng Nghymru Heart of the woodlands - Rediscovering lore and language in Community Woodlands in Wales
Ymgeisydd: Llais y Goedwig
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect tair blynedd arfaethedig (Ebrill 2026 - Mawrth 2029) yw hwn i greu fframwaith i helpu cefnogi grwpiau coetir cymunedol i ailgysylltu eu cymunedau lleol â'u treftadaeth leol; darganfod, dathlu, dehongli ac adfywio diddordeb gyda chynulleidfaoedd ehangach.
Penderfyniad: Gwrthod
Camlas: Ein Llwybr, Ein Llais / Our Path, Our Voice
Ymgeisydd: Cerdd Gymunedol Cymru
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o ailgysylltu cymunedau â threftadaeth ddiwydiannol, diwylliannol a mudol a rennir Camlas Morgannwg.
Penderfyniad: Gwrthod
Cynefin i Gwenynen
Ymgeisydd: Bumblebee Conservation Trust
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect tair blynedd arfaethedig (Chwefror 2026 i Ebrill 2029) yw hwn i adfer pum rhywogaeth cacwn bwm sydd dan fygythiad ar hyd arfordir Sir Gâr a grymuso pobl leol i gymryd rhan yn y broses gadwraeth.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £211,770 (66%)
Prosiect 1176: Dathlu 850 o flynyddoedd ers yr Eisteddfod cyntaf yng Nghastell l Aberteifi
Ymgeisydd: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 10 mis yw hwn, gyda’r gweithgarwch yn canolbwyntio ar haf 2026, sydd â'r nod o rannu hanes a threftadaeth yr eisteddfod a’i chysylltiadau â Chastell Aberteifi, Ceredigion, drwy fanteisio ar y cyfle i ddathlu 850 mlynedd ers yr eisteddfod gyntaf.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £238,100 (95%)
A permanent heritage exhibition for Abersoch and the parish of Llanengan, supported by activities
Ymgeisydd: MENTER RABAR CWMNI BUDDIANT CYMUNEDOL
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd arfaethedig (Gorffennaf 2026 - Gorffennaf 2028) yw hwn i greu a gosod arddangosfa dreftadaeth barhaol yn hen ysgol bentref Abersoch yn seiliedig ar archifau'r Grŵp Treftadaeth Plwyfol lleol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £164,680 (100%)
Collecting Gower's Placenames.
Ymgeisydd: Gower Unearthed CIC
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect cymunedol dwy flynedd yw hwn sy'n archwilio sut mae iaith leol yn cysylltu pobl a lle.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £16,700 (100%)
Lle'r Llan Phase 2
Ymgeisydd: Lle'r Llan CiC
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect un flwyddyn (Chwefror 2026 - Mawrth 2027) arfaethedig yw hwn i drawsnewid hen eglwys wag ym mhentref Llan Ffestiniog i ofod cymunedol ac ailgysylltu'r pentref â threftadaeth yr adeilad.
Penderfyniad: Gwrthod
Plethu: "Objects, Memories, and moments that Make us."
Ymgeisydd: Making Sense CIO
Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r prosiect yn ymdrechu i gofnodi a gwarchod yr atgofion synhwyraidd ac emosiynol sy'n gysylltiedig â gwrthrychau bob dydd, gan amlygu pŵer gwrthrychau treftadaeth i ddeffro atgofion tra gwerthfawr ac anghofiedig a chreu cysylltiadau rhwng y gorffennol a'r presennol.
Penderfyniad: Gwrthod
Keep the Wheel Turning - Talgarth Mill Heritage Project
Ymgeisydd: Felin Talgarth Mill
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o adfer a gwarchod Melin Talgarth, De Powys, sy'n rhestredig Gradd II, trwy waith atgyweirio a gwelliannau i'r adeilad a'r cyfleusterau, adfer yr ardd, gweithgareddau ymgysylltu cymunedol a dehongli digidol a ffisegol.
Penderfyniad: Gwrthod
Water Street to Riverside: Remembering Port Talbot's Town Centre
Ymgeisydd: Riverside Baptist Church
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd arfaethedig (Mawrth 2026 - Chwefror 2028) yw hwn i atgyweirio to Eglwys y Bedyddwyr Riverside a chynnal cyfres o ddigwyddiadau i gofnodi'r dreftadaeth sy'n gysylltiedig ag ailddatblygu Port Talbot yn y 1960au
Penderfyniad: Gwrthod
Grant increases
Llangollen Museum Survival and Heritage Sustainability Programme
Ymgeisydd: Amgueddfa Llangollen
Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r prosiect 16 mis hwn yn ceisio sicrhau parhad a chynaladwyedd Amgueddfa Llangollen a lleihau'r risg i'w chasgliad a achosir gan seilwaith sy'n methu
Penderfyniad: Cytuno ar newid yng nghanran y grant o 56.63% i 56.87%