Cymru
O'n harfordiroedd a'n cestyll i'n tirweddau, ein llenyddiaeth ac un o'r ieithoedd llafar hynaf yn Ewrop, mae gan Gymru dreftadaeth hynafol a chwedlonol.
Rydym yn falch o chwarae rhan yn y gwaith o warchod a dathlu dinasoedd bywiog, tirweddau hardd, safleoedd hanesyddol a diwylliannau amrywiol y wlad. Mae'n rhan o'n gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.
Yr haf hwn, mae ein tîm yng Nghymru yn mynd i Wrecsam i gysylltu â chymunedau ac arddangos y gwaith rydyn ni’n ei gefnogi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cliciwch yma i weld ein cynlluniau am yr wythnos.
Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect
Edrychwch isod ar astudiaethau achos prosiect a'r newyddion diweddaraf o'ch ardal.
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor – os oes gennych syniad am brosiect yng Nghymru, byddai’n bleser gennym glywed oddi wrthych. Mae grantiau ar gael o £10,000 hyd at £10m.
Mae ein gweithdai ariannu a'n sesiynau cynghori rheolaidd yn gyfle gwych i gael gwybod am ein cyllid, cael awgrymiadau ar sut i wneud cais da a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill o'ch ardal.
Ydych chi'n ystyried gwneud cais i ni am grant hyd at £250,000? Cyflwynwch Ymholiad Prosiect i dderbyn adborth ar eich syniad am brosiect cyn i chi wneud cais llawn. Byddwn yn cysylltu'n ôl â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Manylion cyswllt
E-bost: cymru@heritagefund.org.uk
Rhif Ffôn: 029 2034 3413 (Dydd Llun i Gwener, 9.00am–5.00pm)
Cyfeiriad:
Clockwise Offices, Tŷ Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd, CF24 0EB
Rydym yn gwbl weithredol ac yn agored i fusnes, ond rydym yn cynnal llawer o'n gwaith o ddydd i ddydd o’n cartrefi.
Anfonwch unrhyw eitemau drwy e-bost at eich cyswllt neu drwy'r prif gyfeiriad: cymru@heritagefund.org.uk
Mae gennym dîm cwbl ddwyieithog yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydym yn croesawu galwadau ffôn (Opsiwn 1 i siarad ag aelod o staff yn Gymraeg), e-byst a llythyrau yn Gymraeg ac yn Saesneg a ni fydd defnyddio'r Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi ychwanegol wrth ymateb. I gael rhagor o wybodaeth am y Gymraeg ac i glywed mwy am ein cynnydd presennol wrth i ni ddiweddaru ein Cynllun Iaith Gymraeg presennol, ewch i'r dudalen yma.
Videos
Sut ydyn ni'n cefnogi Addoldai hanesyddol?
Newyddion
Ydych chi'n 18-30 oed? Cyfle newydd i roi hwb i'ch gyrfa treftadaeth
Publications
Cymru: penderfyniadau dirprwyedig mis Hydref 2025
Publications
Cymru: penderfyniadau pwyllgor Medi 2025
Projects
Rhannu treftadaeth Pwylaidd Penley
Mae cymuned Pwylaidd Penley yn adrodd hanes bywyd ym mhentref Gogledd Cymru.
Publications
Cymru: penderfyniadau dirprwyedig mis Medi 2025
Projects
Dathlu 60 mlynedd o wirfoddoli myfyrwyr yn Abertawe
Mae'r prosiect hwn yn dal a rhannu hanes grŵp myfyrwyr sy'n gwirfoddoli i dynnu sylw at y gwahaniaeth maen nhw wedi'i wneud dros y degawdau.
Projects
Adeiladu sector treftadaeth fwy gwydn i Gymru
Mae prosiect ‘Treftadaeth Ymlaen’ Celfyddydau & Busnes Cymru yn helpu sefydliadau treftadaeth o bob maint i gael gafael ar y sgiliau, y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ffynnu.
Projects
'Martens on the Move': Adferiad hirdymor ar gyfer bele'r coed
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd prosiect Martens on the Move yn gweithio gyda chymunedau lleol i wella cynefin y bele’r coed.
Publications
Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Awst 2025
Projects
Trawsnewid Tabernacl ar gyfer y gymuned a diwylliant
Mae Capel Tabernacl yn cael ei adfywio fel hub gwydnwch cymunedol, I ddathlu ei dreftadaeth ac agor ei ddrysau i’r gymuned ehangach.
Publications