Holi ac Ateb gyda Grantï: cydweithio a chyllid wrth gefn yn allweddol i lwyddiant prosiect cymunedol

Holi ac Ateb gyda Grantï: cydweithio a chyllid wrth gefn yn allweddol i lwyddiant prosiect cymunedol

Two women, sat at the bar of a cosy pub, raise their glasses and smile at the barman.
Fe wnaethom gefnogi pobl Llandwrog i gymryd eu tafarn o'r 19eg ganrif i berchnogaeth gymunedol gyda grant o £1.8 miliwn. Delwedd: Ty'n Llan.
Dyma Siôn Jones, rheolwr prosiect adfer Tafarn Ty'n Llan rhestredig Gradd II ger Caernarfon, yn rhannu'r hyn y mae wedi'i ddysgu drwy gydol y broses – o bwysigrwydd cynllunio manwl i reoli syrpreisys dyddiol wrth gyflawni'r prosiect.

Ynghylch y prosiect

Fe wnaethom gefnogi pobl Llandwrog i gymryd eu tafarn o'r 19eg ganrif i berchnogaeth gymunedol gyda grant o £1.8 miliwn yn 2023. Mae'r adeilad hanesyddol, a oedd wedi'i adael i ddirywio, bellach wedi cael ei adfer a'i ailagor fel tafarn a hwb gwasanaethau a chefnogaeth gymunedol. Mae estyniad hefyd, sy'n cynnwys bwyty newydd a llety gwyliau. Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn gweithio gyda sefydliadau partner ar draws Gogledd Cymru i ehangu cyfleusterau Ty'n Llan ymhellach a sefydlu gardd gymunedol.

Beth oeddech chi'n ei chael yn fwyaf heriol am eich cais a sut wnaethoch chi oresgyn yr heriau hyn?

“Y rhan anoddaf oedd dod â mewnbwn ynghyd gan gynifer o bobl a’i siapio mewn un cynllun clir. Fe wnaethom ei ddatrys drwy dreulio llawer o amser ymlaen llaw yn cytuno ar weledigaeth a rennir a bod yn onest ynglŷn â'r hyn yr oedd ei angen ar yr adeilad a'r gymuned. Unwaith i ni wneud hynny, daeth y cais at ei gilydd yn braf.”

Beth fyddech chi'n ei argymell i ddarpar ymgeiswyr dreulio mwy o amser arno wrth ddatblygu eu cais?

“Costau, rhaglen a risgiau. Mae cyllideb sydd wedi’i phrofi’n dda ac amserlen realistig yn gwneud popeth yn haws yn nes ymlaen, yn enwedig pan fydd prisiau gwaith adeiladu’n newid neu os yw problemau annisgwyl yn dod i'r amlwg yn ystod y gwaith adeiladu.” 

Pa un darn o gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n gwneud cais am ariannu am y tro cyntaf?

“Peidiwch â’i wneud ar eich pen eich hun. Dewch â'r bobl gywir gyda chi o'r cychwyn cyntaf: eich gwirfoddolwyr, arbenigwyr, penseiri a phartneriaid cymunedol. Mae'n gwneud y cais yn gryfach ac yn adeiladu'r tîm y byddwch chi'n dibynnu arno unwaith y bydd y prosiect yn dechrau.”

Wrth gyflwyno eich prosiect, beth wnaeth eich synnu chi?

“Roedd lefel y cydlynu o ddydd i ddydd yn peri syndod i ni. Gall hyd yn oed newidiadau dylunio bach neu broblemau cyflenwi waethygu os na fyddwch chi'n aros yn agos at eich contractwr a'ch tîm proffesiynol. Mae cyfathrebu da yr un mor bwysig â'r gwaith adeiladu.”

A group of older people enjoy a drink around a table in a quiet corner of the pub.
Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn gweithio gyda sefydliadau partner ar draws Gogledd Cymru i ehangu cyfleusterau Ty'n Llan ymhellach a sefydlu gardd gymunedol. Delwedd: Ty'n Llan.

Pa un peth ydych chi'n ei wybod nawr yr hoffech chi fod wedi'i wybod cyn i chi ddechrau?

“Ni allwch chi byth gael gormod o gyllid wrth gefn. Gall amodau'r farchnad, oedi a chymhlethdodau monitro a gwerthuso lyncu arian o'r gyllideb yn gyflym. Byddai cael clustog mwy o'r cychwyn cyntaf wedi lleddfu rhywfaint o'r pwysau.”

Ar ôl y prosiect hwn, beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn nyfodol eich sefydliad?

“Rydym yn gyffrous am yr hyn y bydd y gofod newydd yn caniatáu i ni ei wneud. Mae'r prosiect wedi ein galluogi i gynnal mwy o ddigwyddiadau cymunedol, lletya mwy o grwpiau a gwneud defnydd gwell o'r adeilad drwy gydol yr wythnos. Gyda chegin, bwyty a mannau hyblyg gorffenedig, gallwn nawr gynllunio gweithgareddau a phartneriaethau nad oeddent yn bosibl yn flaenorol. Mae'n rhywbeth y mae'r ardal gyfan wedi bod yn aros amdano.”

Dyma ran o gyfres o sesiynau Holi ac Ateb gyda grantïon llwyddiannus - gan helpu i ddileu dirgelwch y broses ymgeisio am brosiect a'i gyflwyno, a rhannu profiadau ar draws y sector.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...