Holi ac Ateb gyda grantï: sut i greu naratif prosiect llawn cymhelliad
Ynghylch y prosiect
Ar draws 29,500 hectar o Dde Cymru, mae prosiect Mawndiroedd Coll yn dod â chymunedau ynghyd i adfer cynefinoedd sydd wedi'u difrodi ac archwilio eu treftadaeth amgylcheddol a rennir.
Gan gydweithio'n agos â sefydliadau lleol, mae'r prosiect yn darparu cyfleoedd i wella addysg, sgiliau a lles trwy weithdai a hyfforddiant. Gyda'i gilydd, mae hybiau cymunedol yn gyrru adferiad byd natur ac yn gwella cynaladwyedd ecosystemau hanfodol yr ardal, sy'n dal carbon ac yn cynnal bywyd gwyllt amrywiol.
Beth oeddech chi'n ei chael yn fwyaf heriol am eich cais a sut wnaethoch chi oresgyn yr heriau hyn?
“Mynegi ehangder a natur gyd-gysylltiedig y prosiect yn glir, yn enwedig sut mae treftadaeth, ymgysylltu cymunedol ac adfer cynefinoedd i gyd yn cysylltu â’i gilydd. Roedd hi'n anodd ffitio popeth i mewn i fformat y cais heb golli'r naws. Gwnaethon ni oresgyn hyn drwy greu strwythur thematig clir ochr yn ochr ag amserlenni a ffeithluniau i gynrychioli cwmpas y prosiect yn weledol. Helpodd hyn i egluro'r naratif a gwneud y cais yn fwy hygyrch i adolygwyr.
“Roedd y naratif cryf hwn yn cysylltu amcanion y prosiect yn glir â’i ganlyniadau; gan ddangos sut mae pob elfen – boed ennyn diddordeb y gymuned, adferiad treftadaeth neu amgylcheddol – yn cyfrannu at ddarlun ehangach.”
Pa un darn o gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n gwneud cais am ariannu am y tro cyntaf?
“Dechreuwch yn gynnar a rhowch ddigon o amser i chi’ch hun i siapio eich syniadau. Peidiwch ag ofni estyn allan i eraill – cydweithwyr, partneriaid neu hyd yn oed ymgeiswyr blaenorol – am adborth. Gall pâr ffres o lygaid eich helpu i weld bylchau neu gryfhau eich achos. Hefyd, cofiwch sicrhau bod eich cais yn adrodd stori llawn cymhelliad sy'n gweddu i flaenoriaethau Cronfa Treftadaeth.”
Wrth gyflwyno eich prosiect, beth wnaeth eich synnu chi?
“Pa mor gryf y gwnaeth pobl gysylltu a’n digwyddiadau cyhoeddus. Er i ni ddisgwyl y byddai diddordeb yn y gwaith adfer mawndiroedd, rhagorodd y brwdfrydedd dros ddigwyddiadau iechyd a lles, sgiliau traddodiadol a phroffesiynol, a hanes lleol ar ein disgwyliadau. Dangosodd pa mor werthfawr y mae'r elfennau hyn wrth adeiladu cysylltiadau ystyrlon â'r gymuned.”
Pa un peth ydych chi'n ei wybod nawr yr hoffech chi fod wedi'i wybod cyn i chi ddechrau?
“Faint o hyblygrwydd a chreadigrwydd y byddai'r cam cyflwyno'n ei ganiatáu. Yn y camau cynnar, roeddwn i'n canolbwyntio ar gwrdd â thargedau ac amserlenni, ond rydw i wedi dysgu y gall addasu i anghenion y gymuned ac ymateb i gyfleoedd wrth iddynt godi arwain at ganlyniadau cyfoethocach. Mae creu lle i arbrofi a chyd-greu wedi gwneud y prosiect yn fwy effeithiol.”
Beth fu'r peth mwyaf gwobrwyol a ddaeth allan o'ch prosiect?
“Gweld pobl o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd drwy’r prosiect – boed drwy wirfoddoli, mynd i ddigwyddiadau neu ymwneud â threftadaeth a byd natur. Ochr yn ochr â hyn, mae wedi bod yn wobrwyol iawn gweld newidiadau cadarnhaol yn y dirwedd. Mae ardaloedd wedi gwella o ran bioamrywiaeth, dal carbon a hyd yn oed dadorchuddio nodweddion treftadaeth cudd. Mae gweld pobl a lle yn ffynnu gyda'i gilydd wedi bod yn ganlyniad pwerus.”
Dyma ran o gyfres newydd o sesiynau Holi ac Ateb wedi'u harwain gan grantïon llwyddiannus, gyda'r nod o ddileu dirgelwch y broses rheoli prosiect a rhannu profiadau ar draws y sector. Mynnwch gip ar fwy o storïau isod.