Mynnwch gyngor gan grantïon treftadaeth

Mynnwch gyngor gan grantïon treftadaeth

Young volunteers at the wheel of a ship out at sea on a sunny day.
Blyth Tall Ship has created inspiring volunteer opportunities in the north east. Photo: Colin McLean Photography.
Yn aml mae rhai o'r awgrymiadau gorau ar gyfer cynllunio a rhedeg eich prosiect yn dod gan bobl sydd wedi bod yn yr un sefyllfa ac wedi'i wneud o'r blaen.

Rydym am tynnu'r dirgelwch allan o'r broses o ymgeisio am brosiect a'i gyflwyno, a rhannu profiadau ar draws y sector treftadaeth.

Mae ein hadnodd Holi ac Ateb gyda grantïon yn dwyn ynghyd arweiniad ac ysbrydoliaeth o brosiectau treftadaeth llwyddiannus o bob math a maint.

Gallwch glywed gan reolwyr prosiectau ar draws y DU sy'n myfyrio ar y gwych a'r gwael, yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu a'r hyn y bydden nhw'n ei wneud yn wahanol y tro nesaf.

Mynnwch gip ar yr Holi ac Ateb isod, neu am ragor o gyngor ar sut i lywio pob cam o'ch prosiect, archwiliwch ein canllawiau arfer da.

I gael cymorth wedi'i deilwra, cysylltwch â'ch tîm Cronfa Treftadaeth leol neu llenwch Ymholiad Prosiect.

 

A group of men and women in high vis jackets and outdoor attire gather around a newly built bench on a wooded hillside.
A community group build benches as part of the Lost Peatlands project. Photo: Neath Port Talbot Council.

Straeon

Holi ac Ateb gyda grantï: sut i greu naratif prosiect llawn cymhelliad

Dyma Richy Pulman o gyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhannu gwersi a ddysgwyd yn ystod eu prosiect Cysylltiadau Tirwedd – o sut i wneud eich cais yn hawdd ei ddeall, i bwysigrwydd gofyn am help.