Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Ionawr 2026
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
St Mary's Church Windows sealing
Ymgeisydd: BRO GLANNAU TYWYN LMA CIO
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect pedwar mis a hanner (Tachwedd 2025 i Fawrth 2026) yw hwn i atgyweirio saith o wyth ffenestr llofft olau yn Eglwys y Santes Fair, Porth Tywyn.
Penderfyniad: Gwrthod
Striking Back - the Mid Rhondda Rebellion
Ymgeisydd: Cambrian Village Trust
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 13 mis yw hwn sydd â'r nod o ddadorchuddio, rhannu a dathlu gwahanol elfennau o dreftadaeth ddiwylliannol, ddiwydiannol a chymdeithasol Canol Rhondda
Penderfyniad: Gwrthod
Jac Copr / Copper Jack - The next decade
Ymgeisydd: Swansea Community Boat Trust
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect naw mis (Ionawr i Hydref 2026) i adnewyddu ac adfer elfennau uwchben y dŵr o gwch y Jac Copr, sy'n rhedeg teithiau treftadaeth am y diwydiannau Copr a Glo ar hyd Afon Tawe yn Abertawe.
Penderfyniad: Gwrthod
HMS Erebus: From Dockyard to Discovery – Celebrating 200 Years of History from Pembroke Dock to the Frozen Arctic
Ymgeisydd: The Pembroke Dock Heritage Trust Limited
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect arfaethedig dros un ar ddeg mis i ddefnyddio daucanmlwyddiant lansio HMS Erebus i archwilio'r cysylltiad â'r llong enwog a Doc Penfro lle cafodd ei hadeiladu.
Penderfyniad: Dyfarnu grant o £57,015 (100%)
Hut 9: Exploring the Past, to Change the Future
Ymgeisydd: Tanio Ltd
Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect arfaethedig dros ddeuddeg mis (Mawrth 2026 i Fawrth 2027) i ddefnyddio gwersyll carcharorion rhyfel yr Ail Ryfel Byd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel sylfaen i gyd-ddylunio cynhyrchiad llwyfan sy'n archwilio materion ffasgiaeth ac eithafiaeth, a'r gwrthwynebiad iddynt, a pha wersi y gellir eu dysgu am gynnydd syniadau eithafol yn ne Cymru fodern.
Penderfyniad: Gwrthod