Grantiau Menter Treftadaeth rhwng £250,000 a £5 miliwn

Grantiau Menter Treftadaeth rhwng £250,000 a £5 miliwn

Ein rhaglen ariannu ar gyfer prosiectau Menter Treftadaeth yn y DU

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 30 Ionawr 2024. Gweld pob diweddariad.

Trosolwg

Fel yr ariannwr mwyaf ar gyfer treftadaeth yn y DU, ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei gofalu amdani a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Ein hegwyddorion buddsoddi

Mae pedair egwyddor buddsoddi yn llywio ein holl benderfyniadau grant o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033:

  • arbed treftadaeth
  • gwarchod yr amgylchedd
  • cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad
  • cynaliadwyedd y sefydliad

Rhaid i chi ystyried y pedair egwyddor yn eich cais. Chi sydd i benderfynu a dangos cryfder y ffocws, a phwyslais ar bob egwyddor.

Bydd yr egwyddorion buddsoddi a mentrau strategol yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Treftadaeth 2033.

Menter Treftadaeth

Mae'r broses Menter Treftadaeth ar gyfer prosiectau sy'n ceisio cyflawni twf economaidd drwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Mae wedi'i anelu at sefydliadau cymunedol mentrus a sefydliadau masnachol sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol i'w helpu i achub adeiladau a safleoedd hanesyddol sydd wedi'u hesgeuluso, a'u dychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol hyfyw.

Mae ein hymchwil wedi dangos y gall adeiladau hanesyddol ddenu busnesau sy'n fwy cynhyrchiol ac y gallant gynhyrchu mwy o gyfoeth na'r cyfartaledd ar draws yr economi gyfan. Ac eto, mae llawer o adeiladau a safleoedd hanesyddol yn wag ac yn adfeiliedig, heb allu cyflawni eu potensial economaidd.

Cynlluniwyd Menter Treftadaeth i bontio'r bwlch ariannu sy'n atal ased hanesyddol sydd angen ei atgyweirio rhag cael ei ddychwelyd i ddefnydd buddiol a masnachol. Bydd yr achos dros arian grant yn dibynnu ar ddiffyg cadwraeth. Dyma le mae gwerth presennol ased treftadaeth ynghyd â'r gost o ddod ag ef yn ôl i ddefnydd yn fwy na gwerth yr ased ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau.

Trwy gau'r bwlch (h.y. gwrdd â'r diffyg cadwraeth) rydym yn gobeithio annog mwy o gyfranogiad gan y sector preifat gyda llawer o brosiectau Menter Treftadaeth, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol i gyflawni prosiectau sy'n fasnachol hyfyw. Nid yw cynnwys y sector preifat yn orfodol ond fe'i hanogir.

Rydym am i'r prosiectau a ariannwn drwy'r broses Menter Treftadaeth ddangos yn glir pam mae buddsoddi mewn treftadaeth yn dda i fusnes ac yn dda i'r economi.

Gallwch wneud cais am grant rhwng £250,000 a £5 miliwn. Mae dau gam i'r broses ymgeisio.

Am y canllawiau hyn

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i benderfynu ai Menter Treftadaeth yw'r dull cywir ar gyfer eich prosiect. Bydd hefyd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddatblygu cais yn y cyfnod datblygu a chyflawni.

Sylwer: Mae'r canllawiau hyn wedi'u hadolygu yn wyneb y strategaeth Treftadaeth 2033 a lansiwyd ym mis Mawrth 2023. Rydym yn bwriadu cynnal adolygiad ehangach o'r canllawiau yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd wrth gyflawni'r prosiectau hyn ers lansio'r fenter yn 2017 a byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau erbyn diwedd 2024.

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â'n canllawiau ymgeisio ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a'r Canllaw Derbyn Grant.

Datganiad o Ddiddordeb

Mae ein proses ymgeisio yn gystadleuol ac ni allwn ariannu pob cais o ansawdd da rydym yn ei dderbyn.

Rydym yn cydnabod y gwaith sy'n mynd i baratoi cais ac felly i'n helpu i hidlo unrhyw brosiectau sy'n annhebygol o dderbyn cyllid, ac er mwyn eich rhwystro rhag paratoi cais llawn yn ddiangen, rhaid i chi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn gyntaf.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu a ydym am eich gwahodd i gyflwyno cais cyfnod datblygu ai peidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym ni ond mae'n dangos ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.

Ein nod yw ymateb i'ch Datganiad o Ddiddordeb o fewn 20 diwrnod gwaith o'i dderbyn. Os byddwn yn penderfynu eich gwahodd i wneud cais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf. Bydd gennych 12 mis i gyflwyno cais.

Os nad ydym yn eich gwahodd i wneud cais byddwn yn esbonio ein rheswm. Rhaid i chi aros tri mis cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb newydd.

Rydym hefyd yn darparu ystod o adnoddau i'ch helpu i gynllunio eich prosiect treftadaeth, ac enghreifftiau o brosiectau sydd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus. Gallwch ddod o hyd i'r rhain ar ein gwefan.

Pwy rydym yn ei ariannu

O dan y broses hon, rydym yn ariannu ceisiadau gan:

  • sefydliadau nid-er-elw
  • partneriaethau rhwng sefydliadau masnachol a nid-er-elw

Os ydych yn gwneud cais fel partneriaeth, bydd angen i chi enwebu prif ymgeisydd. Gall y prif ymgeisydd fod yn sefydliad masnachol neu'n sefydliad nid-er-elw. Dylai'r ymgeisydd arweiniol ddarparu cytundeb partneriaeth wedi'i lofnodi yn dangos cyfranogiad pob partner a sut y caiff y prosiect ei reoli.

Un o nodau allweddol y broses Menter Treftadaeth yw integreiddio buddiannau masnachol a chymunedol o fewn prosiectau adfywio a arweinir gan dreftadaeth. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bartneriaethau. Anogir sefydliadau sector preifat er elw i gymryd rhan a chaniateir iddynt fod yn brif ymgeisydd mewn partneriaeth ag un neu fwy o sefydliadau nid-er-elw.

Efallai y byddwch am greu cyfrwng neu fenter ar y cyd at ddiben arbennig i gyflawni eich prosiect Menter Treftadaeth. Gallwch wneud cais i ni am grant i helpu i greu'r fframwaith cyfansoddiadol cywir (gan gynnwys costau cael cyngor proffesiynol ar strwythurau cyfreithiol a llywodraethu) cyn i chi wneud cais am grant Menter Treftadaeth.

Gall y sector preifat er-elw ymgysylltu â phrosiectau Menter Treftadaeth mewn sawl ffordd, e.e.:

  • Trwy ffurfio partneriaeth ddatblygu gyda grŵp nid-er-elw. Yn y modd hwn bydd y cwmni masnachol yn buddsoddi mewn rhai o'r costau cyfalaf ac yn cymryd adenillion o'r incwm rhent a gynhyrchir gan y busnes a feddiannir o fewn y dreftadaeth warchodedig. Bydd y swm a dynnir yn ôl yn elw rhesymol ar eu buddsoddiad.
  • Trwy feddiannu a sefydlu eu busnesau mewn adeiladau hanesyddol wedi'u hadnewyddu, talu rhenti'r farchnad i'r sefydliad neu bartneriaeth nid-er-elw sy'n rheoli'r dreftadaeth. Bydd hyn yn cynhyrchu refeniw i'r sector nid-er-elw er mwyn cynnal y dreftadaeth yn y dyfodol yn ogystal â darparu elw rhesymol i'w ail-fuddsoddi yn eu gweithgareddau craidd.
  • Trwy ddarparu rhywfaint o'r cyfalaf ochr yn ochr â'n grant ar gyfer cadwraeth ac addasu'r dreftadaeth. Yn yr achosion hyn, mae'r cwmni buddsoddi yn debygol o fod yn berchen ar y dreftadaeth neu fod â phrydles hir arni, a gallai ymrwymo i drefniant prydles gyda sefydliad nid-er-elw.

Mae croeso i bob un o'r dulliau hyn, a bydd eraill yn dod i'r amlwg.

Rydym yn disgwyl cefnogi nifer o brosiectau gan sefydliadau nid-er-elw yn unig, ond mae prosiectau mwy yn debygol o angen ymglymiad y sector preifat er elw er mwyn cynhyrchu'r math o effaith economaidd rydym yn edrych amdano.

Dyma rai enghreifftiau o'r mathau o sefydliadau nid-er-elw rydym yn eu hariannu:

  • elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau corfforedig elusennol (SCEau)
  • grwpiau cymunedol neu wirfoddol
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • sefydliadau'r eglwys a ffydd
  • cynghorau cymuned/plwyf
  • awdurdodau lleol
  • sefydliadau sector cyhoeddus eraill, megis amgueddfeydd a ariennir yn genedlaethol

Rydym yn disgwyl i gyfansoddiad yr ymgeisydd arweiniol gynnwys y canlynol (oni bai bod yr ymgeisydd arweiniol yn sefydliad cyhoeddus neu'n sefydliad masnachol):

  • enw cyfreithiol a nodau eich sefydliad
  • datganiad sy'n atal eich sefydliad rhag dosbarthu incwm neu eiddo i aelodau yn ystod ei oes
  • datganiad sy'n cadarnhau, os caiff eich sefydliad ei ddiddymu, bydd asedau'r sefydliad yn cael eu dosbarthu i sefydliad elusennol neu nid-er-elw arall ac nid i aelodau'r sefydliad
  • y dyddiad y mabwysiadwyd y cyfansoddiad
  • llofnod eich cadeirydd neu berson awdurdodedig arall

Ni allwn ariannu eich sefydliad os nad yw eich cyfansoddiad yn cynnwys yr uchod. Mae'r Comisiwn Elusennau yn darparu arweiniad ar greu dogfen lywodraethol.

Nid oes angen i ni weld eich dogfen lywodraethol os ydych yn:

  • sefydliad cyhoeddus; er enghraifft, awdurdod lleol neu brifysgol
  • elusen sydd wedi'i chofrestru gyda'r Comisiynau Elusennau ar gyfer Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu gyda Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban

Rydym yn disgwyl i unrhyw fudd preifat mewn prosiectau Menter Treftadaeth fod yn rhesymol, yn briodol ac yn gymesur ac na ddylai orbwyso buddion i'r dreftadaeth, i'r gymuned leol ac i'r economi.

Rheolaeth cymhorthdal

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae'n bwysig cofio bod ein grant yn dod o gronfeydd cyhoeddus a gallai fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.

Cymhorthdal yw pan fo awdurdod cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol o arian cyhoeddus sy'n rhoi mantais economaidd i'r derbynnydd, lle na ellid bod wedi cael cymorth cyfatebol ar delerau'r farchnad. Bydd mwyafrif ein grantiau naill ai ddim yn gymhorthdal neu'n gymhorthdal cyfreithlon sy'n bodloni gofynion Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022.

Ein cyfrifoldeb ni yw asesu a yw grant yn gymhorthdal ac mae ein hasesiad rheoli cymhorthdal yn rhan bwysig o'ch cais. Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â'r gofynion allweddol a rhoi unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnom yn rhesymol i gwblhau asesiad rheoli cymhorthdal. 

Os yw'r prif ymgeisydd yn sefydliad masnachol rhaid darparu'r canlynol:

  • erthyglau cymdeithasu
  • datganiad hydaledd
  • pan fo'r ased sy'n derbyn cymorth grant yn eiddo i sefydliad masnachol, datganiad sy'n cadarnhau y bydd enillion net sy'n fwy na'r incwm a'r gwariant a ragwelir i sefydlu'r diffyg cadwraeth, ymhen pum mlynedd a naw mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect, yn cael eu rhannu â ni yn unol â chanran ein grant

Yr hyn yr ydym yn ei ariannu

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Bydd gan brosiect Menter Treftadaeth y potensial i ddatgloi ased treftadaeth sydd angen buddsoddiad a'i ddefnyddio fel ysgogiad ar gyfer twf economaidd. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cynnwys atgyweirio ac addasu adeilad neu ased hanesyddol neu grŵp cydlynol o adeiladau neu asedau hanesyddol at ddefnydd terfynol sy'n cynhyrchu incwm masnachol cynaliadwy.

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sydd wedi'u lleoli o fewn ardaloedd o'r DU sydd dan anfantais economaidd. Nid oes angen lleoli prosiectau o fewn ardaloedd dynodedig o amddifadedd ond byddwn yn gofyn i chi ddiffinio angen economaidd yr ardal a'r gwahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud.

Byddwn hefyd yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sy'n canolbwyntio ar asedau treftadaeth:

  • sy'n cael eu hystyried o fod ‘mewn perygl’; er enghraifft, wedi'i nodi ar ‘gofrestr mewn perygl’
  • ac sydd wedi'i ddynodi'n ffurfiol; er enghraifft, adeilad rhestredig neu adeilad rhestredig lleol, heneb gofrestredig neu mewn ardal gadwraeth

Byddwn yn ystyried ceisiadau am asedau heb eu dynodi os gallwch ddadlau eu bod naill ai o bwysigrwydd treftadaeth digonol i haeddu dynodiad neu eu bod o werth treftadaeth arbennig i'r gymuned leol.

Bydd ceisiadau am grantiau drwy'r broses Menter Treftadaeth yn cael eu hystyried ar sail y diffyg cadwraeth yn unig ac nid ar anallu'r ymgeisydd i ariannu cynllun sy'n fasnachol hyfyw. Bydd angen i chi roi syniad o'r diffyg cadwraeth trwy gyflwyno gwybodaeth o werthusiad hyfywedd yn y cais cyfnod datblygu. Yna bydd y diffyg cadwraeth yn cael ei gyfrifo drwy baratoi gwerthusiad datblygu, ar ôl dyfarnu grant cyfnod datblygu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Gwerthusiadau Datblygu.

Mae prosiect yn cyfeirio at waith neu weithgaredd:

  • sy'n cael ei ddiffinio o'r cychwyn
  • sydd heb ddechrau eto
  • ni fydd yn cymryd mwy na phum mlynedd i'w gwblhau
  • sy'n cyfrannu at gyflawni ein hegwyddorion buddsoddi

Gallwch wneud cais i ni am grant i helpu i baratoi'r gwerthusiad hyfywedd cyn i chi wneud cais am grant Menter Treftadaeth.

Bydd angen atebion wedi'u teilwra ar gyfer prosiectau unigol, ond byddwn yn disgwyl i'r rhai a ariannwn gefnogi defnydd economaidd sy'n creu refeniw digonol i ddarparu enillion rhesymol i'r perchennog/datblygwr a darparu digon o incwm i dalu am gynnal a chadw ac atgyweirio parhaus yr ased treftadaeth unwaith i'r prosiect gael ei gwblhau.

Byddwn yn ystyried prosiectau sy'n canolbwyntio ar dai preswyl neu gymdeithasol lle dangosir mai dyma'r defnydd economaidd hyfyw mwyaf priodol ar gyfer adeilad neu grŵp o adeiladau a lle mae tystiolaeth glir o angen lleol am dai.

Trwy Fenter Treftadaeth gallwn ariannu:

  • prynu ased treftadaeth sydd angen buddsoddiad
  • gwaith cadwraeth hanfodol, fel atgyweiriadau strwythurol i adeilad hanesyddol
  • atgyweiriadau ac addasiadau i ddod ag adeiladau a safleoedd gwag ac adfeiliedig i'w defnyddio eto'n fasnachol hyfyw
  • dodrefnu adeilad i lefel sylfaenol (a elwir weithiau yn ‘Gategori A’)

Gallwn ariannu gweithgareddau i helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth, gan gynnwys:

  • hyfforddiant mewn cadwraeth, mentora, dysgu, rheoli neu sgiliau digidol i bobl sy'n cyflawni'r prosiect
  • gweithgareddau neu wybodaeth sy'n galluogi pobl i ddysgu am dreftadaeth yr adeiladau neu'r safleoedd yn eich prosiect Menter Treftadaeth

Rydym hefyd yn cefnogi gwaith i'ch helpu i ddatblygu a rheoli eich prosiect, fel:

  • prisiadau, ffioedd proffesiynol neu gostau sy'n gysylltiedig â chael y caniatâd statudol angenrheidiol
  • ymchwil arbenigol i sicrhau bod y gwaith cadwraeth a datblygu yn cael ei lywio'n briodol gan ddealltwriaeth drylwyr o arwyddocâd yr ased treftadaeth a'i anghenion atgyweirio
  • paratoi gwerthusiad datblygiad
  • cyflogi staff y prosiect

Gallwch wneud cais am swm cyfyngedig o arian ar gyfer gwariant cyfalaf yn ystod datblygiad prosiect i gefnogi, er enghraifft:

  • atgyweiriadau brys i atal yr ased rhag dirywio ymhellach wrth gwblhau gwaith cynllunio manwl
  • strwythurau dros dro newydd wedi'u dylunio i ganiatáu ‘defnyddiau cyfamser’ yn ystod datblygiad y prosiect

Ni ddylai cyfanswm y gwariant ar gyfer gwaith cyfalaf yn ystod y cyfnod datblygu fel arfer fod yn fwy na 10% o'ch cais grant cyflawni. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran Gwaith cyfalaf yn ystod eich cyfnod datblygu.

Mae'r broses asesu yn gystadleuol ac ni allwn ariannu pob un o'r ceisiadau ansawdd uchel a dderbyniwn.

Fel canllaw, mae'r canlynol yn annhebygol o ennill cefnogaeth:

  • prosiectau a arweinir gan unigolyn preifat
  • prosiectau lle mae'r prif ffocws yn
  • barc trefol
  • addoldy gweithgar
  • prosiectau sy'n cynnwys defnyddiau preswyl na allant ddangos mai defnydd preswyl yw'r ateb mwyaf priodol ar gyfer yr adeilad(au) ac na allant ddangos bod y prosiect yn ymateb i angen lleol neu fod ganddo fuddion cymdeithasol a chymunedol amlwg

Yn yr achosion hyn gall ein Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fod yn fwy priodol.

Os yw eich prosiect wedi'i gynllunio i fod o fudd i bobl yng Nghymru, rhaid i chi wneud defnydd priodol o'r Gymraeg wrth gyflawni eich prosiect.

Costau uniongyrchol prosiect

Dylai eich cais gynnwys yr holl gostau sy'n codi'n uniongyrchol o ganlyniad i'r prosiect.

Mae costau uniongyrchol prosiect yn cynnwys:

  • caffael eiddo a chostau cysylltiedig
  • gwaith cyfalaf, gan gynnwys atgyweiriadau, trosi a chostau adeiladu newydd
  • costau rheoli datblygiadau
  • ffioedd cynllunio a rheoli adeiladu
  • costau cyllid
  • ymchwil, megis arolygon arbenigol neu ymchwil hanesyddol
  • paratoi gwerthusiadau datblygu
  • lle bo'n berthnasol, paratoi cynlluniau rheoli a chynnal a chadw, datganiadau gweithgareddau, cynlluniau cadwraeth a chynlluniau busnes
  • taliadau/bwrsariaethau ar gyfer hyfforddeion
  • swyddi staff newydd, oriau ychwanegol ar gyfer staff presennol neu ymestyn oriau aelod presennol o staff
  • ffioedd proffesiynol
  • gwerthuso
  • hyrwyddo
  • costau ychwanegol i'ch sefydliad, megis offer neu rent ychwanegol

Nid yw costau uniongyrchol yn cynnwys:

  • staff presennol neu gostau sefydliadol, oni bai eu bod yn cael eu cyfrifo trwy Adennill Costau Llawn
  • gweithgareddau sy'n digwydd y tu allan i'r DU
  • cyfrifoldebau statudol a/neu gyfreithiol
  • hyrwyddo achos neu gredoau sefydliadau gwleidyddol neu ffydd
  • TAW y gellir ei adennill
  • costau am arian sydd eisoes wedi'i wario

Adennill Costau Llawn

Os ydych yn fudiad yn y sector gwirfoddol (er enghraifft, efallai bod gennych fwrdd ymddiriedolwyr a bod y sefydliad yn cael ei ariannu gan grantiau a rhoddion), gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad drwy adennill costau llawn.

Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau cyllid ar gyfer holl gostau cynnal prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn am gyllid ar gyfer costau uniongyrchol y prosiect yn ogystal â chyfran gymesur o gostau sefydlog eich sefydliad.

Gall hyn gynnwys costau sy'n cefnogi'r prosiect yn rhannol, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich sefydliad yn eu darparu, fel cyflogau staff sy'n gweithio ar draws prosiectau ym meysydd gweinyddu, rheoli, AD, neu godi arian; costau swyddfa fel rhent neu gyfleustodau; a ffioedd cyfreithiol neu archwilio.

Gall cyllid sy'n talu am rai o'ch costau cynnal fod yn bwysig i'ch cynaliadwyedd, felly rydym yn eich annog i ystyried cynnwys hyn yn eich cyllideb yn y categori costau ‘Adennill costau llawn’ os ydych yn gymwys.

Mae canllawiau cydnabyddedig ar gyfrifo'r swm adennill costau llawn sy'n berthnasol i'ch prosiect ar gael gan sefydliadau fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Eich cyfraniad

Gofynnwn i chi gyfrannu at eich prosiect. Bydd y cyfraniad hwn yn dibynnu ar eich diffyg cadwraeth.

Os ydych yn gwneud cais am grant o hyd at £1 miliwn rhaid i chi gyfrannu o leiaf 5% o'r diffyg cadwraeth.

Os ydych yn gwneud cais am grant datblygu i'ch helpu i ddatblygu eich cais cyfnod cyflawni, rhaid i chi hefyd gyfrannu 5% o gostau eich cyfnod datblygu.

Os ydych yn gwneud cais am grant o £1 miliwn neu fwy, rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o'r diffyg cadwraeth.

Os ydych yn gwneud cais am grant datblygu i'ch helpu i ddatblygu eich cais cyfnod cyflawni, rhaid i chi hefyd gyfrannu 10% o gostau eich cyfnod datblygu.

Dylech ystyried a allai cyllidwyr, sefydliadau neu bobl eraill gefnogi eich prosiect. Bydd hyn yn helpu i ddangos i ni fod pobl a sefydliadau eraill yn gwerthfawrogi eich prosiect a'r buddion rydych yn ceisio eu cyflawni.

Rydym yn disgrifio'r cyfraniad hwn fel ‘cyllid partneriaeth’ a gall fod yn arian parod, ariannu benthyciadau, amser gwirfoddolwyr, cyfraniadau eraill, neu gyfuniad o'r rhain i gyd.

Cyfraniadau arian: gall hyn fod o gronfeydd wrth gefn eich sefydliad eich hun, rhodd gan gymwynaswr, grant gan gyllidwr arall neu gymorth codi arian arall fel cyllid torfol.

Cyfraniadau eraill: unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y prosiect nad oes rhaid i chi dalu amdano; er enghraifft llogi ystafell neu offer. Byddwn yn derbyn cyfraniadau di-arian dim ond os ydynt yn gostau prosiect uniongyrchol a allai fod wedi bod yn rhan o gyllideb eich prosiect.

Amser gwirfoddol: dyma'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i gefnogi cyflawni eich prosiect. Gallai hyn gynnwys gwaith gweinyddol, clirio safle neu weithredu fel stiward mewn digwyddiad.

Ni ddylech gynnwys costau ar gyfer amser pobl a fydd yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau (er enghraifft, pobl sy'n mynychu gweithdy neu'n mynd ar daith dywys). Rydym yn defnyddio cyfradd safonol o £20 yr awr i gyfrifo amser gwirfoddolwyr.

Gellir cynnwys gwerth costau cynyddol rheoli a chynnal a chadw yn y dyfodol am hyd at bum mlynedd ar ôl cwblhad ymarferol fel cyllid partneriaeth.

Dylech ystyried cynnwys swm sy'n gyfartal i'r cynnydd yng ngwerth yr ased treftadaeth fel incwm prosiect, naill ai o gyllid benthyciad neu fel arian parod gan eich sefydliad eich hun.

Proses ymgeisio

Gwneud cais

Cyfeiriwch at ein canllawiau ymgeisio a nodiadau cymorth ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol rhwng £250,000 a £10 miliwn am wybodaeth lawn. Sylwch mai uchafswm y grant sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer prosiectau Menter Treftadaeth yw £5 miliwn.

Rhaid i chi gyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a byddwn yn rhoi gwybod i chi os cewch eich gwahodd i wneud cais am grant Menter Treftadaeth. Mae ceisiadau Menter Treftadaeth yn mynd trwy broses ddwy rownd. Mae hyn er mwyn i chi allu gwneud cais yn gynnar yn y broses o gynllunio eich prosiect a chael syniad a allai eich prosiect fod yn briodol ar gyfer ein hariannu.

Mae dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau datblygu a chyflwyno yn chwarterol. Unwaith i ni dderbyn eich cais, byddwn yn ei asesu o fewn 12 wythnos, ac yn dilyn asesiad, bydd yn cael ei neilltuo i'r cyfarfod penderfynu nesaf.

Chi sy'n penderfynu faint o amser sydd ei angen arnoch i ddatblygu eich cynigion ar gyfer y cyfnod cyflawni. Gallwch gymryd hyd at 24 mis, yn dibynnu ar gymhlethdod eich prosiect.

Unwaith i chi gyflwyno eich ffurflen gais nid yw'n bosibl i ni ddychwelyd hon atoch ar gyfer gwaith pellach, nac i ryddhau copi newydd. Mae'n bwysig felly sicrhau eich bod yn hapus gyda'ch atebion cyn i chi gyflwyno eich cais cyfnod datblygu neu gais cyfnod cyflawni i ni.

Cais cyfnod datblygu

Pwrpas eich cais am grant datblygu yw eich helpu i dalu costau paratoi i wneud y prosiect.  Wrth gyflwyno'r cais hwn, byddwch hefyd yn nodi eich cais grant cyflawni tebygol.

Cyfnod datblygu

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn dechrau eich prosiect cyfnod datblygu.  Dyma pryd y byddwch yn datblygu'r holl wybodaeth, arolygon, cynlluniau a gofynion eraill i'ch galluogi i gyflwyno cais cyfnod cyflawni llawn.

Cais cyfnod cyflawni

Mae eich cais cyfnod cyflawni yn nodi manylion llawn eich prosiect gan gynnwys costau prosiect a chais terfynol am grant.

Cyfnod cyflawni

Os dyfernir grant i chi, byddwch yn dechrau eich cyfnod cyflawni ac yn dechrau eich prosiect gan ddefnyddio eich grant cyflawni.

Cais cyfnod datblygu / Cais cyfnod cyflawni

Cais cyfnod datblygu

Gweithgareddau (fel y bo'n briodol)

Cynigion amlinellol:

  • Pwy mae eich prosiect yn debygol o'i gynnwys
  • Natur ac ystod y gweithgareddau a fydd yn ymgysylltu pobl â threftadaeth

Gwaith cyfalaf

Cynigion amlinellol:

  • Gwybodaeth o'ch gwerthusiad hyfywedd, neu ddogfen gyfatebol sy'n rhoi syniad o'r diffyg cadwraeth
  • Cynllun cadwraeth drafft
  • Dadansoddiad cychwynnol o'r gwaith cyfalaf rydych yn bwriadu ei gyflawni
  • Manylion perchnogaeth Eiddo Treftadaeth neu gynlluniau i gyflawni hyn yn y cyfnod cyflawni
  • Cynlluniau ar gyfer elfennau pensaernïol hyd at ac yn cynnwys cam gwaith 1 RIBA (neu hen gam gwaith RIBA B)* * Am ragor o wybodaeth am gamau gwaith RIBA, gweler https://www.architecture.com/ knowledge-and-resources/resources-landing-page/riba-plan-of-work  
  • Cynlluniau ar gyfer elfennau nad ydynt yn bensaernïol, fel dehongliadau neu allbynnau digidol, ar yr hyn sy'n cyfateb i gam gwaith 1 RIBA (neu hen gam gwaith B RIBA)
  • Cynlluniau manwl ar gyfer gwaith cyfalaf hoffech ei wneud yn ystod eich cyfnod datblygu, ar yr hyn sy'n cyfateb i gam gwaith 3 RIBA (neu hen gam gwaith D RIBA)

Egwyddorion buddsoddi

Amlinellwch wybodaeth am sut rydych wedi ystyried y pedair egwyddor buddsoddi yn eich cais am brosiect. Efallai y byddwch yn canolbwyntio mwy ar rai egwyddorion buddsoddi nag eraill. Chi sydd i benderfynu a dangos cryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor. Gall eich cais am arian datblygu gynnwys cymorth tuag at weithio ar eich ymagwedd at unrhyw un o'r egwyddorion buddsoddi yn fanwl.

Rheolaeth y prosiect

  • Cytundeb partneriaeth (os yn berthnasol)
  • Gwybodaeth fanwl am y gwaith y byddwch yn ei wneud yn ystod eich cyfnod datblygu
  • Gwybodaeth fanwl am sut y byddwch yn rheoli eich cyfnod datblygu, gan gynnwys briffiau ar gyfer gwaith i'w wneud gan ymgynghorwyr a disgrifiadau swydd newydd
  • Amserlen fanwl ar gyfer eich cyfnod datblygu
  • Gwybodaeth fras am sut y byddwch yn rheoli eich cyfnod cyflawni
  • Amserlen fras ar gyfer cyfnod cyflawni

Ar ôl i'r prosiect ddod i ben

Gwybodaeth fras am sut y byddwch yn cynnal canlyniadau eich prosiect ar ôl i'r cyllid ddod i ben, gan gynnwys ariannu costau cynnal ychwanegol

Costau'r prosiect

  • Costau manwl ar gyfer eich cyfnod datblygu
  • Costau bras ar gyfer eich cyfnod cyflawni

Ffynonellau posibl o gyllid partneriaeth ar gyfer eich cyfnod cyflawni a/neu strategaeth codi arian ar gyfer eich cyfnod datblygu

Cais cyfnod cyflawni

Gweithgareddau (fel y bo'n briodol)

Cynigion manwl:

  • Datganiad gweithgaredd manwl, yn dangos holl weithgareddau eich prosiect

Gwaith cyfalaf

Cynigion manwl:

  • Gwerthusiad datblygiad sy'n sefydlu'r bwlch diffyg cadwraeth
  • Cynllun cadwraeth
  • Cynlluniau a chynigion manwl ar gyfer gwaith cyfalaf rydych yn bwriadu ei gyflawni
  • Cynlluniau manwl ar gyfer elfennau pensaernïol hyd at ac yn cynnwys cam gwaith 3 RIBA (neu hen gam gwaith D RIBA)
  • Cynlluniau ar gyfer elfennau nad sy'n bensaernïol, fel dehongliadau neu allbynnau digidol sy'n cyfateb i gam gwaith 3 RIBA (neu hen gam gwaith D RIBA)
  • Cadarnhawyd bod manylion perchnogaeth eiddo yn bodloni ein gofynion
  • Gwerthusiad annibynnol i gefnogi caffael eiddo treftadaeth

Egwyddorion buddsoddi

Gwybodaeth fanwl ar sut mae eich prosiect wedi ystyried pob egwyddor buddsoddi, gan nodi sut y bydd y prosiect yn dangos effaith ar gyfer y rhai rydych wedi dewis canolbwyntio arnynt.

Rheolaeth y prosiect

  • Cytundeb partneriaeth wedi'i ddiweddaru (os yw'n berthnasol)
  • Gwybodaeth fanwl am sut y byddwch yn rheoli eich cyfnod cyflawni, gan gynnwys briffiau ar gyfer gwaith i'w wneud gan ymgynghorwyr a disgrifiadau swydd newydd
  • Amserlen fanwl ar gyfer eich cyfnod cyflawni
  • Cynllun busnes prosiect, os oes angen

Ar ôl i'r prosiect ddod i ben

  • Gwybodaeth fanwl am sut y byddwch yn cynnal canlyniadau eich prosiect ar ôl i'r cyllid ddod i ben, gan gynnwys ariannu costau cynnal ychwanegol
  • Gwybodaeth fanwl am sut y byddwch yn gwerthuso eich prosiect
  • Cynllun rheoli a chynnal

Costau'r prosiect

  • Costau manwl ar gyfer eich cyfnod cyflawni
  • Arwydd y byddwch wedi sicrhau cyllid partneriaeth cyn i chi ddechrau eich cyfnod cyflawni

Eich cyfnod datblygu

Rydym yn deall y gall eich cynnig prosiect newid yn unol â'r ymgynghoriad, y dylunio a'r cynllunio manwl, a'r gwaith arolygu sy'n cael ei wneud yn ystod eich cyfnod datblygu.

Adolygiad datblygu

Byddwn yn adolygu eich prosiect yn ystod eich cyfnod datblygu i weld sut rydych yn dod ymlaen gyda'ch cais cyfnod cyflawni a dogfennau ychwanegol. Byddwn yn edrych ar eich cynlluniau pan eu bod yn unol â cham gwaith 3 RIBA. Dyma pryd y byddwn hefyd yn adolygu drafft o'ch gwerthusiad datblygiad.

Canllawiau

Wrth gynllunio eich cyfnod datblygu, fe'ch cynghorir i ddarllen:

Tasgau allweddol y cyfnod datblygu

  1. Dylech barhau i weithio drwy'r broses cynllunio cadwraeth, gan fireinio eich dealltwriaeth o'ch treftadaeth a'r cyfleoedd i rannu eich treftadaeth ag eraill fel y bydd eich prosiect yn manteisio'n llawn ar ei photensial wrth fynd i'r afael ag unrhyw risgiau a bygythiadau a nodwyd gennych. Dylech rannu drafft o'ch cynllun cadwraeth gyda ni yn ystod eich cyfnod datblygu.
  2. Gwnewch unrhyw waith cyfalaf rydych wedi nodi eich bod am ei wneud yn ystod y cyfnod datblygu – h.y. i hwyluso atgyweiriadau brys dros dro neu ddefnyddiau cyfamser.
  3. Paratowch werthusiad datblygu.
  4. Paratowch gynllun busnes prosiect, os oes angen.
  5. Cynhaliwch unrhyw arolygon, ymgynghoriadau neu ymchwiliadau sydd eu hangen i ddatblygu eich cynlluniau a chynigion manwl; er enghraifft, archwiliad mynediad, asesiad o berfformiad amgylcheddol eich adeilad neu ymchwil marchnad deiliad. Ystyriwch a oes unrhyw faterion cyfreithiol yn ymwneud â pherchnogaeth sydd angen eu gwella er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni ein gofynion ar gyfer y cyfnod cyflawni.
  6. Ymgynghorwch â chynulleidfaoedd newydd a phresennol fel y bo'n briodol yn unol â defnydd arfaethedig yr adeilad. Os yw'n briodol, gallwch ddatblygu cynllun gweithgaredd yn nodi sut y byddwch yn datblygu'r cynulleidfaoedd hyn ac yn ymgysylltu pobl â threftadaeth.
  7. Datblygwch amserlen fanwl, costau a llif arian ar gyfer eich cyfnod cyflawni.
  8. Ystyriwch yn fanwl sut y bydd eich prosiect yn effeithio ar eich sefydliad/partneriaeth a sut y byddwch yn rheoli'r newid hwn. Efallai bydd angen i chi gynnal adolygiad llywodraethu.
  9. Ystyriwch sut y byddwch yn cynnal yr ased treftadaeth a'i ddefnydd newydd ar ôl i'r cyllid ddod i ben, a sut y byddwch yn talu unrhyw gostau cynnal ychwanegol. Bydd y wybodaeth hon yn rhan o'ch cynllun rheoli a chynnal, a chynllun busnes eich prosiect, lle bo angen.
  10. Ystyriwch sut y byddwch yn gwerthuso eich prosiect, a chasglu data sylfaenol fel y gallwch fesur y gwahaniaeth y mae eich prosiect yn ei wneud.
  11. Ystyriwch sut y byddwch yn prynu nwyddau, gwaith a gwasanaethau yn ystod eich cyfnod cyflawni.
  12. Ystyriwch sut y byddwch yn cydnabod ac yn hyrwyddo ein grant.
  13. Gwnewch y gwaith sydd ei angen i gynhyrchu'r holl ddogfennau ategol perthnasol ar gyfer eich cais cyfnod cyflawni. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran Dogfennau Ategol.

Sut rydym yn asesu eich cais

Wrth asesu eich ceisiadau cyfnod datblygu a chyfnod cyflawni, byddwn yn ystyried y canlynol:

  • a yw eich prosiect yn berthnasol i dreftadaeth y DU
  • yr anghenion a'r cyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw
  • risgiau a mesurau lliniaru a gynigir gan dîm y prosiect
  • pa mor gryf y bydd eich prosiect yn ystyried y pedair egwyddor buddsoddi
  • sut bydd effaith eich prosiect yn cael ei chynnal

Gallwn hefyd ystyried materion fel sicrhau lledaeniad daearyddol o'n cyllid.

Os nad yw'ch cais yn amlwg yn ymwneud â threftadaeth y DU neu os nad yw'n ystyried pob un o'r pedair egwyddor buddsoddi, mae'n bosibl y caiff ei wrthod yn gynharach yn ystod y broses asesu a byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Dylech ateb pob cwestiwn yn y cais a gwneud yn siŵr eich bod yn dweud wrthym am eich gweledigaeth ar gyfer y prosiect. Dyma'r unig adran o'r ffurflen gais sy'n cael ei chyflwyno'n uniongyrchol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Dyma'ch cyfle i egluro beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni a beth fydd gwaddol eich prosiect.

Ystyried risg

Wrth asesu eich cais, byddwn yn gwneud dyfarniad pwyllog ar y risgiau posibl i'ch prosiect a'r risgiau sefydliadol – a byddwn yn edrych i weld a ydych wedi nodi'r rhain ac wedi dweud wrthym sut y byddwch yn lliniaru yn eu herbyn.

Bydd pob prosiect yn wynebu bygythiadau a chyfleoedd mae angen eu nodi a'u rheoli. Rydym am i chi fod yn realistig ynghylch y risgiau y gall eich prosiect a'ch sefydliad eu hwynebu fel eich bod mewn sefyllfa dda i reoli a chyflwyno'r prosiect yn llwyddiannus.

Dylech hefyd ystyried chwyddiant a chostau wrth gefn yn ofalus yn eich cais.

Y mathau o risgiau a phroblemau y dylech eu hystyried:

  • ariannol: er enghraifft, cyfraniad llai o ffynhonnell ariannu arall
  • sefydliadol: er enghraifft, prinder pobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch neu staff sydd eu hangen i weithio ar brosiectau eraill
  • economaidd: er enghraifft, cynnydd annisgwyl yng nghost deunyddiau
  • technegol: er enghraifft, darganfod lleithder annisgwyl ac eang
  • cymdeithasol: er enghraifft, ymatebion negyddol i ymgynghoriad neu ddiffyg diddordeb gan eich cynulleidfa darged
  • rheolaeth: er enghraifft, newid sylweddol yn nhîm y prosiect
  • cyfreithiol: er enghraifft, rheoli cymhorthdal, neu newidiadau yn y gyfraith sy'n gwneud y prosiect yn anymarferol
  • amgylcheddol: er enghraifft, anawsterau wrth ddod o hyd i ffynonellau pren o goedwigoedd a reolir yn dda

Sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud

Bydd eich cais yn cystadlu â phrosiectau eraill yn y cyfnod datblygu a chyflawni. Mae'n bwysig nodi nad yw dyfarniad grant cyfnod datblygu yn gwarantu y byddwch yn derbyn dyfarniad grant cyfnod cyflawni.

Pwyllgorau yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a Lloegr sy'n penderfynu ar geisiadau gyda chais datblygu a chyflawni ar y cyd rhwng £250,000 a £5 miliwn.

Mae angen 12 wythnos arnom i asesu eich cais. Unwaith i'ch cais gael ei asesu, bydd yn mynd i gyfarfod arferol nesaf y pwyllgor perthnasol.

Mae ein penderfynwyr yn defnyddio eu crebwyll i ddewis pa geisiadau i'w cefnogi, gan ystyried ein hegwyddorion buddsoddi a chryfder y prosiect arfaethedig.

Derbyn grant

Cyfeiriwch at ein canllawiau ymgeisio ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o £250,000 i £10 miliwn am wybodaeth lawn.

Telerau grant amrywiol ar gyfer prosiectau Menter Treftadaeth

Hyd y contract

Bydd telerau'r grant yn para o ddechrau'r prosiect tan 10 mlynedd ar ôl cwblhau'r prosiect, gan gynnwys os yw'ch prosiect yn ymwneud â phrynu tir neu adeilad.

Os ydych, ar ôl cwblhau'r prosiect, yn dymuno cael gwared ar unrhyw adeilad a oedd yn rhan o'r prosiect, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd. Os gwerthir yr ased â chymorth grant byddwn yn disgwyl rhannu enillion y gwerthiant. Bydd yr union swm byddwn yn disgwyl ei ad-dalu yn dibynnu ar dri pheth:

  1. A yw gwerth y gwerthiant yn fwy na gwerth ein grant gwreiddiol ai peidio. Sail yr ad-daliad fydd y ffigwr uwch o naill ai gwerth y gwerthiant, neu werth y grant.
  2. Os bydd gwerth y gwerthiant yn fwy na'n grant, byddwn yn disgwyl ad-daliad sy'n cyfateb i'r gyfran o gyfanswm costau'r prosiect a gyfrannwyd gennym.
  3. Yr amser sydd wedi mynd heibio ers cwblhau'r prosiect. Byddwn yn gweithredu graddfa symudol sefydlog ar gyfer ad-daliadau, sy'n gostwng dros amser.
Blwyddyn y contractAd-daliad
0-6Hyd at 100%
6-7Hyd at 80%
7-8Hyd at 60%
8-9Hyd at 40%
9-10Hyd at 20%

Yn gryno:

  • Os gwerth y gwerthiant > gwerth y grant, ad-daliad = gwerth y gwerthiant x ein % o gostau'r prosiect x graddfa symudol yn seiliedig ar flynyddoedd ers cwblhau'r prosiect.
  • Os yw gwerth y grant > gwerth y gwerthiant. ad-daliad = gwerth y grant x graddfa symudol yn seiliedig ar flynyddoedd ers cwblhau'r prosiect.

Uchafswm grant

Uchafswm y grant y gallwch wneud cais amdano yw 90% o'r diffyg cadwraeth, ynghyd â chyfraniad tuag at gostau gweithgaredd. Mae enghraifft o sut i amcangyfrif y diffyg cadwraeth wedi'i nodi yn yr adran Cyfrifo'r Diffyg Cadwraeth.

Elw'r datblygwr

Rydym yn caniatáu i ddatblygwyr, yn y sector nid-er-elw a'r sector preifat, wneud elw rhesymol ar eu buddsoddiad. Yr uchafswm a ganiateir yw 15% o'r costau cyfalaf, gan gynnwys ffioedd, arian wrth gefn a chwyddiant. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Elw'r datblygwr.

Gwaith cyfalaf brys a defnyddiau cyfamser yn ystod y cyfnod datblygu

Fel y nodir uchod yn yr adran ‘Gwaith cyfalaf yn ystod eich cyfnod datblygu’ isod, gallwch wneud cais am swm cyfyngedig o grant i gefnogi gwariant cyfalaf yn ystod cyfnod datblygu eich prosiect. Fel arfer ni ddylai'r swm rydych yn gwneud cais amdano fod yn fwy na 10% o'ch cais am grant cyfnod cyflawni disgwyliedig.

Taliadau llog ar fenthyciadau cyfalaf

Os bu'n rhaid i'ch sefydliad gymryd benthyciad fel cyfraniad cyllid partneriaeth i'r prosiect hwn, gellir cynnwys llog y benthyciad fel cost gymwys yn nhabl costau eich prosiect.

Gwerthusiadau datblygiadau

Diffyg cadwraeth

Mae'r broses Menter Treftadaeth wedi'i greu i helpu i bontio'r bwlch ariannu sy'n atal ased hanesyddol sydd angen ei atgyweirio rhag cael ei ddychwelyd i ddefnydd buddiol ac economaidd hyfyw. Bydd yr achos dros arian grant yn dibynnu ar ddiffyg cadwraeth. Dyma le mae gwerth presennol ased treftadaeth a'r gost o ddod ag ef yn ôl i ddefnydd yn fwy na gwerth yr ased ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau. Cyfrifir y diffyg cadwraeth trwy baratoi gwerthusiad datblygiad.

Mae enghraifft o gyfrifiad diffyg cadwraeth isod.

  1. Dylid defnyddio'r diffyg cadwraeth a'r ffigurau costau i lenwi tabl costau eich prosiect.
  2. Dylid cynnwys swm y cynnydd yng ngwerth yr ased fel

cyfraniad arian parod yn nhabl incwm y cyfnod cyflawni. Dylai hwn fod yn gofnod ar wahân.

Gwerthusiad datblygiad

Mae gwerthusiad datblygiad yn gyfrifiad llif arian ariannol sy'n ystyried yr holl wariant ac incwm yn y broses ddatblygu. Yn syml, mae'n weithdrefn gyfrifyddu sy'n cael ei defnyddio'n eang ar draws y diwydiant eiddo ac adeiladu i asesu'r:

  • hyfywedd (proffidioldeb) cynlluniau datblygu
  • bwlch ariannu lle nad oes unrhyw broffidioldeb yn bodoli
  • graddau o risg
  • gwerth gweddilliol yr adeilad neu'r tir cyn ei ddatblygu

Dylai pris prynu'r adeilad neu'r safle fod gwerth y farchnad agored, os oes angen trafodiad o'r fath fel rhan o'r broses ddatblygu.

Dyma'r broses ar gyfer asesu hyfywedd cynllun datblygu: mae holl gostau ymgymryd â'r datblygiad, yn ogystal ag elw rhesymol i'r datblygwr (gweler pwynt 3 isod), yn cael eu tynnu o werth marchnad y datblygiad gorffenedig (yn seiliedig ar y gwerth gwerthiant cyfalaf tebygol neu incwm rhent ac arenillion buddsoddiad). Y swm sy'n weddill yw gwerth gweddilliol yr adeilad neu'r tir.

Os oes gan y swm hwn werth positif, mae'n bosibl y bydd y cynllun yn hyfyw ac nid oes angen cyllid grant. Ar y llaw arall, os yw'r swm hwn yn negyddol - os oes bwlch ariannu - gellir cyfiawnhau grant, ond dim ond i dalu'r diffyg cadwraeth (h.y. digon i ddod â'r gwerth gweddilliol i sero) ynghyd â chostau rheoli a chynnal a chadw'r adeilad neu'r safle dros gyfnod rhesymol (e.e. pum mlynedd).

Ond gall cyfrifo gwerth marchnad y datblygiad gorffenedig ac amcangyfrif yr holl gostau datblygu fod yn gymhleth iawn. Gall nifer o newidynnau effeithio ar y cyfrifiadau, gan gynnwys ymhlith pethau eraill:

  • cyfradd chwyddiant
  • amrywiadau mewn prisiau yn y marchnadoedd gwerthu a rhentu eiddo
  • cost ac argaeledd cyllid
  • gweithgareddau datblygu eraill yn yr ardal, gan gynnwys darparu seilwaith

Felly, er bod amryw o offer perchnogol i helpu gyda pharatoi gwerthusiadau datblygiad, fe'ch cynghorir yn gryf i geisio cymorth proffesiynol gan brisiwr cofrestredig RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) neu'ch partner datblygwr eich hun. Gallwch gynnwys costau'r gwaith hwn yn eich cais cyfnod datblygu.

Elw'r datblygwr

Er mwyn annog buddsoddiad masnachol mewn atgyweirio a datblygu adeiladau a safleoedd hanesyddol, caniateir elw rhesymol i ddatblygwyr ar eu buddsoddiad. Dylid cynnwys yr ‘elw’ hwn fel cost prosiect wrth gyfrifo'r gwerthusiad datblygu a llenwi tabl costau eich prosiect. Bydd maint yr elw, a'r ffordd y caiff ei gyfrifo, yn cael ei asesu yn ôl nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • maint y risg sy'n cael ei chymryd
  • natur y datblygiad (hyd, cymhlethdod, lleoliad)
  • sefydlogrwydd y farchnad darged

Er mwyn sicrhau bod budd cyhoeddus yn drech na'r potensial ar gyfer elw preifat, ni fyddwn yn derbyn elw sy'n fwy na 15% o elw ar gost cyflawni'r prosiect hyd yn oed pan fo'r risg i'r datblygwr yn uchel. Nid ydym yn gwahaniaethu rhwng y gwahanol sefydliadau sy'n rhan o'r bartneriaeth prosiect. Caniateir cyfradd adennill resymol ar gyfer pob partner prosiect, boed yn sefydliad nid-er-elw neu'n sefydliad preifat er-elw.

Asesiad diwydrwydd dyladwy

Bydd angen i chi roi gwerthusiad datblygiad i ni mewn pryd ar gyfer eich adolygiad cam 2 gwaith RIBA. Fel rhan o'n proses asesu, bydd eich gwerthusiad datblygiad yn destun craffu proffesiynol er mwyn canfod:

  • a yw lefel y grant a geisir yn briodol (fel y'i pennir gan y cyfrifiad diffyg cadwraeth)
  • a yw graddau enillion y datblygwr yn deg ac yn rhesymol

Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais cyfnod cyflawni os oes gennym unrhyw gwestiynau am y cyfrifiadau yn eich gwerthusiad datblygiad. Efallai y byddwn yn gofyn i chi addasu eich cais am grant cyfnod cyflawni, neu efallai y byddwn yn gwrthod eich cais os na fyddwn yn derbyn eich gwerthusiad datblygiad, felly fe'ch anogir yn gryf i gael cymorth proffesiynol priodol i'w baratoi.

Gwerthusiad hyfywedd

Mae'n ofynnol i chi gyflwyno gwerthusiad hyfywedd gyda'ch cais cyfnod datblygu. Datganiad cymharol fyr yw hwn sy'n cynnwys asesiad byr o'ch adeilad neu safle treftadaeth, ei gyflwr a'r opsiynau ar gyfer defnyddiau newydd posibl. Dylai hefyd ystyried yn fras gostau atgyweirio ac addasu, yn ogystal â darparu amcangyfrif rhesymol o werth marchnadol yr ased treftadaeth pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau. Dylai'r gwerthusiad hyfywedd gynnwys digon o wybodaeth i wneud achos argyhoeddiadol dros ddiffyg cadwraeth a'r angen am grant. Nid oes angen cyfrifiadau cost manwl ar yr adeg hon.

Efallai y byddwch yn penderfynu bod angen cyngor proffesiynol arnoch i'ch helpu i baratoi eich gwerthusiad hyfywedd. Gallwch wneud cais i ni am grant i helpu i dalu costau paratoi eich gwerthusiad hyfywedd. Mae sefydliadau eraill hefyd yn cynnig grantiau ar gyfer y math hwn o waith, er enghraifft y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.

Enghraifft cyfrifiad diffyg cadwraeth

Mae enghraifft o sut i amcangyfrif y diffyg cadwraeth wedi'i gynnwys yn y tabl canlynol:

*Mae'r canrannau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion enghreifftiol yn unig. Ceisiwch gyngor proffesiynol ar ganrannau priodol i'w cynnwys. 

CyfalafGwerthoedd £Cyfansymiau £Gwiriad is-gyfanswm £
Gwerth cychwynnol yr eiddo50,000AMHAMH
CadwraethAMH1,400,000AMH
Adeilad newyddAMH120,000AMH
Gwaith cyfalaf arallAMH18,000AMH
OfferAMH36,000AMH
CyllidAMH80,000AMH
Is-gyfanswmAMHAMH1,654,000
Ffioedd ar 15%AMH248,100AMH
Arian wrth gefn ar 10%AMH190,210AMH
Chwyddiant ar 5% o'r cyfalafAMH91,105AMH
Is-gyfanswm (costau cyfalaf)AMHAMH2,183,415
Enillion datblygwr ar 10% (o gostau cyfalaf, ffioedd, arian wrth gefn a chwyddiant)AMH218,341AMH
Cyfanswm costau cyfalaf2,401,757AMHAMH
Gwerth terfynol yr eiddo (ar ôl cwblhau'r gwaith)650,000AMHAMH
Cynnydd mewn gwerth (gwerth terfynol - gwerth cychwynnol)600,000AMHAMH
Diffyg cadwraeth (cyfanswm costau cyfalaf – cynnydd mewn gwerth)2,401,757 – 600,0001,801,757AMH
Cais am grant (uchafswm o 90% o'r diffyg cadwraeth)AMH1,621,581AMH

Tablau costau prosiect

Gan ddefnyddio'r ffigurau o'r enghraifft cyfrifo diffyg cadwraeth, bydd angen i chi gwblhau ein tablau costau fel a ganlyn:

Costau cyfalaf y cyfnod cyflawni

Teitl y gostDisgrifiadCost £TAW £Cyfanswm £
Gwaith atgyweirio a chadwraeth

Gwaith atgyweirio

Atgyweiriadau gwaith maen

Plastro calch

1,166,666233,3341,400,000
Gwaith adeiladu newyddGosod fel gweithle hyblyg60,000060,000
Gwaith adeiladu newyddEstyniad i ddarparu mynediad60,000060,000
Gwaith cyfalaf arallDehongliad digidol15,0003,00018,000
Arall (gan gynnwys costau cyllid yma os cytunwyd arnynt gyda'ch Rheolwr Buddsoddi)Uchafswm o 5 mlynedd o gostau ariannu benthyciad o £600,00080,000080,000
Ffioedd proffesiynol sy'n ymwneud â'r pethau uchodFfioedd 15%206,75041,350248,100
Ffioedd proffesiynol yn ymwneud a'r pethau uchodElw datblygwyr ar 10% o gostau cyfalaf, ffioedd, chwyddiant ac arian wrth gefn)AMHAMH218,342
Cyfanswm y costauAMHAMHAMH2,120,442

Costau gweithgaredd y cyfnod cyflawni

Teitl y gostDisgrifiadCost £TAW £Cyfanswm £
Costau staff newyddAMHAMH00
Hyfforddiant ar gyfer staffAMH10,000010,000
Lleoliadau hyfforddi â thâlAMHAMH00
Hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyrHyfforddi am 1 flwyddyn5,00005,000
Teithio ar gyfer staffAMHAMH00
Teithio a threuliau ar gyfer gwirfoddolwyrAMHAMH00
Offer a deunyddAdnoddau addysgiadol5,00005,000
ArallOffer diogelwch, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus5,0005005,500
Ffioedd proffesiynol sy'n ymwneud â'r pethau uchodAMHAMH00
Cyfanswm y costauAMH25,00050025,500

Cyfnod cyflawni – costau eraill 

Teitl y gostDisgrifiadCost £TAW £Cyfanswm £
Wrth gefn*Wedi'i gyfrifo ar 10% ar waith cyfalaf. 0% costau eraillAMHAMH192,760
Chwyddiant*Wedi'i gyfrifo ar 5% ar waith cyfalaf, costau gweithgaredd a ffioeddAMHAMH92,380
Costau rheoli a chynnal a chadw uwch (uchafswm o 5 mlynedd)Costau ychwanegol am 5 mlynedd50,000AMH50,000
Cyfanswm costau darparuAMHAMH02,481,082

*Rhoddir y canrannau ar gyfer arian wrth gefn a chwyddiant at ddibenion cyfrifo yn unig ac mae angen eu hasesu ar adeg gwneud y cais.

Incwm cyfnod cyflawni

Ffynhonnell ariannuDisgrifiadWedi'i sicrhau?Cyfanswm £
Codi arian/cronfeydd wrth gefn (nodwch y ffynonellau a restrir yn y ffurflen gais)Cyfraniad yr ymgeisydd ac incwm codi arianIe184,501
Arian parod – cynnydd yng ngwerth eiddo. Bydd angen i chi nodi ar wahân amcangyfrif o werth uwch eich eiddo ar ddiwedd y prosiect fel cyfraniad arian parod, p'un a ydych wedi sicrhau benthyciad ai peidio.Benthyciad 5 mlynedd yn erbyn cynnydd yng ngwerth yr eiddo (Prisiad terfynol – prisiad cychwynnol)Na600,000
Mwy o reolaeth a chynnal a chadwCostau rheoli a chynnal a chadw ychwanegol am 5 mlyneddIe50,000
Cais am grant (67%)90% o'r diffyg cadwraeth + 100% o'r costau gweithgareddAMH1,646,581
Cyfanswm incwmAMHAMH2,481,082

Crynodeb ariannol y cyfnod cyflawni

Cyfanswm y costau cyflawni£2,481,082
Cyfanswm incwm cyflawni£2,481,082
Cais grant cyflawni (wedi'i dalgrynnu i lawr i'r £100 agosaf)£1,646,581
Canran grant cyflawni67%

Gwaith cyfalaf yn ystod eich cyfnod datblygu

O dan y broses Menter Treftadaeth, gallwch wneud cais am swm cyfyngedig o grant i gefnogi gwariant cyfalaf yn ystod cyfnod datblygu eich prosiect. Fel arfer ni ddylai'r swm rydych yn gwneud cais amdano fod yn fwy na 10% o'ch cais am grant cyfnod cyflawni disgwyliedig.

Byddwn ond yn ystyried ariannu gwaith cyfalaf yn ystod y cyfnod datblygu os ydych eisoes yn berchen ar yr adeilad neu'r safle a lle caiff gwaith ei ddosbarthu fel naill ai:

  • atgyweiriadau brys, neu
  • ddefnydd cyfamser

Bydd angen i chi ddarparu dadansoddiad llawn o waith cyfalaf yn y daenlen costau fanwl a gyflwynwyd gyda'ch cais cyfnod datblygu.

Atgyweiriadau brys

Mae atgyweiriadau brys yn cyfeirio at waith sy'n angenrheidiol i atal dirywiad pellach yr ased treftadaeth yn ystod cyfnod datblygu'r prosiect (hy hyd at uchafswm o ddwy flynedd). Gall hyn gynnwys:

  • gwaith sefydlogi brys, fel cynnal gwaith maen sy'n cwympo neu osod to dros dro
  • gwaith arall i sicrhau bod adeilad yn ddiogel rhag y tywydd, fel trwsio cwteri a phibellau dŵr sydd wedi'u blocio neu wedi torri, a chau ffenestri ac agoriadau eraill dros dro
  • mesurau i wella diogelwch y safle, fel ffensio a gosod rhwyllau diogelwch perchnogol
  • clirio sbwriel a malurion lle mae'n fygythiad sylweddol i sefydlogrwydd y safle. Mae'n bosibl y bydd angen cymorth gweithiwr proffesiynol priodol arnoch i sicrhau bod y gwaith wedi'i bennu'n rhesymol a'i fod mor fach â phosibl.

Defnyddiau cyfamser

Mae defnyddiau cyfamser yn cyfeirio at ddefnydd dros dro o adeiladau neu dir gwag at ddiben buddiol tra bod gwaith cynllunio a datblygu yn cael ei gynnal i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd masnachol. Mae ein hymchwil wedi dangos ei bod yn arbennig o bwysig i fentrau adfywio sy'n cael eu harwain gan y gymuned i gynnal momentwm a chefnogaeth wrth ddatblygu prosiectau.

Bydd ein cefnogaeth ar gyfer gwaith cyfalaf yn ystod eich cyfnod datblygu yn eich galluogi i gyflwyno defnyddiau cyfamser yn, ar neu gerllaw eich safle treftadaeth (fel caffi, siop, man arddangos neu leoliad diwylliannol) wrth i chi ddatblygu eich prif brosiect. Trwy'r defnyddiau hyn, gellir creu a chynnal momentwm mewn amrywiaeth o ffyrdd dychmygus, fel defnyddio ‘pensaernïaeth dros dro’ i ddarparu strwythurau dros dro cost isel neu ofodau sy'n darparu cartrefi i fusnesau newydd am gyfnod interim. Mae mentrau fel hyn hefyd yn cynyddu amlygrwydd eich prosiect, gan annog mwy o bobl o'ch cymuned leol i gymryd rhan. Gall y math hwn o ymagwedd arloesol eich helpu i gynyddu eich siawns o sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy i'ch treftadaeth warchodedig.

Geirfa

Gweithgareddau: Rydym yn disgrifio unrhyw beth yn eich prosiect nad yw'n waith cyfalaf fel ‘gweithgareddau’. Yn aml bydd hyn yn weithgareddau i ymgysylltu pobl â threftadaeth.

Cytundeb cefn wrth gefn: Gall telerau cytundebau cefn wrth gefn amrywio, ond yn gyffredinol maent yn golygu bod awdurdod lleol yn defnyddio ei bwerau prynu gorfodol i gaffael eiddo a'i waredu i ddatblygwr (e.e. Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau) yn gyfnewid am ymrwymiad y datblygwr i ddatblygu (ar draul y datblygwr) ac indemnio costau'r awdurdod lleol.

Gwaith cyfalaf: Mae gwaith cyfalaf yn cynnwys unrhyw waith corfforol fel cadwraeth, gwaith adeiladu newydd, creu allbynnau dehongli neu ddigidol, neu brynu eitemau neu eiddo.

Diffyg cadwraeth: Dyma le mae gwerth presennol ased treftadaeth ynghyd â'r gost datblygu yn fwy na gwerth yr ased ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau. Ar gyfer ceisiadau Menter Treftadaeth, defnyddir y diffyg cadwraeth i gyfrifo swm y grant y gofynnir amdano.

Cynllun cadwraeth: Mae'r ddogfen hon yn eich helpu i ddeall pam fod eich treftadaeth yn bwysig ac i bwy. Mae'n eich helpu i gael golwg gyffredinol, ac mae'n gosod fframwaith o bolisïau a fydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut i ofalu am eich treftadaeth tra'n sicrhau ei bod yn parhau i gael ei defnyddio, ei mwynhau a'i gwneud yn hygyrch.

Cais grant cyflawni: Swm yr arian rydych yn gofyn amdano gennym ni tuag at eich cyfnod cyflawni.

Cyfnod cyflawni: Dyma pryd y byddwch yn cyflawni eich prosiect.

Gwerthusiad datblygiad: Yn syml, cyfrifiad llif ariannol yw'r ddogfen hon sy'n ystyried yr holl wariant ac incwm yn y broses ddatblygu.

Cais grant datblygu: Y swm o arian rydych yn gofyn amdano gennym ni tuag at eich cyfnod datblygu.

Cyfnod datblygiad: Dyma pryd y byddwch yn datblygu eich cais cyfnod cyflawni.

Cynnyrch digidol: Rydym yn defnyddio'r term ‘cynnyrch digidol’ i gyfeirio at yr hyn rydych yn ei greu yn eich prosiect mewn fformat digidol sydd wedi'i gynllunio i roi mynediad i dreftadaeth a/neu i helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani. Mae enghreifftiau yn cynnwys casgliad o ddelweddau digidol neu ffeiliau sain, adnodd neu arddangosfa treftadaeth ar-lein, neu ap ffôn clyfar.

Costau uniongyrchol prosiect: Yr holl gostau a dynnir yn uniongyrchol o ganlyniad i'ch prosiect.

Egwyddorion buddsoddi: Y pedair egwyddor sy'n llywio ein holl benderfyniadau o dan Dreftadaeth 2033, ein strategaeth 10 mlynedd. Rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor buddsoddi i ystyriaeth yn eich cais am brosiect. Chi sydd i benderfynu a dangos cryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor.

Prif ymgeisydd: Os ydych yn gwneud cais fel partneriaeth, bydd angen i chi enwebu prif ymgeisydd a fydd yn cyflwyno'r cais ar ran sefydliadau eraill yn y bartneriaeth. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd y prif ymgeisydd yn rhwym i delerau'r grant ac yn derbyn taliadau grant.

Cynllun rheoli a chynnal a chadw: Mae'r ddogfen hon yn nodi pa waith cynnal a chadw a rheolaeth sydd angen i chi ei wneud, pryd y byddwch yn ei wneud, a phwy fydd yn ei wneud. Mae hefyd yn dweud wrthym faint y bydd yn ei gostio a sut y byddwch yn monitro'r gwaith.

Defnyddiau cyfamser: Diffinnir defnyddiau cyfamser fel defnydd dros dro o adeiladau neu dir gwag at ddiben o fudd cymdeithasol tra bod gwaith cynllunio a datblygu yn mynd rhagddo i'w hailddefnyddio at ddefnydd masnachol.

Allbwn: Allbynnau yw'r hyn y bydd eich prosiect yn cynhyrchu, fel llyfr, arddangosfa newydd, gweithdy, neu waith cadwraeth i adeilad.

Cyllid partneriaethau: Dyma sut rydym yn disgrifio eich cyfraniad at eich prosiect. Gall gynnwys arian, cyfraniadau eraill ac amser gwirfoddolwyr.

Pensaernïaeth dros dro: Mae'r term hwn yn cyfeirio at adeiladau a gofodau newydd dros dro o fewn adeiladau presennol sy'n gymharol gyflym a syml i'w hadeiladu, yn fforddiadwy, yn addasadwy ac wedi'u dylunio ar gyfer defnydd tymor byr yn unig. Yn gyffredinol maent yn defnyddio deunyddiau rhad, fel pren haenog a phren meddal, i greu mannau i'w defnyddio.

Cynllun busnes prosiect: Mae'r ddogfen hon yn nodi agweddau ariannol a threfniadol eich prosiect. Nid yw hyn yr un peth â chynllun busnes eich sefydliad.

Cwblhad prosiect: Dyma'r dyddiad y byddwn yn gwneud ein taliad terfynol ac rydym yn fodlon bod dibenion cymeradwy'r grant wedi'u bodloni. Bydd telerau safonol y grant yn para am 10 mlynedd o'r dyddiad hwn.

Cyfnod gwaith RIBA: Cynllun amlinellol rhifiadol o 1 i 7 sy'n trefnu'r broses o reoli a dylunio prosiectau adeiladu a gweinyddu contractau adeiladu yn nifer o gamau gwaith, fel sy'n cael ei ddiffinio gan RIBA (Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain). Defnyddiwyd cynllun yn nhrefn yr wyddor yn flaenorol (o A i L).

Cerbyd pwrpas arbennig (SPV): Mae SPV yn endid cyfreithiol a sefydlwyd am gyfnod dros dro at ddiben penodol. Er enghraifft, efallai y bydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau am sefydlu sefydliad newydd mewn partneriaeth â chwmni sector preifat, dim ond er mwyn cyflawni prosiect sy'n dod ag adeilad hanesyddol yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol. Gallai'r sefydliad newydd fod yn SPV.

Gwerthusiad hyfywedd: Datganiad cymharol fyr sy'n cynnwys asesiad byr o'ch adeilad neu safle treftadaeth, ei gyflwr a'r opsiynau ar gyfer defnyddiau newydd posibl. Dylai hefyd ystyried yn fras gostau atgyweirio ac addasu, yn ogystal â darparu amcangyfrif rhesymol o werth marchnad y datblygiad gorffenedig.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn am ein cyllid, cysylltwch.

Os oes angen cymorth pellach gyda'ch cais, mae rhagor o wybodaeth am y mathau o gymorth a chefnogaeth y gallwn eu darparu yma.

Os hoffech wybod am ein proses gwyno, ewch i'n tudalen Gwasanaeth Cwsmer.

Diweddariadau i'r canllaw

Byddwn yn adolygu'r canllaw yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth defnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau yn ôl yr angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl drwy'r dudalen we hon.