Wellbeing guidance

Canllaw Llesiant

Canllaw Llesiant

Bydd y canllawiau yma yn eich helpu i fynd i'r afael â'r canlyniad 'bydd gan bobl fwy o lesiant' yn eich prosiect. Mae'n fater i bawb sy'n gwneud cais am grant, waeth beth yw maint neu fath y sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli neu faint o arian yr ydych yn gofyn amdano.

Cyflwyniad

Beth yw llesiant?

Mae llesiant yn derm eang, ond yn ôl WhatWorksCentre for Wellbeing, mae'n golygu "sut rydyn ni'n teimlo": "Sut rydyn ni'n profi bywyd – ansawdd bywyd, iechyd corfforol a meddyliol da, a bod yn rhan o'n cymunedau. Mae'n ymwneud â sut mae amodau allanol yn effeithio ar ein bywydau a sut rydyn ni'n gweithredu mewn cymdeithas."

Ar lefel unigol, mae llesiant yn crynhoi teimladau o fodlonrwydd, mwynhad a hunanhyder sydd, pan fyddan nhw ar eu gorau, yn aml yn arwain at gydberthnasau da, yn ymgysylltu â'r byd o'n hamgylch, y gwydnwch i ddelio ag adegau mwy anodd yn ein bywydau, ac ymdeimlad y gallwn ni wneud y pethau rydyn ni eisiau eu gwneud.

Mae amrywiaeth eang o ffactorau'n effeithio ar lesiant, gan gynnwys, er enghraifft, incwm, gwaith, addysg a sgiliau, iechyd meddyliol a chorfforol, cydberthnasau, unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, yn ogystal â'r amgylchedd sydd o'n cwmpas.

Cyflawni ein canlyniadau

Er mwyn cyflawni ein canlyniad i lesiant bydd angen i chi ddangos bod unigolion sy'n cymryd rhan yn teimlo'n fwy cysylltiedig â'r bobl o'u hamgylch a/neu'r man lle maen nhw’n byw o ganlyniad i gymryd rhan yn eich prosiect, neu eu bod yn teimlo eu bod yn chwarae rhan bwysig mewn pethau. Bydd angen i chi neu'ch gwerthuswr allanol ddefnyddio dulliau gwerthuso cydnabyddedig ar gyfer mesur llesiant a gofyn i'r bobl dan sylw sut maen nhw'n teimlo cyn ac ar ôl iddyn nhw gymryd rhan. Bydd cyfranogwyr yn adrodd am deimlo’n fwy o hapus, mwy o foddhad a/neu fod bywyd yn teimlo'n fwy gwerth chweil o ganlyniad i'w cyfranogiad yn eich prosiect. Gallai rhai pobl adrodd am deimlo’n llai bryderus.

Gall prosiect sy'n canolbwyntio ar lesiant hefyd helpu i gyflawni rhai o'n canlyniadau eraill, gan ddibynnu ar y math o weithgareddau rydych yn eu cynllunio a chyda phwy y maen nhw wedi'u hanelu, er enghraifft:

  • Bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth
  • Bydd pobl wedi datblygu sgiliau
  • Bydd pobl wedi dysgu am dreftadaeth

Gwella Llesiant

Mae'r GIG yn argymell pum ffordd o sicrhau gwell llesiant: i gysylltu, bod yn weithgar, cymryd sylw (neu fod yn ystyriol), dysgu a rhoi yn ôl. Mae prosiectau treftadaeth yn aml mewn sefyllfa dda i ddefnyddio'r fframwaith yma (a ddatblygwyd gan y New Economics Foundation) a gallan nhw gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ddatblygu'r camau hyn yn eu bywydau, gan eu helpu i gyflawni eu nodau personol a chymdeithasol a chyflawni ymdeimlad o bwrpas mewn cymdeithas.

Y pum ffordd i lesiant a threftadaeth

Gall prosiectau sy'n dod â ni at ein gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau neu wirfoddoli wneud cyfraniad pwysig at fynd i'r afael ag unigedd p'un a ydym o dan 25 oed neu dros 65 oed, a gallwn eich cynorthwyo i feithrin cysylltiadau cymdeithasol ac ymgysylltu ag eraill yn gymdeithasol mewn amgylchedd diogel.

Gall prosiectau treftadaeth ein helpu i aros yn feddyliol ac yn gorfforol weithgar boed yn arddio, adeiladu, cyfweld, cerdded, dawnsio, tywys, plygu gwrychoedd neu greu ffilmiau. Gall ymweld â threftadaeth, gan gynnwys tirweddau a natur, neu ddod yn rhan o sefydliadau treftadaeth, roi cyfleoedd i ni gael awyr iach, bod yn chwilfrydig, gwerthfawrogi harddwch ac adfyfyrio ar y byd o'n cwmpas.

Mae dysgu yn un o'r pum ffordd i lesiant a hefyd yn ganlyniad arall yn ein fframwaith. Gall dysgu pethau newydd ein helpu i adeiladu ein hunanhyder a'n hapusrwydd a newid ein ffordd o feddwl am ein bywydau. Gall prosiectau treftadaeth gynnig cyfleoedd dysgu i bobl o bob oed, gan apelio at yr ystod lawn o arddulliau dysgu a chynnwys gweithgareddau sy’n ymwneud â chreu, rhannu, ysgrifennu, arwain neu arlunio.

Un enghraifft o sefydliad treftadaeth sydd wedi cysylltu'r pum ffordd â llesiant â'i waith yw'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Mae staff Westonbirt Arboretum wedi rhannu'r dysgu o'u gwaith datblygu cymunedol drwy lyfryn defnyddiol sy'n disgrifio gweithgareddau i wella llesiant.

Yn olaf, gall gwirfoddoli mewn treftadaeth ein helpu i deimlo'n ddefnyddiol ac yn rhan o'n cymunedau, gan gynnig ffordd i ni roi rhywbeth yn ôl i'r gymdeithas. Gall gwirfoddoli ein helpu i gael profiad o weithio mewn tîm, helpu i adeiladu perthynas a chefnogi ein gilydd, neu ein harwain i ddatblygu mewn cyfeiriadau newydd a symud ymlaen i fanteisio ar wahanol gyfleoedd.

Beth allech chi ei wneud?

Byddwn yn disgwyl i'ch cynigion fod yn gymesur â maint y grant yr ydych yn ei geisio a'ch gallu a'ch profiad yn gyffredinol. Dyma rai enghreifftiau o'r math o weithgaredd y gallwn ei ariannu i ysbrydoli eich meddwl:

  • cyfleoedd i bobl sy'n cael eu hynysu i wirfoddoli, gyda'r nod o'u cynorthwyo i gael gwaith cyflogedig;
  • gweithgarwch cadwraeth arddwriaethol neu natur yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag elusen iechyd meddwl, a gynlluniwyd i helpu pobl i fod yn egnïol;
  • cyrsiau creadigol yn ymateb i gasgliad celf i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, gan arwain at arddangosfeydd cyhoeddus o'u gwaith;
  • sesiynau casglu casgliadau amgueddfeydd ar gyfer pobl â dementia mewn cartrefi gofal, gan leihau'r unigedd y mae'r trigolion yn ei deimlo, a gwella sgiliau staff i ddefnyddio adnoddau treftadaeth;
  • ymweliadau pwrpasol â safle treftadaeth i bobl sy'n profi awtistiaeth, wedi'i gynllunio fel ymateb i unigedd ac i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol;
  • creu cyfleoedd gwirfoddoli ac arwain, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag elusen sy'n gweithio gyda phobl ifanc anabl;
  • prosiectau archaeoleg cymunedol wedi'u cynllunio i gynnwys pobl ifanc ynysig nad ydyn nhw mewn addysg, gwaith na hyfforddiant;
  • darparu trafnidiaeth, croeso cynnes a gweithgareddau pwrpasol i alluogi ystod ehangach o bobl i weld treftadaeth sy'n hardd, ysgogol neu'n ymlaciol;
  • ymweliadau ag amgueddfeydd a rhaglen greadigol a luniwyd ar gyfer rhieni â theuluoedd ifanc ar incwm isel.

Pwy fyddwch chi'n eu cynnwys?

Mae amrywiaeth o ystyriaethau wrth gynllunio prosiect sydd wedi'i gynllunio i effeithio ar lesiant unigolion. Byddwch yn glir ynghylch pwy rydych yn eu targedu, byddwch yn realistig am yr hyn y gellir ei gyflawni, ac archwiliwch p'un a oes sefydliadau lleol y gallech fod yn bartneriaid â nhw.

Targedu pobl sydd â lefel llesiant isel

Os ydych yn datblygu prosiect sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gyflawni'r canlyniad llesiant neu rydych yn bwriadu mynd i'r afael â llesiant fel rhan o gais am grant dros £250,000, byddwn yn disgwyl i chi fod o fudd i'r bobl hynny sydd â lefelau isel o lesiant. Mae hyn oherwydd bod ymchwil yn dangos yn dilyn ymyriadau o ansawdd uchel, fod cynnydd mewn llesiant ar ei orau ar gyfer y pobl sydd â’r lefelau isaf o lesiant o’r dechrau.

Bydd gweithio i wella llesiant pobl sy'n wynebu allgáu cymdeithasol, er enghraifft, oherwydd afiechyd neu incwm isel hefyd yn eich helpu i gyflawni ein canlyniad 'bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth'.

Casglu gwybodaeth

Yn eich cais, bydd angen i chi ddangos bod gwir angen y prosiect. Gallai fod yn ddefnyddiol dechrau drwy ddeall y data sy'n bodoli ar lesiant personol ar gyfer ardal(oedd) eich awdurdod lleol.

Rydym wedi darparu rhai ffynonellau defnyddiol gyda'r canllawiau yma. Ceir tystiolaeth sylweddol erbyn hyn o'r gwahaniaethau mewn llesiant rhwng grwpiau o'r boblogaeth, sy'n awgrymu, er enghraifft, bod gan grwpiau sydd ag incwm is, lesiant cyfartalog is na'r rheini ar incwm uwch. Mae ymchwil hefyd yn dweud wrthym fod gan rai grwpiau ethnig llesiant sy'n is na'r cyffredin. Yn ôl ymchwil SYG, mae pobl sydd â'r llesiant personol gwaethaf yn fwy tebygol o brofi un neu fwy o'r nodweddion neu'r amgylchiadau hyn: hunan-adrodd o iechyd gwael iawn neu wael; yn economaidd anweithgar â salwch neu anabledd tymor hir; fod yn ganol oed; bod yn sengl, wedi gwahanu, yn weddw neu wedi ysgaru; heb addysg o gwbl neu'n sylfaenol; yn rhentu neu'n byw mewn tai â chymorth.

Ymgynghori

Dylech lunio eich cynlluniau drwy ymgynghori, siarad â darpar gyfranogwyr a sefydliadau eiriolaeth cymunedol am eich syniadau. Sicrhewch bod eich prosiect wedi'i gynllunio i ddarparu'r hyn y mae cyfranogwyr am ei gael mewn ffordd a fydd yn diwallu eu hanghenion.

Ar raddfa gymharol fach, er enghraifft, efallai y byddwch am ddatblygu perthynas â chartref gofal lleol. Byddai angen i chi ddarganfod pa weithgareddau sydd eisoes yn digwydd yn y cartref a pha ymwybyddiaeth neu ddiddordeb sydd eisoes yn eich treftadaeth ymhlith y staff a'r preswylwyr. Gall pobl hŷn deimlo eu bod wedi'u hynysu'n gymdeithasol a gall staff gofal fod yn ansicr sut i ddefnyddio adnoddau treftadaeth lleol. Wrth wrando ar y ddau grŵp am yr hyn yr hoffen nhw ei gael o'ch prosiect treftadaeth, gallech gynllunio cyfranogiad treftadaeth o ansawdd uchel gyda'i gilydd sydd wedi'i gynllunio i wella cysylltiadau cymdeithasol i bawb dan sylw a bod yn gynaliadwy yn y tymor hirach.

Os ydych yn cynllunio prosiect mawr efallai y byddai'n briodol i chi ymgynghori â phartneriaid iechyd. Yn Lloegr, gallech gysylltu â'ch grŵp comisiynu clinigol (CCG), gofyn am gael siarad yng nghyfarfodydd cyfranogiad cleifion CCG, neu dynnu ar eich dealltwriaeth o Waith Asesiad Anghenion Strategol Awdurdodau Lleol ar y cyd. Yn yr Alban, gallai cynlluniau gwella iechyd ar y cyd helpu i lywio eich gwaith. Bydd y math hwn o ymgynghoriad yn helpu i leoli eich prosiect o fewn y darlun ehangach o seilwaith iechyd eich ardal a'r anghenion iechyd lleol y cytunwyd arnynt.

Partneriaethau

Yn aml cyflawnir yr effaith fwyaf gan bartneriaethau o sefydliadau treftadaeth a sefydliadau iechyd neu elusennau, sy’n gweithio gyda'i gilydd. Maen nhw’n cynnwys staff sydd agosaf at y grŵp cleientiaid ac sy'n deall eu hanghenion. Yn aml, gallan nhw chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod cymorth parhaus ar gael i'r cyfranogwyr y tu hwnt i'r prosiect, felly cynnal canlyniadau prosiectau. Gallent hefyd fod mewn gwell sefyllfa i roi cyngor ar dechnegau gwerthuso priodol a helpu i hwyluso'r gwaith o gasglu data gwerthuso personol.

Bydd gweithio gyda phartneriaid yn eich helpu i fod yn fwy strategol. Gallech ystyried datblygu prosiect gyda'ch sefydliad anabledd lleol (e.e. Mencap neu MIND), elusen tai â chymorth, neu sefydliad cymunedol sy'n gweithio gyda phobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Gallech greu cysylltiadau â mentrau cenedlaethol y tu allan i'r sector treftadaeth, gan gynnwys cymunedau oed-gyfeillgar, cynghreiriau gweithredu dementia neu'r sector ieuenctid.

Os nad yw cael partneriaeth yn eich siwtio chi, bydd ceisio cyngor gan sefydliadau sydd eisoes yn canolbwyntio ar wella llesiant a herio anghydraddoldebau iechyd yn ychwanegu perthnasedd i'ch prosiect treftadaeth ac yn eich helpu i gynllunio ar gyfer ei lwyddiant.

Cynllunio eich dull o weithredu

Mae profiad yn dangos i ni fod ymyriadau o'r safon uchaf yn sylweddol o ran eu hyd ac wedi'u cynllunio a'u darparu gan staff profiadol.

Rhaglen

Mae'r prosiectau llesiant treftadaeth mwyaf llwyddiannus wedi cynnig profiadau wedi'u cynllunio'n dda i'r un bobl dros gyfnod estynedig o amser, yn hytrach na digwyddiadau untro. Dangoswyd bod gweithgarwch rheolaidd dros 10 wythnos o leiaf yn effeithiol. Mae dwy astudiaeth achos, o amgueddfeydd Manceinion a'r Ymddiriedolaeth Restoration, yn dangos y dull yma o weithredu ac yn dangos canlyniadau cadarnhaol.

Os oes gennych y sgiliau priodol yn eich tîm, gall defnyddio model cyd-gynhyrchu, lle mae cyfranogwyr yn gweithio gyda chi i ddylanwadu ar y ffordd y caiff y prosiect ei gynllunio a'i gyflwyno, arwain at ganlyniadau cryfach. Ynghyd â gwelliannau mewn llesiant, efallai y bydd cyfranogwyr am gyflawni nodau ehangach, fel mwy o annibyniaeth, sgiliau i deithio'n annibynnol, rhwydweithiau cymdeithasol ehangach, hyfforddiant, achredu neu gymwysterau.

Adnoddau staff

Efallai y bydd angen cymarebau staff uwch nag arfer i gyfranogwyr yn dibynnu ar anghenion y bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw. Efallai y bydd angen i chi gynnwys mentoriaid yn eich prosiect yn ogystal â'r rhai sy'n arwain y gwaith o gyflawni'r gweithgaredd. Dylai staff gael eu hyfforddi'n briodol. Efallai y bydd angen iddynt ddangos agwedd hyblyg a bod yn barod i addasu rhaglenni a chyflymder y ddarpariaeth yn ôl anghenion cyfranogwyr. Os ydych yn penderfynu gweithio mewn partneriaeth, byddwch yn ymwybodol y gall rhai sefydliadau fod yn newydd i dreftadaeth. Cynlluniwch ddigon o amser a chyllideb i gyfnewid syniadau am sut y mae llesiant yn ymddangos o'ch cyd-destunau sector gwahanol ac i feithrin a chynnal eich perthynas yn ystod y broses o gyflawni'r prosiect.

Diogelu

Os ydych yn bwriadu cynnwys pobl sy'n agored i niwed yn eich prosiect, y gallai eu lefelau llesiant fod yn isel, meddyliwch am ddiogelu a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sydd ag arbenigedd ar hyn o bryd mewn diogelu egwyddorion a safonau.

Cyllideb

Cynlluniwch eich cyllideb yn ofalus gan ystyried anghenion darpar gyfranogwyr a'u hymgynghorwyr, fel y gellir bodloni dyheadau rhesymol e.e. achredu ar gyfer hyfforddiant.

Ystyriwch a oes angen i'ch cyllideb gynnwys costau teithio, gweithiwr cymorth a/neu gostau gofal. Efallai y bydd angen iddo gynnwys hyfforddiant i staff e.e. Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Dylech gynnwys costau gwerthuso fel y gallwch ddangos y gwahaniaeth a wnaed.

Mesur effaith

Mae llawer iawn o gyngor, wedi'i gymeradwyo gan y Llywodraeth, academyddion a sefydliadau ariannu, i helpu i fesur canlyniadau llesiant. Byddwn yn disgwyl i chi ddefnyddio'r adnoddau hyn i'ch helpu i werthuso'ch prosiect.

Mae'n bwysig eich bod yn mesur effaith eich gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar lesiant y cyfranogwyr, er mwyn i chi allu dangos y gwahaniaeth y mae eich prosiect wedi'i wneud, gwella eich ymarfer eich hun ac eraill, a chael y dystiolaeth i hyrwyddo’r gwaith da yn y dyfodol. Defnyddiwch ein canllawiau gwerthuso, sy'n nodi egwyddorion cyffredinol arferion da, i lywio eich cynlluniau.

Byddwn yn disgwyl i chi werthuso eich gweithgareddau o'r dechrau drwy gasglu data sylfaen fel y gallwch olrhain y newid a ddaw gyda'ch prosiect. Gan ddibynnu ar natur a ffocws eich gweithgareddau a chefndir y bobl sy'n gysylltiedig â'ch prosiect, gallech ystyried defnyddio mesurau meintiol (graddfeydd a ddilyswyd fel arfer), mesurau ansoddol megis cyfweliadau, grwpiau ffocws a dyddiaduron, neu gyfuniad o'r ddau. Bydd cyfuno dulliau meintiol ac ansoddol yn rhoi'r cyfle i chi asesu newid mewn llesiant ond hefyd ystyried pam a sut y mae llesiant wedi newid.

Mesur llesiant

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r canllaw 'Sut i fesur eich effaith ar lesiant' a gynhyrchwyd gan What Works Centre for Wellbeing.

Mae'r pecyn cymorth yma’nn argymell, yn benodol, ddefnyddio pedwar cwestiwn yn yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth a ddyfeisiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cwestiynau yw'r rhain sy'n seiliedig ar foddhad bywyd a theimladau o hapusrwydd, pryder, a bod bywyd yn werth chweil. Bydd defnyddio cwestiynau SYG gyda graddfa 0-10 yn eich galluogi i gymharu eich data gwerthuso â data poblogaeth y DU y mae SYG yn ei lunio.

Mae'r pecyn cymorth hefyd yn cysylltu â methodoleg 'WEMWBS' (graddfa llesiant meddyliol Warwick Caeredin), dull mwy manwl a ddefnyddir fel arfer yng nghyd-destun salwch meddwl. Mae'n briodol ar gyfer mesur llesiant pobl dros 16 oed, dyfeisiwyd Graddfa Llesiant Plant Stirling (SCWBS) ar gyfer pobl ifanc 8-15 oed.

Os ydych yn gweithio mewn amgueddfa neu gyd-destun tebyg, mae'r pecyn cymorth Mesurau Llesiant Amgueddfeydd a gynhyrchwyd gan Goleg Prifysgol Llundain hefyd yn ddefnyddiol.

Moeseg ymchwil

Os yw eich prosiect yn cynnwys pobl sy’n agored i niwed, fel plant neu oedolion sydd ag anawsterau dysgu, mae'n bwysig bod eich dull gwerthuso a'ch dulliau yn cydymffurfio â chanllawiau moesegol. Mae'r Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol a Chymdeithas Ymchwil Addysg Prydain yn darparu canllawiau.

Adnoddau ychwanegol

Dros y 25 mlynedd diwethaf yn y DU, a ledled y byd, cafwyd mwy o ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw llesiant ym mywydau pob un ohonom, yn seiliedig ar ymchwil helaeth. Mae'r cysylltiadau canlynol yn darparu adnoddau, offer ac astudiaethau achos o ansawdd uchel i'ch helpu i archwilio llesiant ymhellach.

Atodiad Maint
Download as PDF136.77 KB 136.77 KB

More like this...

Canlyniadau

Rydym yn disgrifio'r gwahaniaeth yr ydym am ei wneud gyda'n harian trwy set o naw canlyniad. Y canlyniadau yw newidiadau, effeithiau neu fuddion sy'n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i'ch prosiect.

Sgiliau a hyfforddiant – canllaw arfer da

Cyflwyniad Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd angen i chi fynd i'r afael â rhai o'n canlyniadau. Bydd pobl wedi datblygu sgiliau yw un o naw canlyniad y gall eich prosiect anelu at eu cyflawni gyda'n harian. Pa un yw eich prosiect wedi'i ganolbwyntio'n llawn

Canllaw gwirfoddoli

Gwirfoddoli yw pan fydd rhywun yn treulio amser, heb dâl, yn gwneud rhywbeth er budd cymdeithas, yr amgylchedd neu rywun nad ydynt yn perthyn yn agos iddo. Rhaid i wirfoddoli fod yn ddewis personol a wneir gan bob unigolyn.