Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

A young women showing an older man how to access an app on a mobile phone
Minder Kaur Athwal, ymddiriedolwr yn y Digital Skills for Heritage Trust Network. Credyd: Sarah Hayes.
Dyluniwyd ein menter 4 blynedd gwerth £4.2miliwn i gynyddu sgiliau a hyder digidol ar draws sector treftadaeth y Deyrnas Unedig.

Rhwng 2020 a 2024, helpodd ein buddsoddiad – gan gynnwys £1m gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i:

  • gefnogi 64 o sefydliadau partner cymorth sector ac ymgynghorwyr i gyflawni 71 o brosiectau
  • darparu hyfforddiant i dros 53,000 o unigolion sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn dros 6,400 o sefydliadau yn y sector treftadaeth
  • darparu dros 242,000 o oriau o gyfleoedd hyfforddi a datblygu
  • creu dros 880 o adnoddau dysgu ar-lein trwyddedig agored hygyrch yn Gymraeg a Saesneg
  • cynnal arolwg o 8,232 o unigolion er mwyn deall sgiliau a hyder digidol ar draws sector treftadaeth y Deyrnas Unedig

Gwelodd 85% o’n prosiectau Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth gynnydd mewn sgiliau a hyder digidol eu cyfranogwyr. 

Darllenwch y gwerthusiad o'n menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth.

Cefnogaeth ar gyfer digidol yn y dyfodol

Mae digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Gronfa Treftadaeth. Mae'n rhan annatod o'n hegwyddorion buddsoddi ac rydym yn croesawu ceisiadau rhwng £10,000 a £10miliwn ar gyfer prosiectau hygyrch ac agored gyda ffocws digidol neu brosiectau sy'n cynnwys creu adnoddau digidol.

Dysgwch fwy am ein gofynion ariannu ar gyfer prosiectau sy'n creu allbynnau digidol yn ein canllaw arfer da.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a thiciwch y blwch 'digidol' i glywed am gyfleoedd ariannu a digwyddiadau perthnasol.

Yr hyn yr ydym wedi'i ariannu

Bu i dimau o Gymdeithas Marchnata’r Celfyddydau, Prifysgol Leeds a’r Gynghrair Treftadaeth ymchwilio ac ymgynghori â’r sector i ddod o hyd i'r 100 o gwestiynau digidol sydd fwyaf dybryd i sefydliadau. Cyhoeddir yr atebion, ynghyd â storïau ac awgrymiadau 'sut mae gwneud' ymarferol ar eu Hyb Treftadaeth Ddigidol.

Mae'r Digital Heritage Lab, dan arweiniad Arts Fundraising & Philanthropy, One Further a Collections Trust yn cynnig gweithdai, astudiaethau achos ac adnoddau eraill ar bynciau gan gynnwys marchnata digidol, codi arian, cyfryngau cymdeithasol, gwefannau hygyrch, eFasnach ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.

Helpodd Heritage Digital a'r Heritage Digital Academy sefydliadau i ddefnyddio digidol mewn cynllunio strategol a gweithrediadau. Arweiniwyd y prosiectau gan The Heritage Alliance a Charity Digital Trust, mewn partneriaeth â Media Trust, Naomi Korn Associates a Dot Project.

Cynhaliodd Culture24, mewn partneriaeth â Golant Innovation a'r Audience Agency Leading the Sector cwrs (2020-2021)chyfres o seminarau ar-lein (2022) – i helpu ymddiriedolwyr a swyddogion gweithredol i ehangu galluoedd digidol eu sefydliadau. Gallwch wylio recordiadau o'r seminarau ar Sianel YouTube Culture24 ac archwilio eu hofferyn 'llwybr' arweinyddiaeth.

Cefnogodd wyth rhwydwaith gymunedau ymarfer i gyfuno adnoddau ac arbenigedd mewn meysydd treftadaeth penodol ac i agor treftadaeth i fyny i amrywiaeth ehangach o bobl.

Creodd 17 o brosiectau rolau gwirfoddoli digidol ar draws y sector. Un o'r allbynnau oedd Heritage Access 2022 gan Vocal Eyes, adroddiad ar hygyrchedd gwefannau amgueddfeydd a threftadaeth y DU ac offeryn meincnodi ar gyfer sefydliadau treftadaeth.

Gwnaeth ein dau Arolwg Agweddau Digidol a Sgiliau ar gyfer Treftadaeth (DASH), ein helpu deall ac ymateb i anghenion y sector. Archwiliwch y canlyniadau: