Trwyddedu agored: brîff arweinyddiaeth treftadaeth ddigidol

Trwyddedu agored: brîff arweinyddiaeth treftadaeth ddigidol

Bu i ni gomisiynu Dr Andrea Wallace a Michael Weinberg o The GLAM-E Lab i gynhyrchu cipolwg ar drwyddedu agored ar draws sector treftadaeth y DU – ei fanteision, cyfleoedd a risgiau.

Crynodeb gweithredol

Comisiynwyd y briff hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (y Gronfa Dreftadaeth) i roi cipolwg i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o drwyddedu agored ar draws sector treftadaeth y DU. Noder nad yw'r canllawiau hyn yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol.

  • Mae trwyddedau agored yn drwyddedau sy’n rhoi caniatâd cyfreithlon ymlaen llaw i’r cyhoedd ddefnyddio a dosbarthu gwaith sy'n cael ei warchod gan hawlfraint at unrhyw ddiben, ac adeiladu arno, a hynny heb orfod gofyn am ganiatâd unigol gan ddeiliad yr hawliau. Nid yw trwyddedau agored yn negyddu hawlfraint na chyfreithiau eraill. Rhaid i bobl ofyn am ganiatâd ar gyfer unrhyw fath o ddefnydd nad yw o fewn telerau'r drwydded.
  • Mae sefydliadau treftadaeth ledled y byd yn defnyddio trwyddedau agored ac wedi mabwysiadu polisïau trwyddedu agored. Mae llawer o gyllidwyr – gan gynnwys y Gronfa Treftadaeth – yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunyddiau ac adnoddau prosiect a gaiff eu creu fel un o amodau cyllido gael eu rhannu o dan drwydded agored.
  • Yn yr un modd â llawer o wledydd ledled y byd, mae Llywodraeth y DU yn hyrwyddo’r defnydd o drwyddedau agored a data agored.
  • Gellir defnyddio trwyddedu agored i gynyddu cyrhaeddiad eich sefydliad, gwella ei enw da a sicrhau bod y gwaith yn cael ei briodoli iddo, lleihau costau drwy gydweithio a datblygu, a hwyluso'r broses o gyflawni nodau strategol a chenhadaeth.
  • Mae trwyddedu agored yn galluogi sector treftadaeth y DU i gyfrannu at dirwedd ddiwylliannol fwy cynhwysol, cynaliadwy a bywiog yn y DU ac yn fyd-eang. Yn ogystal â hyrwyddo cynhwysiant a mynediad, mae trwyddedu agored yn cynyddu'r dreftadaeth ddigidol sy'n cael ei hailddefnyddio yn y meysydd addysg, twristiaeth gynaliadwy, y sectorau creadigol ac ymchwil amgylcheddol. Mae hyn hefyd yn helpu sector treftadaeth y DU i fodloni egwyddorion buddsoddi'r Gronfa Treftadaeth.
  • Yn fyd-eang, mae mwy na 1,600 o sefydliadau treftadaeth wedi cyhoeddi mwy na 95 miliwn o gasgliadau digidol drwy drwyddedu agored, gan gynnwys dros 100 o sefydliadau treftadaeth y DU. Mae sefydliadau di-rif wedi rhyddhau setiau data, meddalwedd, cod a deunyddiau eraill agored i'w hailddefnyddio at unrhyw ddiben.
  • Gall trwyddedu agored helpu sefydliadau treftadaeth i ddatblygu polisïau a rhaglenni hirdymor sy’n meithrin gallu, sgiliau ac arbenigedd yn y maes treftadaeth, ac yn cyfrannu at gymunedau ffyniannus ac economïau creadigol y DU, yn enwedig busnesau bach a chanolig.
  • Mae sefydliadau treftadaeth sydd â pholisïau trwyddedu agored wedi gweld manteision sy'n cynnwys mwy o ymgysylltu, presenoldeb, cymorth cymunedol, incwm newydd o fodelau busnes mynediad agored, a ffyrdd newydd o weithio sy'n cefnogi gweithgareddau sydd wedi'u hysgogi gan genhadaeth. Dywed llawer eu bod wedi gwneud arbedion hirdymor wrth ystyried y llafur, y llifau gwaith a'r aneffeithlonrwydd sy'n gysylltiedig â gweinyddu gwasanaethau ac ymateb i geisiadau i ddefnyddio'r deunydd.
  • Gall trwyddedu agored arwain at fanteision economaidd ehangach drwy gynyddu effeithlonrwydd yn sgil y ffaith bod mwy o ddeunyddiau ar gael ac yn hygyrch, a newyddbethau yn deillio o'r gallu i ddod â gwybodaeth, data a mewnwelediadau ynghyd mewn ffyrdd newydd.

Cyflwyniad

Mae sector treftadaeth y DU yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau tegwch gwybodaeth, creadigrwydd, a diwylliant, a thyfu'r economi a gwarchod yr amgylchedd. Mae sefydliadau treftadaeth yn stiwardiaid dibynadwy ar gyfer cofnodion pwysig, sbesimenau naturiol, creadigaethau artistig, atgofion a straeon ond gan fynd ar drywydd ymchwil a darganfyddiadau newydd ar yr un pryd.

Mae trwyddedu agored yn galluogi sefydliadau treftadaeth i gyflawni'r rolau hynny drwy wneud treftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog y DU yn fwy hygyrch ac ar gael yn fwy cyfleus. Pan fydd deunyddiau wedi'u trwyddedu'n agored, gall unrhyw un eu defnyddio at unrhyw ddiben cyfreithiol heb ganiatâd. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a llawer o sefydliadau cyllido eraill, yn defnyddio trwyddedau agored i ryddhau data, casgliadau a deunyddiau eraill i’w hailddefnyddio gan y cyhoedd, oni bai bod rheswm penodol (cyfreithiol, technegol neu foesegol) dros beidio â gwneud hynny.

Nod y papur briffio hwn yw helpu sefydliadau treftadaeth i ddeall y ffyrdd y bydd trwyddedu agored yn gweithio i'w sefydliad nhw a gweithgareddau sy'n seiliedig ar genhadaeth drwy esbonio:

  • beth yw trwyddedu agored a phryd y gellir ei ddefnyddio
  • y manteision, y cyfleoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â thrwyddedu agored
  • sut y mae trwyddedu agored yn cefnogi trawsnewidiad digidol y sector treftadaeth
  • meysydd strategol buddsoddi a ffocws mewn trwyddedu agored
  • y trwyddedau agored sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar draws sector treftadaeth y DU ac yn rhyngwladol
  • enghreifftiau o bolisïau, adnoddau ategol ac offer eraill er mwyn creu polisïau agored cadarn

Beth yw hawlfraint a pham mae'n bwysig i sefydliadau treftadaeth?

Hawl yn ymwneud ag eiddo deallusol sy’n rheoleiddio’r defnydd o ddeunyddiau creadigol gan gynnwys gweithiau llenyddol ac artistig, recordiadau sain, darllediadau, setiau data ymchwil a rhaglenni cyfrifiadurol yw hawlfraint.

  • Gall y sawl sy’n berchen ar yr hawlfraint ganiatáu, amodi neu wahardd y defnydd o’r deunyddiau creadigol.
  • Mae hawlfraint yn parhau am amser maith. Yn dibynnu ar y math o ddeunyddiau, gall hawlfraint barhau gydol oes y crëwr neu'r cynhyrchydd ac am saith deg mlynedd wedi hynny.
  • Ystyrir bod deunyddiau yn y 'parth cyhoeddus' pan nad yw hawlfraint yn berthnasol neu pan fydd wedi dod i ben. Gall unrhyw un ddefnyddio deunyddiau yn y parth cyhoeddus at unrhyw ddiben heb ganiatâd.

Awgrymiadau ar gyfer trwyddedu agored: dywedwch wrth y cyhoedd sut yr hoffech chi gael eich cydnabod

  • Mae Canllawiau Defnydd o'r Parth Cyhoeddus Europeane yn annog defnyddwyr i roi cydnabyddiaeth lle mae cydnabyddiaeth yn ddyledus, dangos parch at y gwaith gwreiddiol a'r crëwr, ynghyd ag awgrymiadau arfer da eraill ar ddefnyddio deunyddiau sydd yn y parth cyhoeddus.
  • Mae Creative Commons yn argymell fframwaith syml i gefnogi newid ymddygiad ac annog canlyniadau cadarnhaol drwy annog sefydliadau i gyfeirio at sefydliadau wrth ddefnyddio deunyddiau sydd yn y parth cyhoeddus.

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?

  • Bod gweithiau creadigol gan bobl a fu farw yn ystod neu ar ôl 1954 wedi'u gwarchod gan hawlfraint ac mae angen caniatâd deiliad yr hawliau i'w digideiddio.
  • Bod gweithiau creadigol gan bobl a fu farw cyn 1954, a gweithiau nad ydynt yn gymwys i gael eu gwarchod, fel sbesimenau naturiol, yn y parth cyhoeddus. Nid oes angen caniatâd i ddigideiddio a rhannu'r rhain.
  • Bod sefydliad yn cael hawlfraint newydd ar gyfer deunyddiau creadigol a gynhyrchir yn ystod gwaith ymchwil a gweithgareddau eraill sy'n seiliedig ar genhadaeth.
  • Nad yw sefydliad yn cael hawlfraint newydd pan fydd yn digideiddio gwrthrych.

Beth yw trwyddedau agored?

Mae trwydded yn amlinellu'r caniatadau a'r cyfrifoldebau ar gyfer ailddefnyddio deunyddiau a warchodir gan hawlfraint.

  • Er y gellir negodi trwyddedau rhwng perchennog yr hawlfraint a'r sawl sy'n gwneud cais i ailddefnyddio'r deunydd, mae trwyddedau agored safonol yn rhoi caniatâd ymlaen llaw i'r cyhoedd yn gyffredinol ei ailddefnyddio. Mae trwyddedau agored yn caniatáu ailddefnyddio at unrhyw ddiben, gan gynnwys defnydd masnachol ac addasiadau.

Mae’r diffiniad o agored (Open Definition) yn helpu i sefydlu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn y mae ‘agored’ yn ei olygu mewn gwirionedd:

Mae agored yn golygu y gall unrhyw un gael mynediad i, defnyddio, addasu a rhannu'r deunydd at unrhyw ddiben (yn amodol, ar y mwyaf, ar ofynion sy'n gwarchod y tarddiad a natur agored y deunydd).

Pa drwyddedau agored y mae sefydliadau treftadaeth yn eu defnyddio?

Mae llawer o sefydliadau treftadaeth yn defnyddio trwyddedau ac offer Creative Commons (CC). Mae trwyddedau CC wedi cael eu profi ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

Sefydliad sy'n darparu trwyddedau agored ac offer i gyhoeddi cynnwys creadigol a chyhoeddus yw Creative Commons. Mae trwyddedau ac offer CC ar gael mewn mwy na 40 o ieithoedd a gallant gael eu darllen gan beiriannau a gellir chwilio amdanynt ar-lein. Mae gan bob trwydded ac offeryn set gyfatebol o eiconau, sy'n ei gwneud hi'n hawdd eu hadnabod ar unwaith. Mae'r eiconau'n nodi bod y drwydded yn drwydded CC ac yn crynhoi'r caniatâd y mae'n ei roi.

Ar gyfer trwyddedu agored, mae'r rhain yn cynnwys:

  • Marc Parth Cyhoeddus neu PDM: Mae hyn yn dangos nad  oes unrhyw gyfyngiadau hysbys ar y gwaith o dan gyfraith hawlfraint a hawliau cysylltiedig.
  • Dim neu CC0: Mae hyn yn cadarnhau bod y gwaith yn y parth cyhoeddus a bod y crëwr wedi ildio pob hawl yn fyd-eang o dan gyfraith hawlfraint a hawliau cysylltiedig.
  • Priodoliad (GAN) neu CC BY: Rhaid priodoli'r gwaith i'r crëwr.
  • Priodoliad (GAN) Rhannu dan Amodau Tebyg (SA) neu CC BY-SA: Rhaid priodoli'r gwaith i'r crëwr a rhaid rhannu'r deunyddiau o dan yr un telerau.

Fel enghraifft o roi'r trwyddedau hyn ar waith, caiff y Briff hwn ei rannu dan drwydded CC BY 4.0, yn unol â pholisi'r Gronfa Treftadaeth. Gallwch weld eicon y drwydded a'n datganiad priodoliad ar dudalen olaf y Briff hwn.

Yn y DU, gellir defnyddio Fframwaith Trwyddedu Llywodraeth y DU a luniwyd gan yr Archifau Gwladol i roi trwydded agored i wybodaeth y sector cyhoeddus a gweithiau a gynhyrchir gan y llywodraeth sydd wedi'u gwarchod gan Hawlfraint y Goron. Yn debyg i CC BY, mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) yn ei gwneud yn ofynnol i gydnabod y crëwr.

Ar ôl i'r trwyddedau neu'r offer hyn gael eu cymhwyso i'r gwaith, gellir defnyddio'r gwaith ar unwaith yn unol â'r telerau.

Awgrymiadau ar gyfer trwyddedu agored: rhaglenni newydd a gweithgareddau newydd wedi'u hysgogi gan genhadaeth

Mae Oriel Genedlaethol Denmarc neu Amgueddfa Statens for Kunst (SMK) wedi defnyddio CC0 ar ei delweddau ers 2016. Mae'r amgueddfa hefyd yn arloeswr o ran datblygu rhaglenni newydd a gweithgareddau allgymorth ar drwyddedu agored. Noda cenhadaeth prosiect SMK Open fod digideiddio a gwneud y casgliad yn hygyrch i bawb yn allweddol i gyflawni ei strategaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • SMK Connect, llwyfan addysg hawdd ei ddefnyddio a hygyrch i ysgolion ledled Denmarc i helpu myfyrwyr i fod yn feirniadol, yn greadigol ac yn gyd-greadigol
  • Strategaethau ar gyfer cyhoeddi aml-lwyfan, i gyrraedd ystod ehangach o gynulleidfaoedd, ymchwilwyr, myfyrwyr, plant ysgol, dilynwyr diwylliant, twristiaid, pobl greadigol a gwyddonwyr ddinasyddion
  • Creadigaethau newydd fel cerddoriaeth, ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau, delweddau ar lwyfannau chwarae gemau, hidlwyr Instagram a barddoniaeth, y ceir rhagor o fanylion amdanynt ar dudalen Medium SMK Open

A oes angen trwyddedu agored ar gyllidwyr?

Mae llawer o gyllidwyr, llywodraethau a llwyfannau cyhoeddi wedi mabwysiadu gofynion trwyddedu agored sy’n rhoi pwys mawr ar hyrwyddo mynediad i'r cyhoedd ac ailddefnyddio.

  • Mae angen mynediad agored ar y Comisiwn Ewropeaidd i erthyglau a data ymchwil ac mae'n cyhoeddi ei ddeunyddiau ei hun gan ddefnyddio CC0 a CC BY.
  • Mae UKRI yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio CC BY neu OGL.
  • Mae'r Wellcome Trust yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio CC BY ar gyfer yr holl ymchwil a ariennir ac yn gwahardd prosiectau rhag defnyddio arian i dalu am ffioedd trwyddedu delweddau.
  • Mae platfformau Wikimedia yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys gael ei farcio fel PDM, CC0, CC BY neu CC BY-SA, gyda gofyniad arbennig i ddefnyddio CC0 ar gyfer yr holl ddata a gaiff ei gyfrannu at WikiData.

Awgrymiadau ar gyfer trwyddedu agored: Dechreuwch yn fach a threialwch y gwaith

Ar hyn o bryd, mae'r Royal Albert Memorial Museum yn defnyddio llwyfannau rhad ac am ddim fel Wikimedia Commons a Sketchfab i gyhoeddi casgliadau digidol CC0. Er mwyn modelu'r polisi mynediad agored, uwchlwythodd yr amgueddfa 63 o weithiau celf o leoedd hanesyddol o amgylch Caerwysg i Wikimedia Commons. Ers eu rhyddhau ym mis Ionawr 2023, mae'r 63 o ddelweddau hyn wedi cael eu gweld dros 6.16 miliwn o weithiau. Mae o leiaf 41 wedi'u hychwanegu at 65 o wahanol erthyglau Wicipedia mewn saith iaith wahanol. Maent hefyd wedi cael eu defnyddio gan dywyswyr teithiau lleol, mewn canllawiau astudio ac ar wefannau hanes i blant. Fe wnaeth hyn alluogi'r amgueddfa i ddylunio a phrofi llifau gwaith newydd a pharatoi'r staff ar gyfer cyflwyno polisi mynediad agored ffurfiol ym mis Chwefror 2024.

Pa drwyddedau agored y mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn eu defnyddio?

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi mynediad i dreftadaeth gyfoethog y DU a’i hymrwymiad i drawsnewidiad digidol y sector cyfan drwy gynnwys gofyniad trwyddedu agored fel un o'r amodau cyllido:

  • Trwyddedau agored. Mae prosiectau'n defnyddio CC BY 4.0 neu drwydded gyfatebol ar gyfer cynnwys gwreiddiol a grëwyd yn ystod y prosiect, megis ffeithluniau neu erthyglau. Mae hyn yn caniatáu i bawb rannu ac addasu'r deunyddiau at unrhyw ddiben, hyd yn oed dibenion masnachol. Rhaid i ddefnyddwyr briodoli'r ffynhonnell a nodi a oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud.
  • Offer y parth cyhoeddus. Mae prosiectau yn defnyddio'r offeryn Cyflwyno i'r Parth Cyhoeddus Cyffredinol CC0 1.0 i ddigideiddio gweithiau yn y parth cyhoeddus, cod a metadata a grëwyd yn ystod y prosiect, fel cod meddalwedd neu ddata technegol. Mae hyn yn dweud wrth bawb bod y gweithiau yn y parth cyhoeddus a bod unrhyw hawliau wedi'u hildio. Gall defnyddwyr gopïo, addasu, dosbarthu a pherfformio'r gwaith, hyd yn oed yn fasnachol, heb ganiatâd.

Awgrymiadau ar gyfer trwyddedu agored: Ceisiwch olrhain a dathlu eich effaith

I Amgueddfa Gelf Cleveland, mae rhyddhau casgliadau 2D a 3D a data fel CC0 ar ffurf delweddau eglur iawn wedi arwain at:

  • Guraduron yn creu cysylltiadau newydd gydag ysgolheigion, dwsinau o bartneriaethau newydd, cael cydnabyddiaeth drwy ennill sawl gwobr, a sgiliau staff, capasiti a datblygiadau newydd, gan gynnwys gweithiau celf newydd ac eitemau mewn cyfres deledu boblogaidd
  • Mwy o ddiweddariadau i wybodaeth am briodoliad, tarddiad a chasgliadau a mannau digidol newydd ar gyfer ymgysylltu â chasgliadau a data ar y safle, gan gynnwys ymwelwyr sy’n creu eu Sganiau 3D eu hunain o gasgliadau yn y parth cyhoeddus a’u cyfrannu at y casgliadau digidol
  • Dangosfwrdd rhithwir sy'n dangos effaith mewn amser real, gan gynnwys mwy na 6 miliwn o edrychiadau ar y wefan, 47 miliwn o lawrlwythiadau API a 324 miliwn o edrychiadau ar draws llwyfannau Wikimedia

Ar gyfer beth y gellir defnyddio trwyddedau agored?

Mae defnyddio trwydded agored mor syml â chyfathrebu neu arddangos y drwydded ochr yn ochr â'r deunyddiau y mae'n berthnasol iddynt.

  • Mae trwyddedau agored sydd angen priodoliad (e.e., CC BY) yn briodol ar gyfer llawer o ddeunyddiau megis: data ymchwil, setiau data, delweddau, modelau 3D, metadata, meddalwedd, cod, testun, gwefannau, apiau, cyhoeddiadau ymchwil, deunyddiau addysgol, catalogau arddangosfeydd, adroddiadau, neu recordiadau sain a fideo.
  • Mae trwyddedau agored sy'n nodi statws parth cyhoeddus gwaith (Marc Parth Cyhoeddus neu CC0) yn briodol ar gyfer deunyddiau nad ydynt wedi'u gwarchod gan hawlfraint megis atgynhyrchiad ffotograffig manwl gywir o baentiad nad oes hawlfraint arno mwyach.
  • Ni ddylid defnyddio trwyddedau agored ar gyfer deunyddiau ble mae'r canlynol yn codi: materion moesegol, sensitifrwydd diwylliannol, pryderon ynghylch data sensitif (e.e., data iechyd neu ddata personol), neu ar gyfer deunyddiau sydd dan hawlfraint heb ganiatâd deiliad yr hawliau.

Manteision trwyddedu agored

O fabwysiadu dull strategol, mae trwyddedu agored yn gwella meysydd gwaith allweddol o fewn eich sefydliad ac ar draws y sector treftadaeth. Er enghraifft, mae trwyddedu agored yn:

  • Cefnogi cenhadaeth eich sefydliad. Mae sefydliadau treftadaeth yn helpu pobl a chymdeithas i ddeall y byd a datblygu ein gwybodaeth. Ei gwneud yn hawdd i unrhyw un, gan gynnwys sefydliadau treftadaeth eraill, i ddefnyddio eich deunyddiau yw conglfaen y gwaith hwnnw sy'n cael ei arwain gan genhadaeth.
  • Cysylltu eich sefydliad â mwy o gymunedau. Gall fod yn anodd deall pwy nad yw'n defnyddio eich deunyddiau nes i chi ddileu'r rhwystrau i wneud hynny. Mae trwyddedu agored yn eich galluogi i gyrraedd cymunedau nad oeddech yn gallu eu cyrraedd o'r blaen a darganfod cymunedau newydd nad oeddech yn sylweddoli eu bod yn awyddus i archwilio a defnyddio eich casgliadau.
  • Cefnogi cadwraeth. Gellir dosbarthu, archifo a chael mynediad i ymchwil, casgliadau a deunyddiau eraill o ansawdd uchel sydd â thrwydded agored o sawl safle. Mae hyn yn cynyddu'r gallu i'w cadw. Gall sefydliadau llai gael gafael ar ddeunyddiau mewn ffordd fwy cost-effeithiol a gallant elwa ar gynnal cymunedau agored a gwirfoddolwyr a gofalu amdanynt.
  • Cyfrannu at yr economi. Mae trwyddedu agored yn galluogi arloesedd yn y meysydd deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, gweledigaeth gyfrifiadurol ac ymchwil gyfrifiadurol, ac yn darparu deunyddiau pwysig i ysgogi'r diwydiannau creadigol.
  • Codi proffil eich sefydliad. Mae trwyddedu agored yn caniatáu i'ch ymchwil, casgliadau neu ddeunyddiau eraill gyrraedd cynulleidfaoedd ar ystod eang o lwyfannau, o Wicipedia i deledu a ffilmiau, ac i raglenni blaengar ar gyfer y we a ffonau. Mae llawer o sefydliadau'n gweld cynnydd mawr mewn traffig i'w gwefannau a'r rhyngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol, y cyfeiriadau atynt ac ymholiadau uniongyrchol ar ôl defnyddio trwyddedu agored.
  • Gallu ysgogi refeniw a chreu modelau busnes newydd. Mae trwyddedu agored wedi bod yn ffynhonnell refeniw newydd i lawer o sefydliadau, gan gynnwys partneriaethau i ddigideiddio gweithiau ychwanegol, trwyddedu brandiau, ac ymgynghoriadau am ddeunyddiau sydd newydd ddod i amlygrwydd.
  • Gallu creu arbedion cost a helpu i ail-flaenoriaethu eich adnoddau i gefnogi nodau sefydliadol. Mae cyfyngu ar fynediad i ddeunyddiau yn ddrud. Mae costau gweithredu rhaglen drwyddedu yn aml yn fwy na'r refeniw cysylltiedig o ystyried y staff, y llifau gwaith a'r aneffeithlonrwydd sy'n gysylltiedig â gweinyddu gwasanaethau ac ymateb i geisiadau. Gall y seilweithiau digidol sydd eu hangen i reoli mynediad fod yn llawer drutach na sicrhau bod y deunyddiau hynny ar gael am ddim drwy gyfrwng hunanwasanaeth.
  • Creu ffyrdd newydd o weithio. Drwy gael gwared ar rwystrau a thensiwn ynghylch defnydd, mae trwyddedu agored yn cynyddu cyflymder cydweithredu yn sylweddol. Mae hyn yn agor y drws i ffyrdd cwbl newydd o weithio, o fewn eich sefydliad a chyda phartneriaid allanol.
  • Cefnogi llythrennedd digidol. Mae'r deunyddiau sydd â thrwydded agored yn gweithredu fel pwyntiau mynediad newydd i unigolion ddatblygu eu llythrennedd digidol, gan gynnwys unigolion yn eich sefydliad chi. Gallant archwilio eich deunyddiau a'u cysylltu â deunyddiau eraill sydd â thrwydded agored i ddeall eu galluoedd digidol yn well, a'u defnyddio fel conglfeini ar gyfer prosiectau newydd.

Ffocws ar: y nifer sy'n manteisio ar drwyddedu agored ym maes treftadaeth y DU

  • Yn y DU, mae tua 100 o sefydliadau treftadaeth wedi rhyddhau casgliadau digidol o dan drwyddedau agored ac offer y parth cyhoeddus. Mae hyn yn cyfrif am 6% o weithgaredd trwyddedu agored yn y sector GLAM agored byd-eang.
  • Mae sefydliadau GLAM agored y DU yn amrywio o amgueddfeydd a llyfrgelloedd, i sefydliadau ymchwil a phrifysgolion, cestyll ac atyniadau ymwelwyr, cynghorau lleol ac archifau’r llywodraeth, gerddi botanegol a gwarchodfeydd natur.
  • Y prif gyfranwyr yn y DU yw'r Amgueddfa Hanes Naturiol yn Lloegr gyda dros 8 miliwn o ddelweddau (CC BY) a'r Llyfrgell Brydeinig gyda dros 1 miliwn o ddelweddau (Marc Parth Cyhoeddus).
  • Mae sefydliadau sydd â pholisïau cwbl agored yn cynnwys: Archifau, Oriel Gelf ac Amgueddfeydd Caeredin; Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Birmingham; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Ymddiriedolaeth y Pafiliwn Brenhinol ac Amgueddfeydd, Brighton a Hove; Royal Albert Memorial Museum & Art Gallery; Wellcome Collection ac Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Caerefrog.

Fudiadau gweithredol yn y maes trwyddedu agored

Mae trwyddedu agored yn adeiladu ar waith cyfunol mudiadau agored eraill, gan helpu eich sefydliad i ddysgu o'r ffordd y cânt eu rheoli a'u llwyddiant:

  • Mae mynediad agored yn sicrhau bod cyhoeddiadau a chynnwys arall ar gael i bawb ar gyfer dysgu a mewnwelediadau newydd
  • Mae data agored yn rhannu gwybodaeth amdanom ni ein hunain, ein byd, a'n hamgylchedd
  • Mae Adnoddau Addysgol Agored (OER) yn creu'r gwerslyfrau, gwefannau, fideos, ac adnoddau eraill ar gyfer addysgu a dysgu
  • Mae gwybodaeth agored yn hwyluso mynediad i ymchwil, gwybodaeth a dealltwriaeth
  • Mae Open GLAM (Orielau, Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd) yn ehangu mynediad i gasgliadau treftadaeth drwy sicrhau eu bod ar gael am ddim at bob ailddefnydd
  • Mae gwyddoniaeth agored yn rhannu'r ymchwil sy'n sail i ddealltwriaeth wyddonol a'r casgliadau sy'n ei hysgogi
  • Mae ffynonellau agored yn datblygu'r feddalwedd a’r caledwedd sy’n cefnogi ein byd modern

Ffocws ar: mae rhyddhau rheolaeth yn creu cyfleoedd newydd

Mae CC0 yn caniatáu i eraill ddefnyddio deunyddiau eich sefydliad mewn ffyrdd annisgwyl ac anrhagweladwy:

  • Gan ddefnyddio data CC0 o Restr Treftadaeth Genedlaethol Historic EnglandWikidata, fe wnaeth y prosiect Cast in Stone ym Mhrifysgol Caerwysg ac  Université Paris 8 adeiladu cronfa ddata sy'n mapio cerfluniau a henebion sy'n gysylltiedig â hanes trefedigaethol Prydain a Ffrainc.
  • Fe wnaeth prosiect o Brifysgol Caeredin gyfuno set ddata arolwg o ddewiniaeth yr Alban 2003 (1563-1736) â data o archifau, megis mapiau hanesyddol ac arolygon, a Wikidata i groesgyfeirio preswylfeydd bron i 4,000 o bobl a gyhuddwyd o ddewiniaeth â'u lleoliadau yn yr oes sydd ohoni.
  • Fe wnaeth yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol rannu metadata fel CC0 a'u huwchlwytho i Wikidata, a ddefnyddiwyd gyda setiau data agored eraill gan y Datblygwr Data James Morley i greu'r wefan A Street Near You. Gall defnyddwyr nodi cod post neu gyfeiriad i leoli pobl yn eu cymuned a wasanaethodd ac a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth y prosiect yn feirol, gan gyrraedd mwy na 240,000 o bobl mewn dim ond tridiau.

O drwyddedu agored i bolisïau a rhaglenni agored

Mae trwyddedu agored yn hanfodol i lwyddiant polisïau a rhaglenni agored oherwydd ei fod yn darparu’r fframwaith cyfreithiol sy’n caniatáu i eraill ddefnyddio’ch deunyddiau a chasgliadau treftadaeth y DU. Gall trwyddedu agored alinio polisïau eich sefydliad â gofynion llawer o gyllidwyr a sefydlu llifau gwaith safonol ar gyfer rheoli treftadaeth ar draws eich sefydliad.

Gall eich sefydliad ddibynnu ar drwyddedau safonol presennol yn eich polisi agored:

  • Defnyddiwch yr offeryn Cyflwyno i'r Parth Cyhoeddus Cyffredinol CC0 1.0  ar gyfer atgynyrchiadau digidol o weithiau yn y parth cyhoeddus, megis ffotograffau a sganiau. Mae Creative Commons yn argymell CC0 fel yr offeryn mwyaf priodol ar gyfer y delweddau hyn. Er nad yw cyfraith y DU yn caniatáu hawlfraint newydd, mae CC0 yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr mewn awdurdodaethau eraill y gellir defnyddio'r delweddau heb y risg o dorri amodau.
  • Defnyddiwch yr offeryn Cyflwyno i'r Parth Cyhoeddus Cyffredinol CC0 1.0  ar gyfer metadata a chod sy'n cael eu creu yn ystod y broses ddigideiddio. Mae hyn yn hwyluso'r defnydd o'r wybodaeth hon at ystod eang o ddibenion.
  • Defnyddiwch y Drwydded CC BY 4.0 (Priodoliad) ar gyfer cynnwys newydd gwreiddiol a grëwyd yn ystod y prosiect, megis ffeithluniau neu erthyglau. Mae hyn yn caniatáu i bawb rannu ac addasu'r deunyddiau at unrhyw ddiben, hyd yn oed dibenion masnachol, ac yn rhoi cydnabyddiaeth i'ch sefydliad.

Mae mabwysiadu strwythur trwyddedu agored safonol ac effeithiol yn creu polisi sy'n diogelu'r dyfodol ar gyfer eich sefydliad. Bydd y strwythur hwn yn lleihau faint o ddata etifeddol, hawliau a gwasanaethau trwyddedu y mae'n ofynnol i chi eu cynnal, gan leihau'r adnoddau sydd eu hangen i ddiweddaru ac uwchraddio systemau.

Ni ddylai sefydliadau ddefnyddio cyfraith contract i ddyblygu modelau rheoli a ffioedd gwasanaethau trwyddedu hawlfraint sy'n seiliedig ar ganiatâd. Mae enghraifft yn cynnwys cyfyngu ar y defnydd o ddeunyddiau agored a deunyddiau yn y parth cyhoeddus gyda thelerau ac amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dalu ffioedd yn seiliedig ar ddiben yr ailddefnydd. Mae telerau o'r fath yn mynd yn groes i nodau mudiadau agored ac wedi'u gwahardd gan bolisi'r Gronfa Treftadaeth.

Meithrin cynaliadwyedd a gwytnwch sefydliadol drwy raglenni agored

Gall rhaglenni trwyddedu agored gefnogi cynaliadwyedd sefydliadol drwy:

  • leihau costau cyfreithiol a dibyniaeth ar gyngor allanol
  • lleihau costau gweinyddol yn ymwneud â gwasanaethau trwyddedu
  • lleihau costau hirdymor sy'n gysylltiedig â data etifeddol a diweddariadau polisi
  • helpu sefydliadau i gefnogi cynhwysiant, mynediad a chyfranogiad drwy eich strategaeth ddigidol a’ch cenhadaeth gyhoeddus
  • helpu sefydliadau i fod yn berthnasol wrth i ddeunyddiau gael eu dosbarthu a'u hailddefnyddio ar-lein
  • cynyddu defnyddwyr a chynhyrchu gwybodaeth newydd am ddeunyddiau
  • denu ffynonellau incwm mwy amrywiol drwy fynediad agored a modelau busnes newydd

Cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol trwyddedu agored

Er y gall polisïau agored fod yn arfau pwerus i gyflawni llawer o nodau eich sefydliad, nid yw pob gwaith yn addas ar gyfer trwyddedu agored. Gall hawliau penodol godi mewn perthynas â deunyddiau sy'n teilyngu ystyriaeth ychwanegol. Er nad yw'r hawliau hyn yn anghydnaws â thrwyddedu agored, mae'n rhaid i bob deiliad hawl roi caniatâd i ddefnyddio trwydded agored ar ddeunyddiau.

  • Gall hawliau perfformwyr godi mewn ffilmiau neu recordiadau sain o lais neu symudiadau person a pherthyn i'r unigolyn dan sylw i ddechrau.
  • Mae hawliau cronfa ddata yn cael eu gwarchod dan hawlfraint a hawliau cysylltiedig ac yn eiddo i wneuthurwr neu gynhyrchydd y deunyddiau i ddechrau.
  • Gall hawliau cytundebol mewn cytundebau rhwng crewyr, cynhyrchwyr, cyflogwyr a dosbarthwyr gyfyngu ymhellach ar ailddefnyddio deunyddiau. Gall cyfranwyr neu roddwyr hefyd gyfyngu ar ailddefnyddio drwy gontractau.
  • Gall materion yn ymwneud â phreifatrwydd a hawliau data godi mewn perthynas â deunyddiau lle mae modd adnabod person byw a byddant yn perthyn i'r unigolion y gellir eu hadnabod.

Yn aml, ond nid bob amser, ni fydd gan weithiau yn y parth cyhoeddus sy'n rhan o'ch casgliad y mathau hyn o hawliau oherwydd eu bod fel arfer yn dod i ben cyn yr hawlfraint neu ar yr un pryd â'r hawlfraint.

Ni ellir tynnu trwyddedau agored yn ôl ar ôl iddynt gael eu rhoi ar  waith. Fodd bynnag, mae’n bosibl tynnu data oddi ar eich llwyfannau cyhoeddus, ac weithiau mae’n bosibl diweddaru data a gedwir mewn mannau eraill. Bydd datblygu strategaeth i ddileu neu gywiro data wrth greu eich rhaglen mynediad agored yn eich helpu i ymdrin â phryderon cyfreithiol, technegol a moesegol sy'n dod i'r amlwg neu'n esblygu.

Eithriadau i drwyddedu agored

Hyd yn oed pan fo deunyddiau yn y parth cyhoeddus, mae mathau eraill o bryderon yn tueddu i godi, megis:

  • delweddau o, neu gyfraniadau gan, blant, pobl ifanc, a phoblogaethau eraill sy'n agored i niwed
  • data ar rywogaethau sydd mewn perygl neu ddata mudo a allai wneud y rhywogaethau hynny yn agored i ymyrraeth gynyddol gan bobl
  • gweddillion hynafiaid, gweithiau ysbrydol, neu wrthrychau angladdol
  • arteffactau, gwybodaeth neu atgofion o arwyddocâd diwylliannol i'r cymunedau y tarddodd y deunyddiau hyn ohonynt
  • deunyddiau sy'n cynnwys gwybodaeth sensitif neu ddata personol

O'r herwydd, mae'n bwysig gweithio gyda'ch staff i nodi deunyddiau nad ydynt, oherwydd eu statws a'u sensitifrwydd, yn addas ar gyfer trwyddedau agored.

Trwyddedu agored a stiwardiaeth gyfrifol

Gall trwyddedu agored eich helpu i feddwl yn feirniadol am ba ddata, casgliadau a delweddau sy'n briodol i roi mynediad iddynt neu eu hailddefnyddio. Mae adroddiad y Sefydliad Data Agored ar stiwardio data yn gyfrifol yn nodi'r egwyddorion cyfreithiol a moesegol i'w dilyn wrth barchu preifatrwydd, sicrhau diogelwch a thryloywder, ystyried effaith gymdeithasol, a chynnal uniondeb yn ogystal â hyrwyddo ymddiriedaeth ac atebolrwydd mewn perthynas â data.

Mae hysbysiadau sy'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am wrthrychau yn elfennau ategol pwerus a chynhwysol i'ch polisi. Gellir eu defnyddio i ddarparu dealltwriaeth ddiwylliannol a chyd-destunol perthnasol am y bobl, y wybodaeth, yr arferion a’r gwrthrychau a gynrychiolir yn y casgliad, yn ogystal â gwallau ac anghywirdebau - a'r rhesymau dros eu bodolaeth. Gall hysbysiadau fod yn fodd o gyfathrebu'n agored a gwahodd cymunedau y tarddodd y deunyddiau ohonynt i gysylltu â'ch sefydliad ac ymwneud yn fwy â'ch casgliadau. Gellir eu cynnwys fel metadata yn eich cofnodion agored, a'u harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau yn eich casgliad agored. Os byddwch yn creu eich hysbysiadau eich hun, gall yr hysbysiadau eu hunain fod â thrwyddedau agored.

Enghreifftiau rhyngwladol o sefydliadau sy'n elwa o Drwyddedu Agored

Mae sefydliadau treftadaeth ledled y byd wedi cyhoeddi eu deunyddiau gan ddefnyddio trwyddedau agored ac offer y parth cyhoeddus, gan alluogi cydnabod treftadaeth mwy o bobl. Ers eu lansio yn 2001, mae offer Creative Commons a thrwyddedau agored eraill wedi arwain at:

  • fwy na 1,600 o sefydliadau treftadaeth o 55 o wledydd yn defnyddio trwyddedau agored ac offer y parth cyhoeddus i gyhoeddi eu casgliadau digidol a deunyddiau treftadaeth eraill
  • mwy na 95 miliwn o wrthrychau digidol ar gael am ddim i'w hailddefnyddio at unrhyw ddiben, gan gynnwys defnydd masnachol

Effeithiau ar drefniadau rheoli a gweithrediadau treftadaeth

Sefydliadau a staff yn rhannu profiadau o drwyddedu agored gan arwain at:

Ailennyn diddordeb cynulleidfaoedd a thanio diddordeb newydd

Mae Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Birmingham yn amcangyfrif iddi gael gwerth £100,000 o sylw yn y wasg ar ôl symud i drwyddedu agored. Fe wnaeth yr ymddiriedolaeth hefyd gydweithio â Black Hole Club a Vivid Projects ar y prosiect 'Cut, Copy, Remix' i ysbrydoli artistiaid i greu gweithiau newydd gan ddefnyddio'r casgliad. Mewn prosiect cydweithredol arall, creodd artist o Birmingham Coldwar Steve gyfres o weithiau newydd a werthwyd fel jig-so 1000 o ddarnau. Rhoddodd elw o'r posteri a werthwyd yn y siop roddion i'r amgueddfa a chyhoeddi'r gweithiau celf newydd fel CC0.

Ymrwymiadau i gynhwysiant a mynediad

Mae cael gwared ar rwystrau i gynhwysiant, mynediad a chyfranogiad yn golygu bod pawb yn cael cyfleoedd i ddysgu ac archwilio treftadaeth a hefyd i gydnabod a dathlu cyfraniadau grwpiau ymylol neu grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol mewn treftadaeth a hanes yn well. Mae'r Amgueddfa Celf Fodern a'r Tate defnyddio bywgraffiadau Wicipedia CC BY-SA i wella cynrychiolaeth artistiaid ar eu gwefannau, yn enwedig yr artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli ac sy’n haeddu gwybodaeth fwy awdurdodol. Mae staff hefyd yn cyfrannu at fywgraffiadau Wicipedia i wella eu cywirdeb a hygyrchedd eu gwaith. Mae NASA yn defnyddio ei delweddau, ei data a'i deunyddiau sain i greu deunyddiau ar gyfer pobl ddall neu rannol ddall gan ddefnyddio cyfuniad o Brailletechnegau cyffwrdd, a disgrifiadau mewn testun fformat mawrfformatau sainsynau, a phrintiau 3Dchitiau eraill o wrthrychau cosmig.

Manteision i staff, defnyddwyr ac ymchwilwyr

Yn Amgueddfa Te Papa Tongarewa yn Seland Newyddrhyddhawyd staff o ymateb i 14,000 o geisiadau am ddelweddau a 28,000 o negeseuon e-bost, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar ymgysylltu â chwsmeriaid, gan archwilio sylwadau a straeon am sut y mae’r casgliad yn cael ei ddefnyddio. Mae defnyddwyr ac ymchwilwyr hefyd yn elwa o'r amser a'r arian a arbedir drwy gyflwyno delweddau rhad ac am ddim a hunanwasanaeth.

Mae trwyddedu agored yn ariannu mwy o gasgliadau agored

Mae casgliad agored presennol Amgueddfa Gelf Indianapolis yn Newfields wedi arwain at geisiadau i ddigideiddio gweithiau eraill. Mae'n codi ffi fach am ddigideiddio delweddau newydd, gan arwain at fwy o weithiau'n cael eu digideiddio ac yn cael eu defnyddio'n greadigol gan y cyhoedd, gan ysgogi mwy fyth o ddiddordeb mewn digideiddio pellach. Dywedodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fod y polisi trwyddedu agored wedi cynhyrchu mwy o gyllid refeniw nag a gynhyrchwyd yn flaenorol drwy wasanaethau trwyddedu delweddau.

Mwy o allu i addasu yn yr oes ddigidol

Yn ystod y cyfnod clo yn sgil y pandemig, fe ledaenodd y #GettyMuseumChallenge gan ddefnyddio cynnwys agored CC0 Amgueddfa Getty, yn gyflym, gyda channoedd o filoedd o weithiau celf wedi'u hail-greu yn cael eu cyflwyno gan bobl o bob cwr y byd. O blith y rhain, cyhoeddodd yr amgueddfa lyfr o'r enw 'Off the Walls' yn cynnwys 246 o weithiau wedi'u hail-greu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gweithiau wedi'u hail-greu a gedwir gan sefydliadau treftadaeth eraill, gyda'r elw'n cael ei roi i elusen ar gyfer artistiaid a oedd yn wynebu argyfwng ariannol yn ystod y pandemig.

Ewyllys da a chydnabyddiaeth, yn lleol ac yn fyd-eang

Mae Amgueddfa Te Papa Tongarewa yn Seland Newydd yn defnyddio ffurflen lawrlwytho delweddau i gasglu straeon am ailddefnyddio gweithiau ac effaith hynny o bedwar ban byd. Mae'r casgliadau wedi ysbrydoli dyluniadau tatŵ newydd, patrymau gwau, ymchwil i anifeiliaid mewn perygl, deunyddiau darlithio a deunyddiau addysgu eraill a chynhyrchion masnachol. Mae'r set ddata o straeon ar gael ar drwydded CC BY ar GitHub.

Ffyrdd creadigol o warchod a hyrwyddo treftadaeth

Mae trwyddedu deunyddiau’n agored yn golygu y gellir rhannu a deall treftadaeth mewn ffyrdd creadigol, annisgwyl:

Defnydd mewn diwylliant poblogaidd a chyfresi teledu

Ymddangosodd casgliadau Sefydliad Celf Chicago ar waliau golygfeydd yng nghyfres The Gilded Age HBO a chyfres Bridgerton ar Netflix. Cafodd Nationalmuseum Sweden wybod bod ei delweddau'n cael eu defnyddio ar gyfer addurniadau wal gan Ikea drwy Instagram. Roedd IKEA wedi ymateb i gais gan un o'i ddilynwyr am wybodaeth am ffynhonnell y gweithiau celf, gan dagio’r amgueddfa a chyfeirio dilynwyr at gasgliadau agored y sefydliad.

Diddordeb gan gynulleidfa newydd drwy lwyfannau allanol

Oherwydd bod modd uwchlwytho casgliadau a data sydd wedi'u trwyddedu'n agored a'u cysylltu â gwybodaeth arall drwy lwyfannau fel Wikimedia Commons, WikiData a Wicipedia, mae sefydliadau’n gweld bod eu casgliadau'n cael mwy o sylw, bod mwy o ddiddordeb yn eu cyd-destunau a’u casgliadau a bod mwy o ymgysylltiad â nhw. Cynyddodd yr edrychiadau ar dudalennau'r Amgueddfa Gelf Fetropolitan ar Wicipedia o bedair miliwn i 17 miliwn y mis mewn dim ond dwy flynedd. Mae integreiddio data cynaliadwy â gwefannau eraill, fel Google Arts & Culture, hefyd wedi arwain at gynnydd o 300% yn y nifer sy'n ymgysylltu â chasgliadau.

Ffyrdd newydd o ddysgu

Fe wnaeth yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan gydweithio â myfyrwyr yn The Parsons School of Design ar ddefnyddio data casgliadau API a CC0 yr amgueddfa i greu gwaith delweddu data newydd ar bynciau fel cynrychiolaeth y rhywiauhanes arferion casglu.

Perthnasedd newydd drwy'r gallu i ddarganfod gweithiau ar-lein

Defnyddiodd Casgliadau Arbennig Llyfrgell Prifysgol Caerwysg Wikimedia Commons i gyhoeddi fersiynau digidol CC0 o Atlas Cymru a Lloegr Saxton 1578, sydd bellach yn cael ei restru fel y delweddau mwyaf eglur a grëwyd ledled y byd, sydd wedi cael eu gweld bron i filiwn o weithiau mewn llai na blwyddyn.

Annog rhoddion

Ar ôl rhyddhau delweddau o'r Scopes Trial, cafodd y Smithsonian Institution Archives rodd newydd o 10 delwedd ffotograffig prin arall. Roedd y rhoddwr wedi dod o hyd i'r delweddau trwydded agored ac wedi 'gwerthfawrogi'r ffordd y mae'r lluniau sydd gan y Smithsonian ar gael i bawb eu gweld.'

Cyfleoedd trwyddedu brand

Llwyddodd rhaglen trwyddedu agored Rijksmuseum i ddenu sylw Heineken, Albert Heijn a Playmobile, gan greu partneriaethau yn ymwneud â phecynnu bwyd a chynnyrch, teganau a mwy.

Arloesi digidol, creadigaethau a thrawsnewid y sector diwylliannol

Mae trwyddedu agored yn cefnogi economi’r DU, a’r diwydiannau addysgol a diwylliannol drwy ddarparu deunyddiau crai newydd ar gyfer:

Arloesi creadigol a thechnolegol

Fe wnaeth Coleg Prifysgol Llundain fynegeio casgliad o 60,000 o lyfrau digidol cyhoeddus o'r Llyfrgell Brydeinig i’w gyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel, gan weithio gydag ymchwilwyr y dyniaethau i droi eu cwestiynau ymchwil yn ddadansoddiadau cyfrifiadurol gan wella datblygiad a chyflwyniad y mathau hyn o gymwysiadau cyfrifiadura i’r sector diwylliannol. Cynhyrchodd pob senario ymchwil allbynnau o'r data, ymholiadau, dogfennaeth, a delweddu data, ac roedd pob un ohonynt ar gael fel pecynnau llif gwaith CC BY.

Mwy o sylw gan ddinasyddion-wyddonwyr

Mae dinasyddion-wyddonwyr fel Siobhan Leachman yn dibynnu ar setiau data agored a storfeydd fel y Llyfrgell Treftadaeth BioamrywiaethBionomiaTropicos, y Mynegai Rhyngwladol o Enwau PlanhigionWikidata i gysylltu ac amlygu cyfraniadau merched at wyddoniaeth a hyd yn oed ailgysylltu eu hunaniaeth ar ôl iddynt newid eu henw wedi iddynt briodi.

Mwy o archwilio data a chyfoethogi drwy gyfraniadau torfol

Mae'r Llyfrgell Brydeinig wedi defnyddio cyfraniadau torfol mewn 175 o brosiectau i wneud posteri hanesyddol wedi'u digideiddio yn fwy darganfyddadwy, i gasglu synau ac acenion o amgylch Prydain, i geogyfeirio mapiau hanesyddol, a pharu cofnodion catalog cardiau mewn Wrdw a Tsieinëeg â chofnodion catalog digidol.

Cysylltiadau newydd â chasgliadau eraill

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yr Alban yn cyfrannu at Atlas Scotland y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol, sy'n coladu data bioamrywiaeth o lawer o ffynonellau ac yn eu gwneud yn hygyrch fel CC0 a CC BY. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn rhannu deunyddiau dan CC BY-SA ar dudalen MediaWiki benodol fel y gall mwy o bobl gydweithio a chyfrannu at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Creu diwylliant ailgymysgu gan grewyr newydd

Mae trwyddedu agored yn golygu y gall crewyr o bob rhan o’r byd ailgymysgu a defnyddio deunyddiau treftadaeth ar gyfer gweithiau creadigol newydd:

  • Lansiodd y Rijksmuseum wobr Rijksstudio yn 2013 i arddangos mathau creadigol o ailddefnyddio gweithiau a ysbrydolwyd gan y casgliad, fel paledi colur, gosodiadau goleuo, llyfrau naid, llestri a ffasiwn. Mae'r gystadleuaeth wedi tyfu bob blwyddyn gydag 892 o gofrestriadau yn 2015, a mwy na 2,600 o gofrestriadau yn 2017 a 2020.
  • Cydweithiodd Oriel Genedlaethol Denmarc (SMK) â Shapeways i gynnal cystadleuaeth gemwaith a ysbrydolwyd gan chwe gwaith yn y casgliad. Cawsant dros 250 o geisiadau a chafodd y pum dyluniad gorau eu harddangos yn yr amgueddfa a'u gwerthu yn y siop rhoddion.
  • Dyluniodd yr arlunydd Lauren Carson hidlydd Instagram yn seiliedig ar Still Life: Flowers and Fruit gan Severin Roesen, yn yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan. Fel y dywedodd Carson, “efallai nad ydych chi'n byw mewn ardal fetropolitan fawr, efallai na fyddwch chi'n gallu fforddio taith i amgueddfa, efallai na fydd gennych amser i ymweld, ond mae'r casgliad enfawr hwn ar flaenau eich bysedd i chi ei ddefnyddio, i gael eich ysbrydoli ganddo, i weithio gydag ef, ac mae'r cyfan ar gael am ddim ar-lein.”

Dysgu pethau newydd drwy Adnoddau Addysgol Agored (OER)

Mae trwyddedu agored yn cefnogi'r defnydd o weithio ar gyfer Adnoddau Addysgol Agored (OER) drwy ddarparu deunyddiau o ansawdd uchel i addysgwyr eu defnyddio a meithrin addysg:

  • Mae Europeana a Llyfrgell Ddigidol Gyhoeddus America (DPLA) yn creu OER amrywiol fel rhan o'u cenadaethau. Ymysg yr enghreifftiau mae llyfrau lliwio a ryddhawyd gan Europeana a chasgliadau o ffynonellau cynradd i'w hailddefnyddio at ddibenion dysgu ac addysgu a ryddhawyd gan DPLA.
  • Creodd Memoria Chilena wefan o'r enw Chile para Niños sy'n cynnwys casgliadau i blant a'u gwahodd i'w harchwilio mewn ffyrdd sy'n ystyrlon iddynt.
  • Creodd Wikimedia Argentina, Rhwydwaith Ysgolion Cysylltiedig UNESCO, a'r Comisión Nacional Argentina de Cooperación côn la Unesco adnodd addysgol o'r enw El Archivo ên el Aula ('Yr Archif yn yr Ystafell Ddosbarth') gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol o sefydliadau diwylliannol amrywiol.
  • Mae Cymdeithas Frenhinol y DU yn cyhoeddi darlithoedd, digwyddiadau, a fideos eraill CC BY ar ei Sianel YouTube, gan gyflwyno ymchwil mwyaf blaengar y DU i’r cyhoedd mewn ffordd hollol newydd.

Enghreifftiau o bolisïau

Er bod llawer o sefydliadau yn llunio eu polisi mynediad agored eu hunain, nid oes angen ysgrifennu'r polisïau hyn o'r dechrau. Mae llawer o enghreifftiau o bolisïau mynediad agored a all fod yn fan cychwyn da i'ch rhai chi.

Adnoddau ychwanegol

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi comisiynu adnoddau defnyddiol eraill ar drwyddedu agored, polisïau a rhaglenni, megis:

Egwyddorion CARE ar gyfer Llywodraethu Data Cynhenid

Mae Egwyddorion CARE yn ategu'r Egwyddorion 'FAIR Data' adnabyddus drwy ymgorffori hawliau a buddiannau Pobl Gynhenid o fewn y mudiad data agored a rhannu data yn fwy moesegol, yn ogystal â chydnabod sofraniaeth a rheolaeth data.

Tystysgrif Creative Commons

Mae gan Creative Commons adnodd Cwestiynau Cyffredin defnyddiol i gefnogi trwyddedu agored. Mae CC hefyd yn cynnig rhaglenni tystysgrif i Addysgwyr a Llyfrgellwyr yn ogystal ag Open Culture ac Open GLAM.

Copyright User

Adnodd ar-lein yw CopyrightUser.org i wneud cyfraith hawlfraint y DU yn fwy hygyrch i unrhyw un sy’n dod ar draws gweithiau a warchodir gan hawlfraint. Mae’n cynnwys canllawiau ar sut i ddeall, trwyddedu a pharchu’r hawliau a gydnabyddir gan gyfraith hawlfraint y DU.

Copyright Cortex

Adnodd ar-lein yw Copyright Cortex sy'n ymroddedig i gyfraith hawlfraint a threftadaeth ddigidol. Mae'r wefan yn gartref i gatalog parhaus o ymchwil, adnoddau a thystiolaeth, a chyhoeddiadau mynediad agored ar gyfraith hawlfraint a rheoli treftadaeth y DU o'r enw Copyright 101.

GLAM3D.org

Anodd ar-lein yw GLAM3D.org i unrhyw un, o ddechreuwyr i arbenigwyr, ar sut i greu, rheoli a rhyddhau rhaglen mynediad agored 3D.

Open GLAM Survey

Mae'r golofn 'Polisi Hawliau neu Dermau Defnyddio' yn Arolwg Open GLAM yn cynnwys mwy o enghreifftiau o dermau gwefan a ddefnyddir gan sefydliadau treftadaeth ledled y byd.

OpenGLAM Medium

Mae OpenGLAM Medium yn cynnwys llawer o erthyglau ar sut i weithredu trwyddedu agored, fel y gyfres hon gan Anne Young (Cyfarwyddwr Materion Cyfreithiol ac Eiddo Deallusol yn Newfields). Cyhoeddir erthyglau gyda thrwyddedau CC BY a CC0, sy'n golygu y gellir eu cyfieithu i ieithoedd eraill i gael mwy o effaith.

Y Sefydliad Data Agored

Mae adroddiad y Sefydliad Data Agored ar stiwardio data yn gyfrifol yn nodi sut y mae cysyniadau data agored wedi dod i'r amlwg sy'n cynrychioli sut y dylid defnyddio data'n gyfrifol.

Canllawiau ar Adnoddau Addysgol Agored (OER) i Ysgolion

Nod yr adnodd Canllawiau OER i Ysgolion yw cefnogi addysgwyr i ddeall a gwneud defnydd o drwyddedu agored, a chreu a rhannu eu OER eu hunain.

Credydau

Cyfeiriwch at yr adnodd hwn fel:

'Trwyddedu Agored: briff i arweinwyr ar dreftadaeth ddigidol' (2023) gan Andrea Wallace a Michael Weinberg gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, CC BY 4.0.

Gyda chyfraniadau gan Javiera Atenas

Dyluniad gan Andrea Wallace

Cysylltwch â'r awduron drwy e-bost yn:

a.wallace@exeter.ac.uk

mweinberg@nyu.edu

info@glamelab.org

Diolch i’r adolygwyr Josie Fraser a Francesca Farmer, ac i Javiera Atenas am ei chyfraniadau.

Diolch i sefydliadau treftadaeth y DU sydd â pholisïau trwyddedu agored am ddelweddau a deunyddiau eraill a oedd yn hanfodol i'r canllaw hwn ac am ddarparu enghreifftiau cadarn o arfer da.

Ac eithrio lle y nodir a heb gynnwys logos cwmni a sefydliad, rhennir y gwaith hwn o dan Briodoliad 4.0 Trwydded Creative Commons 4.0 (Trwydded CC BY 4.0).

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...