Cyngor: sut i gynnwys pobl ifanc mewn treftadaeth

Mae cynnwys pobl ifanc mewn treftadaeth yn rhan allweddol o'n gwaith. Drwy ein rhaglen Tynnu’r Llwch, rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i helpu i greu prosiectau treftadaeth cyffrous, perthnasol ac arloesol.
Fe wnaethon nhw rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr hyn sy'n eu hatal rhag mwynhau treftadaeth – a'r cynghorion gorau ar ffyrdd o'u hysbrydoli.
10 cyngor gorau gan bobl ifanc ar gyfer eu cynnwys mewn prosiectau treftadaeth
- Rhowch wybod i bobl ifanc eu bod ar y blaen mewn gwirionedd. Dywedwch: "Byddwn yn eich dilyn", a sicrhewch eich bod yn golygu hynny.
- Peidiwch â chynllunio’r holl brosiect ac yna disgwyl i bobl ifanc gynnwys eu hunain mewn rhyw ffordd yn y gwaith. Cofiwch eu cynnwys wrth gynllunio.
- Cofiwch greu lle diogel ar eu cyfer.
- Os ydych chi wedi gweithio gyda phobl ifanc o'r blaen, meddyliwch am yr hyn a aeth yn dda a'r hyn nad oedd yn gweithio.
- Parchwch lais a barn pobl ifanc.
- Cofiwch, efallai mai pobl ifanc fydd yr arbenigwyr ar bwnc arbennig.
- Mae'n bwysig herio syniadau am fraint: lle mae'r pŵer a phwy sy'n ei ddal.
- Mae cyfathrebu mor bwysig – gellir cynnal trafodaethau grŵp a hefyd sicrhau eich bod yn dryloyw, yn uniongyrchol ac yn glir.
- Cofiwch, mae pobl ifanc yn bobl, hefyd – peidiwch â bod yn nawddoglyd wrthym na'n gwahanu gan ein trin yn gydradd.
- Byddwch yn gyson yn y ffordd yr ydych yn trin pobl ifanc ochr yn ochr â gwirfoddolwyr eraill.
Tri rhwystr pennaf pobl ifanc rhag cymryd rhan
- Diffyg ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael.
- Camsyniadau ynghylch beth yw treftadaeth a'r posibiliadau y mae'n eu dal.
- Ansawdd a pherthnasedd y gweithgareddau treftadaeth a ddarperir.
Ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd treftadaeth
- Mae’n rhaid i chi gyrraedd pobl ifanc drwy sianeli y maen nhw eisoes yn eu defnyddio.
- Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol.
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau/gwasanaethau eraill sydd eisoes yn gweithio gyda phobl ifanc.
- Cynnwys pobl ifanc wrth gynllunio a hyrwyddo'ch gwaith. Mae gweld pobl ifanc eraill yn cymryd rhan mewn treftadaeth yn allweddol i bobl ifanc newydd sy'n cymryd rhan.
Ffyrdd o wneud treftadaeth yn fwy hygyrch i bobl ifanc

"Gallai prosiect fel arddangosfa alluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau trefnu, dehongli a gweithio mewn tîm, ac efallai y byddan nhw’n disgyn mewn cariad â threftadaeth ar hyd y ffordd."
Mae dweud y straeon anarferol, a straeon sy'n atseinio gyda phobl ifanc yn gallu cael effaith enfawr. Rhowch gynnig ar bynciau megis hanes cerddoriaeth, technoleg a ffasiwn.
Mae dangos sut mae gwahanol themâu, fel addysg, gwleidyddiaeth a gwaith, wedi esblygu dros amser i'r hyn y maen nhw heddiw yn tynnu sylw at eu perthnasedd cyfoes.
Meddyliwch am dreftadaeth fel cyfrwng i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a phrofiadau, yn hytrach na chyrchfan ynddi ei hun. Gallai prosiect arddangos, er enghraifft, alluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau trefnu, dehongli a gweithio mewn tîm, ac efallai y byddan nhw’n disgyn mewn cariad â threftadaeth ar hyd y ffordd.
Cofiwch ganiatáu cyllideb ar gyfer pethau fel teithio a bwyd/treuliau lle y bo'n bosibl, er mwyn dileu'r mathau hynny o rwystrau i gyfranogi.