25 mlynedd o ariannu treftadaeth y DU: ein ffilm

25 mlynedd o ariannu treftadaeth y DU: ein ffilm

Three children look at Constable painting
Cynhaliwyd y gêm #LoteriGenedlaethol gyntaf ar 19 Tachwedd 1994. Ers hynny, mae £8 biliwn o werthiannau tocynnau wedi'i ddyfarnu i fwy na 44,000 o brosiectau treftadaeth, gan wella bywydau miliynau o bobl ledled y DU.

Fel ariannwr grant penodol mwyaf treftadaeth y DU, mae ein dosbarthiad o gyllid y Loteri Genedlaethol wedi cyrraedd pob cornel o'r wlad.

Dros y 25 mlynedd diwethaf rydym wedi helpu i sicrhau manteision sylweddol i adeiladau hanesyddol a gwerthfawr, bywyd gwyllt a chynefinoedd, parciau a'r awyr agored, amgueddfeydd o safon fyd-eang, diwylliant ac atgofion a threftadaeth gymunedol.

Rhannwch eich hoff atgofion

Beth yw eich hoff atgof Loteri Genedlaethol yn ystod y chwarter canrif diwethaf? Agoriad prosiect gwych, gwirfoddoli yn eich parc lleol, dysgu sgil treftadaeth newydd, tynnu llun trawiadol a gymerasoch ar gamera? Rhannwch y rhain ar y cyfryngau cymdeithasol a dathlwch gyda ni drwy ddefnyddio #LoteriGenedlaethol25.

#DiolchiChi, chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol

Mae miloedd o lefydd gwerthfawr a hanesyddol wedi cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol ers 1994. Mae gan lawer ohonynt gynigion arbennig ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yr hydref hwn i ddweud diolch yn fawr - ewch i wefan Diolch i Chi i ddod o hyd i rywle sy’n lleol i chi.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...