25 mlynedd: Sêr yn lansio cynigion am ddim i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

25 mlynedd: Sêr yn lansio cynigion am ddim i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

Big Narstie sitting in Kenwood House
Gwelwyd y rapiwr a'r seren deledu Brydeinig Big Narstie yn lansio cannoedd o gynigion am ddim ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn 600 o lefydd gwerthfawr a hanesyddol y DU.

Mae'r cynigion yn dweud  "Diolch i Chi" i bobl sy'n prynu tocynnau'r Loteri Genedlaethol. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol weld sut mae eu harian wedi trawsnewid treftadaeth y DU dros y 25 mlynedd diwethaf.

Mae Big Narstie, seren Derry Girls Jamie-Lee O’Donnell, cystadleuydd Love Island Anton Danyluk a’r comedïwr o Gymru Elis James oll wedi bod yn dathlu 25 mlynedd o’r Loteri Genedlaethol. Maen nhw wedi bod yn rhoi cipolwg i ni o blith rhai o'r lleoliadau a fydd yn cynnig naill ai mynediad am ddim neu anrhegion unigryw eraill i bobl sy'n dangos tocyn y Loteri Genedlaethol o 23 Tachwedd i 1 Rhagfyr.

Jamie-Lee O’Donnell with National Lottery ticket
Jamie-Lee O’Donnell at SS Nomadic

Big Narstie yn ymweld â Kenwood House 

Er mwyn lansio #DiolchiChi, aeth Big Narstie draw i Dŷ Kenwood yn Llundain sydd wedi ei adnewyddu a'i ail-agor yn ddiweddar diolch i arian gan y Loteri Genedlaethol.

Gyda'i arddull unigryw, mae'r MC yn mynd â ni ar daith mewn steil MTV Cribs o’r tŷ mawr hyfryd o'r 17eg ganrif yn Hampstead Heath - gallech gael eich camgymryd am feddwl roedd yn berchen arno!

Jamie-Lee ar fwrdd llong SS Nomadic

Mae seren ddoniol Derry Girls Jamie-Lee yn mynd â ni ar daith o gwmpas SS Nomadic. Wedi'i adeiladu yn 1911, cafodd ei gynllunio i drosglwyddo teithwyr a phost i ac o RMS Titanic.

Dyma'r unig long Seren Wen sy'n bodoli heddiw ac mae bellach, diolch i arian gan y Loteri Genedlaethol, yn atyniad pwysig i ymwelwyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae Jamie-Lee fel petai'n meddwl ei bod hi’n berchen ar long foethus ei hun…

Anton yn ymarfer corff yn Abbotsford 

Bydd ffans Love Island ar ITV yn gwybod cymaint y mae Anton Danyluk wrth ei fodd yn aros yn heini. Mae'n mynd â ni am dro "bywiog" o amgylch Abbotsford yn yr Alban, hen gartref y nofelydd Fictoraidd Syr Walter Scott.

Mae Anton yn archwilio pensaernïaeth anhygoel y tŷ, sydd wedi elwa o fuddsoddiad y Loteri Genedlaethol.

Elis James 

Mae Castell Caerdydd bellach yn gartref i'r digrifwr Elis James, neu felly mae'n ymddangos ei fod yn credu. Mae'n mynd â ni ar daith ffraeth o amgylch y tirnod poblogaidd hwn yng nghanol y prifddinas, sydd wedi cael ei adfer a'i adnewyddu diolch i gyllid gan y Loteri Genedlaethol.

Cynigion #DiolchiChi

Mae'r teithiau'n arddangos yn ddim ond llond llaw o'r miloedd o lefydd gwerthfawr a hanesyddol a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol dros y 25 mlynedd diwethaf, sydd gyda'i gilydd wedi esgor ar adfywiad yn nhreftadaeth y DU.

Mae gan lawer ohonynt gynigion arbennig ar gyfer chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ystod yr hydref.

Gallwch archwilio gardd ac ystâd annwyl iawn Gerddi Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam gan fwynhau crwydro o amgylch yr ardd furiog 13.5 erw ac efallai ymweld â'r bwyty Haylofft clyd am fwyd blasus. Mae un tocyn Loteri Genedlaethol yn darparu mynediad am ddim i un oedolyn. Bydd yn ddilys rhwng 23 a 29 Tachwedd.

Ac mae'n fynediad 2 am bris 1 gyda thocyn Loteri Genedlaethol yng Nghastell a gerddi Hillsborough yn County Down, Gogledd Iwerddon. Archwiliwch 100 erw o erddi trawiadol ac archebwch daith o'r Tŷ Sioraidd a adeiladwyd gan Wills Hill, sy'n dal i gael ei ddefnyddio fel y breswylfa Frenhinol yng Ngogledd Iwerddon. Bydd yn ddilys rhwng 23 Tachwedd ac 1 Rhagfyr.

Jodrell Bank at sun set
Jodrell Bank

 

Neu beth am y Ganolfan Ddarganfod Jodrell Bank anhygoel ym Manceinion? Mae'r arsyllfa, a gafodd ei derbyn yn ddiweddar i'r rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, yn cynnig mynediad am ddim sy’n ddilys o 25 Tachwedd hyd at 1 Rhagfyr.

Ewch i wefan Diolch i Chi i ddod o hyd i'r rhestr lawn a chwiliwch yr holl gynigion sy'n digwydd yn eich ardal.

25 mlynedd o ariannu traftadaeth

Dros y 25 mlynedd diwethaf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fu'r cyllidwr grant penodedig mwyaf o ran treftadaeth y DU. Rydym wedi dyfarnu £8bn i fwy na 44,000 o brosiectau ledled y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...