Diwylliannau ac atgofion
Maen nhw hefyd yn hanesion personol i ni, y profiadau sydd wedi ein siapio ni a'n cymdeithas.
Ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £510m i fwy na 24,600 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu i archwilio, cadw a dathlu traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth gwahanol gymunedau.
Weithiau cyfeirir at y dreftadaeth ddiwylliannol hon fel treftadaeth anniriaethol neu fyw. Mae hyn oherwydd ei bod yn newid yn gyson ac yn cael ei chadw'n fyw pan gaiff ei hymarfer neu ei pherfformio.
Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n dogfennu ac yn rhannu atgofion pobl. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn cynnwys cyfweliadau hanesion llafar, cyfleu straeon a safbwyntiau pobl yn ddigidol, a sicrhau eu bod yn cael eu hadneuo ac yn hygyrch yn awr ac yn y dyfodol.
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- ymchwilio a rhannu traddodiadau llafar, fel adrodd straeon neu dafodieithoedd lleol
- hyfforddi eraill mewn sgiliau a chrefftau traddodiadol, o adeiladu waliau sychion a llafnio i gwehyddu basgedi a gwneud tecstilau
- ymchwilio i darddiad diwylliant, megis cerddoriaeth, theatr neu ddawns, a chreu perfformiadau wedi'u dylanwadu gan arddulliau'r gorffennol
- rhannu hanes a hwyl dathliadau, gwyliau neu ddefodau gyda chynulleidfaoedd newydd, o gemau a choginio i carnifalau a ffeiriau
- casglu gwybodaeth draddodiadol neu eu pasio ymlaen, fel rheolaeth coetir neu feddyginiaeth cartref
- cofnodi straeon pobl gyffredin drwy hanesion llafar, er enghraifft am dyfu i fyny, ymfudo neu waith
- ailadrodd atgofion pobl am le neu ddigwyddiad, fel ysbyty arhosiad hir, streic y glowyr neu'r mudiad pync
Sut i gael arian
Prosiectau
Dathlu 60 mlynedd o wirfoddoli myfyrwyr yn Abertawe
Mae'r prosiect hwn yn dal a rhannu hanes grŵp myfyrwyr sy'n gwirfoddoli i dynnu sylw at y gwahaniaeth maen nhw wedi'i wneud dros y degawdau.
Prosiectau
Adeiladu sector treftadaeth fwy gwydn i Gymru
Mae prosiect ‘Treftadaeth Ymlaen’ Celfyddydau & Busnes Cymru yn helpu sefydliadau treftadaeth o bob maint i gael gafael ar y sgiliau, y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ffynnu.
Prosiectau
Dod â straeon Roma yn fyw yng Nghasnewydd, De Cymru
Bwriad prosiect ‘Roma Casnewydd, De Cymru’ yw cofnodi a rhannu straeon personol, diwylliant a threftadaeth cymuned Roma’r ardal.
Newyddion
Sefydliadau treftadaeth i rannu atebion arloesol i heriau gweithlu
Prosiectau
Hybu’r iaith Gymraeg yng Nghanolfan Dreftadaeth Hengwrt
Mae Menter Dinefwr dod â hanes lleol yn fyw ac yn rhoi pwyslais ar yr iaith Gymraeg diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Prosiectau
Hyb celfyddydau a threftadaeth Trecelyn wedi'i ddiogelu ar gyfer y gymuned
Mae'r sefydliad glowyr hanesyddol hwn, gyda'i theatr Art Deco o'r 1920au, ystafell ddawnsio a mannau amlbwrpas bellach yn lletya amrywiaeth o weithgareddau sydd o fudd i bobl leol.
Newyddion
Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn
Straeon
Cocorico! Archwilio'r dreftadaeth yn ein cartrefi
Prosiectau
Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn
Mae ein cyllid yn helpu Cymdeithas Budd Cymunedol Menter y Plu i gynllunio sut i arbed ac ailddatblygu Y Plu - tafarn restredig Gradd II.
Blogiau
Pam mae angen i ni ddweud straeon sydd heb eu hadrodd
Newyddion
Croesawu Bradford yn Ddinas Diwylliant 2025
Blogiau