Beth rydym yn ei olygu wrth dreftadaeth?

Beth rydym yn ei olygu wrth dreftadaeth?

Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch ar gyfer eich syniad prosiect treftadaeth, mae ein tîm yng Nghanolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr wedi ceisio ateb: 'beth yn union yw treftadaeth?'

Rheolwr Ymgysylltu o ddwyrain Lloegr, Debbie Cooper sy'n trafod yr hyn a olygwn wrth siarad am dreftadaeth, gan ddefnyddio enghreifftiau gwych o brosiectau yn y rhanbarth honno. 

Nid ydym yn diffinio treftadaeth – gofynnwn i chi ddweud wrthym beth sy'n bwysig a beth y dylid ei ddiogelu a'i gadw.

I ni, gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac am ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Debbie Cooper, Rheolwr Ymgysylltu Lloegr, Canolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rydym am ysbrydoli cymaint o ymgeiswyr am y tro cyntaf â phosibl. Gwyliwch ein fideo i gael gwybod mwy – gobeithiwn y bydd yn darparu'r sbardun hwnnw i'ch helpu i ddechrau arni.

Angen mwy o ysbrydoliaeth? Archwiliwch rai o'r prosiectau anhygoel rydym wedi'u hariannu.

Mae'r fideo uchod ar gael yn Saesneg yn unig gan ei fod ei greu gan dîm canolbarth a dwyrain Lloegr Cronfa Treftadaeth sydd wedi'i leoli y tu allan i Gymru. Byddwn yn creu rhai ein hunain yng Nghymru yn y dyfodol.

Adnoddau defnyddiol

Darganfyddwch fwy am ein proses ariannu: