Ceisiadau yn agor am £9.8miliwn mewn ariannu newydd i adfer byd natur yng Nghymru

Ceisiadau yn agor am £9.8miliwn mewn ariannu newydd i adfer byd natur yng Nghymru

Mae cynefinoedd wystrys yn cael eu hadfer ym Mae Conwy.
Mae cynefinoedd wystrys yn cael eu hadfer ym Mae Conwy. Llun: ZSL.
Oes gennych chi syniad am brosiect i helpu byd natur a phobl i ffynnu yng Nghymru? Gwnewch gais nawr trwy ddwy gronfa newydd.

Mae'r rhaglenni grant, Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur a'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, yn anelu at adfer cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau sydd o dan fygythiad a gwella mannau gwyrdd lleol i bobl mewn rhannau difreintiedig o Gymru.

O heddiw ymlaen, gall sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £250,000. Ar draws y ddwy raglen mae gennym £9.8m i’w ddosbarthu ar ran Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn nesaf.

Ariannu Cyfalaf Lleoedd Lleol i Natur

Gwnewch gais am swm rhwng £10,000 a £250,000 i wella mannau natur trefol, datblygu prosiectau tyfu bwyd cymunedol neu helpu cymunedau ethnig amrywiol i ymgysylltu â threftadaeth naturiol.

Storïau o lwyddiant

Angen rhywfaint o ysbrydoliaeth? Ymysg y grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur blaenorol mae:

  • Prosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru (y dyfarnwyd £100,000 iddo) a weithiodd gyda gwirfoddolwyr i gynyddu bioamrywiaeth mewn 25 o orsafoedd trenau a phum man gwyrdd cymunedol.
  • Trawsnewidiodd Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn (y dyfarnwyd £50,000 iddo) feysydd chwarae trefol dirywiedig yn berllan gymunedol, parc chwarae eco i blant, gardd synhwyraidd ac ymwybyddiaeth ofalgar a mannau tyfu cymunedol.

Dyddiadau allweddol

  • mynychu gweminar i ymgeiswyr ar 11 Hydref 2023
  • cyflwyno ffurflen ymholiad prosiect dewisol erbyn 20 Hydref 2023
  • 12 Rhagfyr 2023 yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau
  • bydd penderfyniadau ar y ceisiadau a dderbynnir yn cael eu gwneud erbyn diwedd Chwefror 2024

Bydd rowndiau ymgeisio pellach yn 2024.

Y Gronfa Rhwydweithiau Natur

Gwnewch gais am swm rhwng £50,000 a £250,000 i wella a sefydlogi safleoedd tir ac arfordirol gwarchodedig Cymru – o laswelltiroedd a chorsydd mawn sy’n diflannu i gynefinoedd dŵr croyw a morol sydd o dan bwysau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Storïau o lwyddiant

Angen rhywfaint o ysbrydoliaeth? Ymysg y prosiectau sydd wedi derbyn ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur mae:

  • Prosiect Luronium Futures (y dyfarnwyd £357,800 iddo) yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, sydd wedi gwella cyflwr rhan Cymru o gamlas Maldwyn sy'n gartref i blanhigion prin.
  • Mae ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) a Phrifysgol Bangor (y dyfarnwyd £249,919 iddo) yn adfer cynefinoedd wystrys brodorol ym Mae Conwy er mwyn gwella bioamrywiaeth forol, cynyddu cydnerthedd arfordirol ac ailgysylltu pobl â’u treftadaeth arfordirol.

Dyddiadau allweddol

  • mynychu gweminar i ymgeiswyr ar 10 Hydref 2023
  • 23 Tachwedd 2023 yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau
  • bydd penderfyniadau ar geisiadau'n cael eu gwneud erbyn diwedd 1 Mawrth 2024

Rhoi hwb i natur a chymunedau

Meddai Andrew White, cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Rydym am helpu mwy o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru i gysylltu â byd natur. Mae'n bleser gennym weithio gyda Llywodraeth Cymru eto i ddosbarthu £9.8m a helpu i wireddu hyn.

“Dyma’r drydedd flwyddyn bellach ar gyfer y rhaglenni hyn, sy’n rhoi hwb gwirioneddol i gymunedau a sefydliadau i helpu byd natur yn eu hardal leol a sicrhau ei fod yn ffynnu er budd pawb.”

Darperir y ddwy raglen grant hyn gan y Gronfa Treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Darperir y Gronfa Rhwydweithiau Natur mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...