Cyhoeddi diwrnod #TrysorauTreftadaeth 2020

Cyhoeddi diwrnod #TrysorauTreftadaeth 2020

Cows in the fog at Avalon Marshes
Rydym yn dathlu treftadaeth anhygoel ac amrywiol y DU eleni drwy gynnal diwrnod #TrysorauTreftdaeth ddydd Sadwrn yma, 11 Ionawr

Wrth inni gyrraedd degawd newydd, rydym yn falch o edrych yn ôl ar y 25 mlynedd diwethaf o gefnogi treftadaeth. Edrychwn ymlaen hefyd at y dyfodol a sut y gallwn barhau i gefnogi a gwarchod ein treftadaeth mewn byd cyfoes.     

Ers 1994, rydym wedi cefnogi 44,000 o brosiectau ac wedi rhoi £8biliwn i dreftadaeth ledled y DU. Ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi newid ein henw ac wedi lansio Fframwaith Ariannu Strategol newydd, fel y gallwn fod yn y sefyllfa orau bosibl i barhau i ariannu prosiectau treftadaeth gwych am 25 mlynedd arall. 

Rydym yn ariannu pob math o brosiectau, ar yr amod eu bod yn helpu i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau.

Beth mae treftadaeth yn ei golygu i chi?

Gallai fod:

  • stori wedi ei phasio i lawr drwy genedlaethau
  • man lle rydych bob amser yn ymweld ag ef/hi
  • parc cyhoeddus lle rydych chi’n mynd am dro o’i gwmpas yn aml
  • amgueddfa rydych yn ymweld â hi yn rheolaidd
  • yr adar a welwch chi bob blwyddyn yn eich gardd

Er mwyn cymryd rhan rhannwch eich #TrysorauTreftdaeth gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashtag ar ddydd Sadwrn 11 Ionawr. Rhowch wybod i ni pam rydych chi wedi'i ddewis, rhannwch lun ysbrydoledig, ac edrychwch ar yr hyn mae pawb arall wedi'i ddewis. Byddwn yn rhannu ein hoff drydariadau.

Ein thema #TrysorauTreftadaeth eleni yw “y byd naturiol”

Eleni byddwn yn archwilio popeth sy’n ymwneud â treftadaeth naturiol, gan gynnwys prosiectau cadwraeth a'r amgylchedd, parciau, tirweddau a bywyd gwyllt.

Pine Marten on a logMae poblogaethau belaod coed yn cael eu hadfer diolch i'r prosiect  Back from the Brink project  sydd wedi ennill llu o wobrau.

 

Ewch â ni am dro drwy'r awyr agored a dysgwch am y sgiliau treftadaeth naturiol y gallwn ni eu dysgu i helpu i warchod ein bywyd gwyllt.

Byddwn yn darganfod gwrthrychau yn ein casgliadau cenedlaethol a ysbrydolwyd gan y byd naturiol, fel planhigion prin yng Ngerddi Kew, ffosydd deinosor yn yr amgueddfa hanes naturiol a morweddau Turner yn y Tate. 

Pam ein bod wedi dewis y thema hon? Oherwydd mae'r ffordd y gallwn ddiogelu ein treftadaeth naturiol, a gwella llesiant pobl, yn bwysig i ni ac yn elfen allweddol o'n hamcanion ariannu presennol. 

Felly rhowch rwydd hyn i’ch dychymyg a rhannwch ein prosiectau treftadaeth â ni!

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...