Buddsoddi mewn treftadaeth er lles

Buddsoddi mewn treftadaeth er lles

Gall treftadaeth wella lles i bobl ar draws y DU a gwneud cyfraniad arwyddocaol at y ffordd yr ydym yn teimlo am ein bywydau.

Beth yw lles?

Rydym yn defnyddio tystiolaeth gan y Ganolfan What Works, sy'n disgrifio lles fel 'sut rydym yn gwneud' - ar lefel unigol, lefel gymunedol ac ar y cyd ar draws y DU, a pha mor gynaliadwy yw hynny ar gyfer y dyfodol.

Mae lles yn crynhoi ein teimladau o foddhad, mwynhad a hunanhyder sy'n arwain at berthynas gref ac ymgysylltu â'r byd o'n cwmpas.

Mae treftadaeth yn ymwneud â'r teimlad hwnnw o berthyn, gan wybod mai dyma'ch lle a'ch dealltwriaeth o sut mae eich hanes yn ffitio o fewn hanes yn ehangach. Mae'n rhan o fod yn ddynol.

Laura Drysdale, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Adfer, fel rhan o brosiect Partneriaeth Tirwedd Water Mills and Marshes a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.

Rôl treftadaeth mewn lles

Gall treftadaeth feithrin cysylltiad â lle rydych chi'n byw, â'r bobl o'ch cwmpas neu â chymuned ar-lein. Gall gefnogi hyder a hunan-barch unigol, a darparu cyfleoedd i fod yn egnïol yn feddyliol ac yn gorfforol.

Gall treftadaeth hefyd ein helpu i ddod o hyd i ystyr a phwrpas yn ein bywydau. Mae'r ddau yn agweddau arwyddocaol ar sut rydyn ni'n profi lles.

Dyma rai enghreifftiau:

  • gweithgareddau gwirfoddoli mewn safleoedd treftadaeth i fynd i'r afael ag unigrwydd
  • ymweld â thir a byd natur i gael awyr iach a gwella iechyd meddwl
  • cyrsiau creadigol neu gyfleoedd dysgu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau – megis sesiynau trin a thrafod casgliadau mewn amgueddfa
  • cyd-gynhyrchu digwyddiadau treftadaeth, er enghraifft gweithgareddau a arweinir gan bobl ifanc mewn safleoedd treftadaeth

Gallwch gael gwybod mwy yn ein harweiniad lles.

Dyma rai o'r prosiectau ysbrydoledig rydym wedi'u hariannu ar draws y Deyrnas Unedig sy'n cefnogi lles. Os oes syniad gennych, byddem wrth ein boddau'n clywed oddi wrthych.

Dau berson yn sefyll y tu allan i adeilad
Mae gwaith yn dechrau adfer tafarn Y Plu a'i thrawsnewid yn ganolbwynt diwylliannol lleol

Projects

Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn

Mae ein cyllid yn helpu Cymdeithas Budd Cymunedol Menter y Plu i gynllunio sut i arbed ac ailddatblygu Y Plu - tafarn restredig Gradd II.

Pedwar o bobl yn cerdded ochr yn ochr mewn parc gyda lawnt agored a choed ar hyd yr ymyl
Parks for Health project in Camden and Islington in tip four. Credit: Islington Council

Straeon

Sut i greu mannau gwyrdd trefol cynaliadwy yn eich ardal chi

Fe wnaethom ddathlu diwedd ein rhaglen tair blynedd Future Parks Accelerator (FPA) fis diwethaf gyda chynhadledd ar-lein Naturally Vitaling, gan rannu'r hyn a wnaethom ei ddysgu o'r prosiectau. Mae rhaglen FPA, a lansiwyd yn 2019, wedi dangos gwerth buddsoddi mewn parciau a mannau gwyrdd trefol yn
Gwirfoddolwyr yng ngardd 'The Wilderness'
Gwirfoddolwyr yng ngardd 'The Wilderness'. Credyd: MHA

Projects

The Wilderness: Achub Treftadaeth Natur i Wella Llesiant

Er gwaethaf heriau yn ystod y pandemig, mae prosiect The Wilderness yn dangos sut y gellir gwella llesiant pobl hŷn drwy fynd ati i adfer ac ymgysylltu â threftadaeth naturiol.

Tri phlentyn yn dal tomatos i'w trwynau

Projects

Cwm Cynon yn rhyfeddod llesiant

Mae safle diffaith yng Nghwm Cynon wedi'i drawsnewid yn ardd gymunedol sy'n llawn pobl, natur a bywyd gwyllt – ac erbyn hyn mae'n lle perffaith i hybu iechyd meddwl.