Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn

Achub tafarn gymunedol 200-mlwydd-oed ar Ben Llŷn

Dau berson yn sefyll y tu allan i adeilad
Mae gwaith yn dechrau adfer tafarn Y Plu a'i thrawsnewid yn ganolbwynt diwylliannol lleol

National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million

Llanystumdwy
Gwynedd
Menter y Plu
£91010
Mae ein cyllid yn helpu Cymdeithas Budd Cymunedol Menter y Plu i gynllunio sut i arbed ac ailddatblygu Y Plu - tafarn restredig Gradd II.

Mae'r adeilad 200 oed yn fan cyfarfod pwysig yn Llanystumdwy ac fe'i prynwyd gan Menter y Plu ym mis Awst 2019 ar ôl ymgyrch codi arian lleol. 

Y pentref yw man geni David Lloyd George ac mae ymwelwyr ag Amgueddfa Lloyd George gerllaw yn rhoi hwb economaidd gwerthfawr pan fyddant yn ymweld â'r Plu.

Bydd ein grant datblygu yn galluogi Menter y Plu i baratoi cynlluniau manwl ar gyfer eu prosiect, er mwyn gallu gwneud cais am gyllid pellach i:

  • adfer strwythur gwreiddiol y dafarn 200 oed
  • dymchwel estyniadau modern ac anaddas yr adeilad
  • adeiladu gofod newydd y gall y gymuned ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau i ddod â phobl ynghyd i ddathlu treftadaeth leol a hyrwyddo'r Gymraeg
a group of people sitting in a historic Welsh pub
Mae gwella lles pobl leol yn rhan bwysig o'r prosiect

 

Dywedodd Peredur Jones o Fenter y Plu: "Gweledigaeth Menter y Plu yw meithrin tafarn Y Plu fel canolfan fywiog sy'n amddiffyn diwylliant Cymru ac sy'n ychwanegu at les cymdeithasol ac economaidd Llanystumdwy a'r ardal ehangach.


"Ein nod yw gwneud Llanystumdwy yn lle brafiach i fyw, gweithio ac ymweld â'n gilydd a gwella lles y gymuned, trwy gamau fel gwella'r cysylltiad rhwng Y Plu a'r rhwydwaith llwybrau lleol a rhandiroedd Cricieth. Mae'r arian a gawsom gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hwb mawr i'n helpu i ddatblygu ein cynlluniau."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...