Lansio menter newydd: Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Lansio menter newydd: Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Josie Fraser
Josie Fraser
Heddiw, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn lansio ei fenter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth. Mae ein Pennaeth Polisi Digidol newydd, Josie Fraser, yn dweud wrthym beth i'w ddisgwyl.

Gall sefydliadau treftadaeth ffynnu yn yr oes ddigidol, gan ddefnyddio technoleg i ddenu'r ymwelwyr a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. 

"Gall technoleg helpu sefydliadau i fynd gam ymhellach, gan ddarparu ffyrdd rhad o gysylltu â chymunedau a dod â threftadaeth i fwy o bobl."

Rydym am eu helpu i lwyddo, a dyna pam rydym wedi datblygu ein menter sgiliau digidol ar gyfer treftadaeth.

Digital Skills for Heritage logo

Beth fyddwn ni'n ei wneud 

Menter eiriolaeth yw Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth sy'n hybu galluoedd digidol ar draws y sector treftadaeth.

Bydd yn:

  • hyrwyddo sgiliau digidol ac arweinyddiaeth
  • cefnogi datblygu sgiliau digidol yn uniongyrchol

Yn ogystal, byddwn yn cynnal ymarfer meincnodi ar draws y sector i fesur pa mor ddigidol hyderus ydyw. Bydd yr ymarfer yn digwydd yn ystod hanner cyntaf 2020, gan ein helpu i nodi a dathlu'r gwaith gwych sy'n digwydd eisoes. 

Ein hymateb i sector amrywiol

Mae sefydliadau treftadaeth yn amrywiol, gydag anghenion, lleoliadau, meintiau a lefelau o aeddfedrwydd digidol sy'n amrywio'n fawr, felly mae angen i'n gweithgareddau fod yn amrywiol hefyd.

Mae Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth felly'n cynnwys sawl elfen.

Hyfforddiant a chymorth i sefydliadau treftadaeth

Ar ôl proses agored a chystadleuol, rydym wedi dyfarnu dau grant, sef cyfanswm o bron i £500,000, i:

Eu nod yw cynyddu'n sylweddol y cyngor a'r cymorth am ddim sydd ar gael i sefydliadau treftadaeth sydd eisoes yn defnyddio'r digidol.

Cadwch mewn cysylltiad drwy ymuno â'n Cylchlythyr  a'n dilyn ni ar  Twitter,  Facebook,  Instagram a LinkedIn.

Arwain y sector

Rydym am sicrhau bod gwneuthurwyr penderfyniadau ar draws y sector yn hyderus ynglŷn â defnyddio digidol i gyflawni eu cenadaethau sefydliadol.

Bydd ein cyrsiau newydd 'Arwain y Sector' yn noddi hyd at 30 o swyddogion gweithredol, yn gweithio o fewn sefydliadau treftadaeth canolig a mawr, i ddod yn arweinwyr digidol.

Bydd hyd at ddwy garfan yn cymryd rhan mewn rhaglen ddysgu strwythuredig, arloesol a ddarperir gan Culture24. Dysgwch fwy ac ym heddiw.  

Y Gronfa Hyder Digidol

Gall technoleg helpu sefydliadau i fynd gam ymhellach, gan ddarparu ffyrdd rhad o gysylltu â chymunedau a dod â threftadaeth i fwy o bobl.

Fodd bynnag, gwyddom fod llawer o sefydliadau ond yn dechrau mynd i'r afael â'r ffordd y gall technoleg eu helpu.

Ar gyfer ein Cronfa Hyder Digidol, rydym wedi buddsoddi £250,000 a chynnig mentora un i un ar gyfer 20 sefydliad. Rhaid i'r rhain fod yn weithredol yn un o'n 13 maes ffocws a nodir yn ein Fframwaith Ariannu Strategol  i fod yn gymwys.

Mae'r ceisiadau ar agor o heddiw tan 6 ebrill 2020.

Dinosaur image with text: Whatever era it comes from, it can thrive in the digital era

Eiriolaeth ar gyfer digidol o fewn treftadaeth

Drwy gydol y fenter hon a thu hwnt, byddwn yn hyrwyddo gallu digidol mewn treftadaeth.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth, arfer gorau, awgrymiadau, offer ac adnoddau eraill ar ein gwefan,  cylchlythyrau  a chyfryngau cymdeithasol.  

Ein rhaglenni agored

Mae ein rhaglenni agored yn parhau i groesawu cynigion prosiect sy'n:

  • gwneud defnydd creadigol, teimladwy o ddigidol
  • cefnogi datblygiad sgiliau digidol
  • helpu sefydliadau i ddatblygu'n ddigidol aeddfed

Mae cyllid o £3000 hyd at filiynau o bunnau ar gael.  

Y flwyddyn i ddod

Yn fy rôl newydd fel Pennaeth Digidol yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at yrru’r fenter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth yn ei blaen.

Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn wych o weithio gydag unigolion a sefydliadau ledled y DU ar eu teithiau digidol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...