Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth: posteri am ddim ar gyfer eich gweithle

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth: posteri am ddim ar gyfer eich gweithle

Everyone has a story Twitter graphic
Fel rhan o'n menter sgiliau digidol ar gyfer treftadaeth, rydym wedi creu pedwar poster sydd wedi'u dylunio i ysbrydoli defnydd o ddigidol mewn treftadaeth. Lawrlwythwch nhw am ddim heddiw.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi creu cyfres o bosteri i hyrwyddo'r gwahaniaeth mawr y gall newidiadau digidol bach eu gwneud i sefydliadau treftadaeth. Rydym wedi derbyn ein hysbrydoliaeth gan wasanaeth digidol y Llywodraeth, sy'n defnyddio dyluniadau pwerus a syml  i gyfleu negeseuon allweddol.

Rydym yn eu rhannu o dan Creative Commons CC BY 4.0, sy'n golygu eu bod yn rhydd i'w lawrlwytho a'u hargraffu. Gobeithio y byddwch yn eu gweld yn ddefnyddiol.

Adolygu eich adolygiadau

Gall darpar ymwelwyr ag atyniadau treftadaeth gael eu dylanwadu'n fawr gan adolygiadau ar-lein, yn enwedig adolygiadau diweddar a adawyd ar wefannau  poblogaidd fel Google Maps a TripAdvisor. Gall gwirio eich adolygiadau'n rheolaidd helpu'ch sefydliad i ddatrys problemau – efallai y byddan nhw'n tynnu sylw at atebion hawdd hefyd.

 

Adolygu eich adolygiadau

 

Byddwch ar-lein

Mae pobl bellach yn defnyddio chwiliadau ar-lein yn rheolaidd i gynllunio eu gwyliau a'u tripiau, gan gynnwys dod o hyd i leoedd i ymweld â nhw. Mae llawer o chwiliadau'n defnyddio ymholiadau rhagweladwy, er enghraifft "diwrnodau allan yn X". Gallwch ddenu ymwelwyr newydd drwy ymchwilio sut rydych yn ymddangos pan fydd pobl yn edrych ar-lein am bethau i'w gwneud yn eich ardal.

 

Byddwch ar-lein

 

Dweud eich stori

Mae rhai mathau o dreftadaeth, fel y palasau brenhinol neu safleoedd Neolithig, yn dangos byd gwahanol iawn i'r hyn y mae pobl wedi arfer ag ef. Ond gall treftadaeth hefyd roi cipolwg i bobl ar fywydau'r rhai y mae ganddynt gysylltiad cryf â nhw. Gall digidol gefnogi hyn, gan greu profiadau personol iawn sy'n ymwneud â theuluoedd, cartrefi, ysgolion, gweithleoedd a chymunedau.

Cwestiwn da i weithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth ei ofyn yn rheolaidd yw: "a ellir ei wneud yn fwy personol gan ddefnyddio digidol?"

 

Ffynnu yn yr oes ddigidol

Gall pob math o dreftadaeth, ni waeth pa mor hen neu arbenigol, gael ei mwynhau neu ei harchwilio'n haws drwy ddigidol.

 

Ffynnu yn yr oes ddigidol

 

Rhannwch eich dyluniadau

Rydym wedi cynhyrchu'r pedwar poster hyn i ddechreuwyr. Hoffem glywed eich awgrymiadau ar gyfer themâu ein poster yn y dyfodol, neu weld pa bosteri digidol treftadaeth rydych eisoes yn eu defnyddio – rhannwch nhw gyda ni ar Twitter,  Facebook ac Instagram.

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Nod ein menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth  yw gwella galluoedd digidol ar draws y sector treftadaeth. Mae cyllid, hyfforddiant a chymorth ar gael i sefydliadau treftadaeth ac arweinwyr y sector. 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...