Defnyddio digidol mewn treftadaeth: y ffordd hanfodol

Defnyddio digidol mewn treftadaeth: y ffordd hanfodol

'Absolute Unit' sheep
'Absolute Unit'. Credit: The Museum of English Rural Life, University of Reading
Mae Adam Koszary, cyn Arweinydd Digidol yr Amgueddfa ar Fywyd Gwledig Lloegr yn Reading, yn dweud wrthym sut y gall sefydliadau treftadaeth ddefnyddio digidol i sbarduno llwyddiant.

"Roedd gennym fwy o ddiddordeb ymchwil ... mae mwy o bobl yn dod i'r Amgueddfa... a mwy o arian yn dod i mewn."

- Adam Koszary

Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy:

Adam Koszary yw Golygydd Cyfryngau Cymdeithasol a Chynnwys yn Academi Frenhinol y Celfyddydau. Arferai fod yn Arweinydd Digidol Amgueddfa ar Fywyd Gwledig Lloegr (The MERL) ym Mhrifysgol Reading.

Yn y fideo, mae Adam yn trafod prosiect trawsnewid digidol MERL, gan gynnwys ei drydariad hynod boblogaidd am ddafad, ac mae'n rhannu awgrymiadau, syniadau a chyngor digidol y gall sefydliadau treftadaeth o bob math a maint eu defnyddio.

Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Bu Adam yn siarad â ni ar gyfer ein Menter sgiliau digidol ar gyfer treftadaeth, sy'n anelu at wella galluoedd digidol ar draws y sector treftadaeth. Mae cyllid, hyfforddiant a chymorth ar gael i sefydliadau treftadaeth ac arweinwyr y sector.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...