Mannau Addoli
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 1995 rydym wedi buddsoddi mwy na £970 miliwn mewn addoldai ledled y DU.
Mae ein cyllid wedi helpu i warchod ac adfer adeiladau fel y gall y gymuned ehangach eu mwynhau. Gyda'n cefnogaeth ni, mae miloedd o bobl o bob ffydd wedi dod â threftadaeth eu mannau addoli yn fyw unwath eto.
Yn yr Alban, rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag Historic Environment Scotland i ddarparu cyllid ar gyfer addoldai.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Mae'r prosiectau rydym yn eu cefnogi yn helpu cymunedau lleol ac ehangach i ymgysylltu â threftadaeth. Rydym yn ariannu:
- gweithgareddau sy'n cysylltu pobl â threftadaeth
NEU
- gweithgareddau sy'n cysylltu pobl â threftadaeth ac yn cynnwys rhywfaint o waith cyfalaf i adeiladwaith hanesyddol
Ffabrig hanesyddol adeilad yw'r deunyddiau adeiladu gwreiddiol neu hanesyddol arwyddocaol neu'r gwaith adeiladu.
Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau a ariennir gennym
Drwy ehangder ein cyllid, rydym am helpu addoldai i ddod yn fwy gwydn a'u hadeiladau'n wirioneddol gynaliadwy. Gweler ein canllawiau arfer da ar gydnerthedd sefydliadol i gael rhagor o fanylion.
Partneriaethau
Rydym am weld addoldai'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill fel y gallant feithrin eu gallu, ymgorffori eu prosiectau yn y gymuned leol a sicrhau effeithiau mwy hirdymor.
Rydym yn hoffi gweld grwpiau ffydd yn gweithio gyda grwpiau nad ydynt yn rhai ffydd. Gall hyn gryfhau'r grŵp ffydd drwy ddod â sgiliau a gallu ychwanegol i'r prosiect, a sicrhau bod y prosiect yn eiddo i'r gymuned gyfan ac yn ei werthfawrogi. Gall y partneriaethau newydd hyn fod â manteision hirdymor i'r man addoli.
Gweithgareddau
Pan fyddwch yn gwneud ymholiad i ni, dywedwch wrthym am y gweithgareddau ymgysylltu â threftadaeth a'r cynulleidfaoedd rydych chi am eu targedu. Dywedwch wrthym hefyd a oes unrhyw beth arbennig neu anarferol am adeiladu'r adeilad.
Rydym yn disgwyl i gost cynnal gweithgareddau gael ei chynnwys yn y gyllideb fel rhan allweddol o'ch cais am gyllid.
Atgyweiriadau
Nid ydym yn ariannu prosiectau sydd ar gyfer atgyweiriadau neu addasiadau i adeiladwaith hanesyddol yn unig.
Pa fath o brosiect y gallem ei ariannu?
- archwilio'r adeilad a dod ag ef yn fyw drwy ddehongliad newydd, ochr yn ochr â'r gwaith atgyweirio angenrheidiol
- cynnal gweithgareddau dysgu treftadaeth a digwyddiadau cymunedol, a chreu lle iddynt drwy wneud mân newidiadau i'r adeiladwaith
- archwilio, gwarchod a dehongli bioamrywiaeth mannau allanol gan gynnwys mynwentydd
- darparu gwell mynediad i dreftadaeth drwy ddulliau digidol
- digwyddiadau cymunedol i gynnwys pobl wrth gofnodi bod clychau, organau, deorfeydd a byrddau cymwynaswyr yn cael eu tynnu, eu hatgyweirio a'u hailosod, ochr yn ochr â'r gwaith atgyweirio
- cyfleoedd i bobl ddysgu am y celfyddyd mewn addoldai, ochr yn ochr â rhaglen gadwraeth, megis gwydr lliw, cofebau a henebion, paentiadau wal, cerfluniau, gosodiadau hanesyddol neu graffiti
- darganfod, gwarchod a dysgu am y creaduriaid sy'n byw yn yr adeilad, fel ystlumod neu adar ysglyfaethus
- gweithgareddau i helpu eich grŵp i reoli treftadaeth yn fwy effeithiol, megis ymchwilio i gynulleidfaoedd presennol a newydd, neu roi cynnig ar ddulliau newydd o godi arian neu gynhyrchu incwm
Sut i gael cyllid
Mae gan bob un o'n rhaglenni ariannu ganllawiau manwl ac adnoddau pellach i'ch helpu i wneud cais. Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Efallai y byddwch hefyd am archwilio'r cynllun grantiau Mannau Addoliad Rhestredig.
Newyddion
Cathedrals: bringing the UK’s ancient monuments to life
Newyddion
Dyfarnu £5.5 miliwn i warchod cadeirlannau ac eglwysi ledled y DU
Publications
Grants for Places of Worship programme evaluation
Newyddion
The changemaker churches supporting their local communities
Projects
St John's Church pairs spire repair with Worksop community activities
An eco church in Nottinghamshire is making urgent repairs to their spire, inviting the local community to engage with the church’s heritage, and creating a social isolation café.
Videos
Beth rydym yn ei olygu wrth dreftadaeth?
Projects
Harvesting heritage at Stoke Lacy Parish Church
New partnerships have helped the Herefordshire church repair its tower, bolster local wildlife and share its heritage with more people.
Programme
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
Programme
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £250,000 i £10miliwn
Newyddion
Buddsoddiad £12.2m i helpu achub adeiladau hanesyddol y DU
Newyddion
£1.9 miliwn i gynyddu cydnerthedd addoldai
Newyddion
Arbed safleoedd treftadaeth mewn perygl diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol
Programme
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – £10,000 i £250,000
Programme
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – £250,000 i £10miliwn
Newyddion
Ein hadroddiad newydd yn datgelu effaith argyfwng COVID-19 ar dreftadaeth
Straeon
Clychau Rhuthun i ganu unwaith eto
Newyddion
Anrheg Nadolig gan y Loteri Genedlaethol yn helpu dathlu pen-blwydd eglwys yn 180 oed
Newyddion
Y chwe mis cyntaf: ein Fframwaith Ariannu Strategol
Newyddion