£1.9 miliwn i gynyddu cydnerthedd addoldai

£1.9 miliwn i gynyddu cydnerthedd addoldai

Golygfa awyr agored o berson yn croesawu grŵp o bobl i eglwys
Croesawu ymwelwyr i Eglwys Sant Tydecho yng Ngwynedd, Cymru. Credyd: Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol
Rydym yn gweithio ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol ar raglen ariannu newydd, sy'n targedu tair ardal o'r DU.

Bydd y rhaglen tair blynedd ei hyd yn darparu cymorth i addoldai yng Nghymru, Yr Alban a gogledd-orllewin Lloegr (Manceinion Fwyaf, Swydd Gaerhirfryn a Cumbria).

Bydd yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn dosbarthu'r £1.9m ar ein rhan er mwyn diogelu dyfodol rhai o'r adeiladau hanesyddol a drysorir fwyaf yn y DU. Bydd grantiau ar gael o fis Mai.

Cymorth ymarferol i addoldai

Bydd Cherish yn darparu cymorth wrth hybu sgiliau ac adnoddau addoldai - waeth beth fo'u crefydd neu enwad - a'u cymunedau, gan gynnwys:

  • grantiau ar gyfer mân waith atgyweirio, datblygu prosiectau a chynnal a chadw o £500–£10,000, yn dechrau ym mis Mai 2023
  • cyngor ar gynnal a chadw i ymdrin â phroblemau gydag adeiladau hanesyddol er mwyn osgoi'r angen am waith atgyweirio drud
  • cymorth argyfwng ar gyfer cymunedau sy'n wynebu'r posibilrwydd o golli eu hadeiladau hanesyddol lleol
  • adnoddau ar gyfer materion lleol drwy dri swyddog cymorth
  • pecyn cymorth digidol sy'n cynnwys gofalu am adeiladau a chyngor ar greu incwm
  • hyfforddiant i wella capasiti lleol i ofalu am adeiladau mewn angen, gan gynnwys sgiliau rheoli prosiectau, ysgrifennu ceisiadau am arian, cynnal a chadw a thwristiaeth
  • cymorth ymweliadau a thwristiaeth drwy wella mynediad ac ymwybyddiaeth o addoldai, creu llwybrau twristiaeth a chysylltu â phartneriaid ar draws treftadaeth y DU

Bydd y cymorth yn cael ei deilwra i anghenion lleol a amlygwyd yn ein hymchwil gyda rhanddeiliaid. Bydd addoldai yn Yr Alban a gogledd-orllewin Lloegr yn cael cymorth wrth ymchwilio i ddefnyddiau cymunedol o'u hadeiladau, a bydd addoldai yng Nghymru'n elwa o ddatblygu eu cynnig i ymwelwyr.

Llun o'r tu allan i Eglwys Gadeiriol Dunblane yn Yr Alban. Mae'r fynwent gyda cherrig beddau yn y blaendir.
Eglwys Gadeiriol Dunblane yn Yr Alban. Credyd: Tom Parnell

Dull sydd wedi ei brofi ei werth o wneud gwahaniaeth

Mae'r bartneriaeth hon yn adeiladu ar lwyddiant Treasure Ireland, prosiect peilot a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol a helpodd dros 300 o addoldai yng Ngogledd Iwerddon gyda chymorth a grantiau atgyweirio bach. 

Meddai Claire Walker, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol: “Eglwysi a chapeli yw rhai o'n hadeiladau mwyaf hanesyddol a phrydferth. Wrth wraidd cymunedau lleol, maent hefyd yn gartref i fathau di-rif o gymorth cymunedol fel grwpiau chwarae, canolfannau galw heibio a mannau cynnes, yn ogystal â chyflawni eu diben craidd fel addoldai.

“Yn ogystal â darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol ar unwaith y mae mawr ei angen, bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i ddatblygu dulliau newydd o gefnogi eglwysi a chapeli fel y gallant barhau i fod ar agor ac ar gael, mewn defnydd ac i gael eu gwerthfawrogi gan bawb."

grŵp o bobl yn cael cyfarfod y tu mewn i eglwys
Fforwm addoldai sy'n cael ei gynnal yng Ngogledd Iwerddon, rhan o brosiect Treasure Ireland. Credyd: Nina McNeary

Cydweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol

Bydd y grant hwn yn cyfeirio cyllid at lle mae ei angen fwyaf, gan warchod a gofalu am rai o'n hadeiladau treftadaeth fwyaf gwerthfawr a bregus, sydd wrth galon cymunedau.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae ein partneriaeth ar Cherish yn arwydd o bethau i ddod. Pan gwnaethom gywain eich barn am ein strategaeth 10 mlynedd newydd, fe ddywedoch wrthym fod gweithio ar y cyd yn hanfodol i sut y gallwn gefnogi treftadaeth y DU yn well.

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, rydym am gydweithio gyda sefydliadau sy'n rhannu ein gweledigaeth ac yn deall treftadaeth a'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.

“Mae ein partneriaeth hirdymor gyda'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn adeiladu ar ein profiad eang o wneud grantiau i warchod treftadaeth a dod â bywyd a phwrpas newydd i eglwysi ac adeiladau capel a drysorir.

“Wrth i ni anelu at lansio ein strategaeth ddeng mlynedd newydd yr wythnos hon, rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae'r sector a'r cyhoedd ei eisiau. Bydd y grant hwn yn cyfeirio cyllid at lle mae ei angen fwyaf, gan warchod a gofalu am rai o'n hadeiladau treftadaeth fwyaf gwerthfawr a bregus, sydd wrth galon cymunedau.”

Cynulleidfa'n addoli y tu mewn i eglwys
Cynulleidfa Eglwys Gatholig Santes Fair, Manceinion. Credyd: JLWong

Ceisiadau am brosiectau a gwybodaeth bellach

Bydd yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn gwahodd ceisiadau am gymorth o fis Mai ymlaen.

I gael rhagor o newyddion am yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol a'r rhaglen Cherish, cofrestrwch am gylchlythyr am ddim yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...