Sut rydych chi'n llunio ein strategaeth 10 mlynedd newydd

Sut rydych chi'n llunio ein strategaeth 10 mlynedd newydd

Dynes yn gwenu yn dal bwrdd gyda phlastr arno a throwel
Diweddariad ar yr adborth a gawsom drwy ein hymgysylltiad strategaeth a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer sut rydym yn cefnogi treftadaeth y DU.

Dros yr haf, cafodd dros 4,400 o bobl ddweud eu dweud ar ein strategaeth newydd uchelgeisiol drwy arolygon, sgyrsiau, gweithdai ac ymchwil a gomisiynwyd gan ymgynghorwyr BritainThinks. 

Mae hyn wedi rhoi darlun clir i ni o farn a phrofiadau uniongyrchol croestoriad cynrychioliadol o'r cyhoedd ac ehangder sector treftadaeth y DU.

Roedd yr ymatebion yn fwy na'n disgwyliadau yn y nifer a'r angerdd roedden nhw'n ei ddangos.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Beth ddywedoch chi wrthon ni

Themâu allweddol

Daeth pedair thema i'r amlwg yn gryf o'n cwestiynau am yr hyn rydych chi am i ni ei flaenoriaethu yn ein cyllid:

  • Gwarchod, diogelu ac arbed treftadaeth, sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn addasadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. 
  • Ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws pob math o dreftadaeth. Helpu treftadaeth i addasu i effeithiau'r argyfyngau a chefnogi adferiad byd natur. 
  • Cynhwysiant, amrywiaeth a hygyrchedd ar draws pob math o dreftadaeth, gweithlu, arweinyddiaeth a chynulleidfaoedd. 
  • Gwytnwch ariannol a'r angen am gyllid tymor hwy ac arallgyfeirio incwm. 

Ein rôl

Fe ddywedoch chi wrthym y gallem wneud hyd yn oed mwy i gefnogi sector treftadaeth y DU drwy:

  • hwyluso partneriaethau rhwydweithio, cydweithio ac aml-asiantaeth
  • creu system i rannu gwybodaeth ac arfer gorau rhwng sefydliadau a phrosiectau
  • cefnogi meithrin capasiti, gwirfoddolwyr a hyfforddi a datblygu staff, yn ogystal â chyllid tymor hwy

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweledigaeth yn cael ei seilio ar farn a phrofiadau'r rhai sy'n cynnal ac yn elwa o'r prosiectau treftadaeth rydym yn eu hariannu.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Sut wnaethoch chi ein herio ni

Pan wnaethom ofyn i chi am ein chwe amcan drafft, roeddech yn gefnogol yn fras, ond yn teimlo'n gryf bod:

  • roedd yr argyfyngau hinsawdd a natur, a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ehangach, ar goll
  • Doedd 'treftadaeth i bawb' ddim mor gryf â'n safbwynt presennol i dreftadaeth fod yn 'gynhwysol'
  • roedd angen i'r amcanion fod yn fwy pendant, yn gliriach a dylen ni symleiddio amcanion sy'n gorgyffwrdd

Cipolwg gwerthfawr

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rydym yn ddiolchgar i bawb a rannodd eu barn gyda ni. Roedd yr ymatebion yn fwy na'n disgwyliadau mewn nifer a'r angerdd roedden nhw'n ei ddangos.

"Mae wedi atgyfnerthu y cysylltiad pwerus sydd gennym i gyd i dreftadaeth a pham bod y gwaith rydyn ni i gyd yn ei wneud mor bwysig.

"Rydyn ni wedi clywed yr hyn ddywedoch chi wrthym ni ac rydyn ni'n defnyddio eich mewnwelediad i lunio ein strategaeth newydd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweledigaeth yn cael ei seilio ar farn a phrofiadau'r rhai sy'n cynnal ac yn elwa o'r prosiectau treftadaeth rydym yn eu hariannu."

Beth sy'n digwydd nesaf

Byddwn ni'n lansio ein strategaeth newydd 10 mlynedd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer treftadaeth y Deyrnas Unedig dros y ddegawd nesaf.

Bydd rhagor o fanylion am yr hyn y byddwn yn ei ariannu a sut y byddwn yn targedu ein buddsoddiadau yn dod yng ngwanwyn 2023 pan fyddwn yn lansio ein cynllun cyflawni tair blynedd cyntaf.

Yn y cyfamser, dylech barhau i wneud cais am gyllid gan ddefnyddio ein canllawiau a'n canlyniadau cyfredol.

Cofrestrwch i'n cylchlythyr a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn rhagor o ddiweddariadau strategaeth fel sydd gennym ni.