
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Wedi’i adeliadu yn 1872, mae Capel Tabernacl wedi bod yn arwydd o hunaniaeth ddiwylliannol, lle pwysig a gwerthfawr i’r gymuned, sy’n cael ei alw’n Gathedral Anghydffurfiaeth yn aml ac yn un o dri adeilad Gradd I sydd ar ôl yn Abertawe.
Mae ein cefnogaeth yn achub Tabernacl rhag cau ac yn ei helpu i barhau i ysbrydoli ac i wasanaethu cenedlaethau’r dyfodol fel Hwb Gwydnwch Cymunedol. Dan arweiniad Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Tabernacl Treforys, Chyfundeb Tabernacl Treforys a Chyngor Abertawe, mae’r prosiect yn sicrhau dyfodol yr adeilad ac yn diogelu ei etifeddiaeth.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn:
- cefnogi atgyweiriadau hanfodol
- yn gwella hygyrchedd drwy osod lifft newydd ac uwchraddio cyfleusterau ymolchi
- yn cynnig amrywiaeth o raglenni diwylliannol ac addysgol, gan gynnwys digwyddiadau Cymraeg, gweithgareddau i grwpiau niwroamrywiol a threftadaeth ddwyieithog
- yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli newydd
Mae Tabernacl yn dal i fod yn gartref i grwpiau sy’n ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion corau, Cymdeithas Gymraeg Treforys, Twrw Tawe ac ysgolion lleol.
Dywedodd Robert Francis-Davies, aelod o gabinet Cyngor Abertawe:
"Rydyn ni'n falch iawn o chwarae rhan allweddol yn dod â bywyd newydd llawn bywiogrwydd i'r Tabernacl er budd cymunedau lleol a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r gefnogaeth wych gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr”.