Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gweithio gydag enwadau, cynulleidfaoedd, sefydliadau treftadaeth a chymunedau lleol i gyflwyno Capeli Cymru. Gyda'i gilydd, maen nhw'n datblygu dulliau ymarferol ac arloesol o ddiogelu treftadaeth capeli ledled Cymru.
Drwy gywain tystiolaeth newydd, adeiladu partneriaethau a chodi ymwybyddiaeth, gallwn helpu cadw straeon ac etifeddiaeth ddiwylliannol capeli Cymru'n fyw ac yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol.
Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd Adeiladau Hanesyddol y Comisiwn Brenhinol
Mae ein grant yn cefnogi:
- Cyfrifiad Capeli Cenedlaethol i greu darlun cyfoes o gapeli sydd ar agor, ar gau, wedi'u trawsnewid neu eu dymchwel, ac ar yr un pryd cywain gwybodaeth am eu harwyddocâd, eu defnydd a'u cyflwr
- rhaglen digwyddiadau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu adeiladau capeli a chasglu gwybodaeth gan gymunedau ledled Cymru
- cyfres o weithdai ar-lein i ddod ag enwadau, sefydliadau treftadaeth, arbenigwyr amgylchedd adeiledig, arianwyr a rhanddeiliaid eraill ynghyd i nodi atebion ymarferol a chyfleoedd i weithredu
Dywedodd Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd Adeiladau Hanesyddol y Comisiwn Brenhinol: "Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â llawer mwy na diogelu adeiladau hanesyddol. Drwy gywain tystiolaeth newydd, adeiladu partneriaethau a chodi ymwybyddiaeth, gallwn helpu cadw straeon ac etifeddiaeth ddiwylliannol capeli Cymru'n fyw ac yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd Dr Beck Edwards, Rheolwr Datblygu Prosiect: "Mae capeli wedi bod wrth wraidd cymunedau ledled Cymru ers cenedlaethau. Drwy gydweithio, gallwn ddeall yn well yr heriau maen nhw'n eu hwynebu heddiw ac archwilio cyfleoedd newydd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r adeiladau pwysig hyn fel y gallant barhau i chwarae rhan ystyrlon ym mywyd y gymuned.”
Ariannwyd y prosiect hwn fel rhan o'n menter strategol Addoldai.