Gwnewch gais nawr am grantiau o £70,000 i gefnogi sefydliadau adfywio treftadaeth adeiledig

Gwnewch gais nawr am grantiau o £70,000 i gefnogi sefydliadau adfywio treftadaeth adeiledig

The exterior of a restored victorian bank in Bacup, Lancashire
This Grade II listed former bank in Bacup, Lancashire was restored as a co-working hub and residential apartments
Bydd y rhaglen DU gyfan yn darparu ariannu a chefnogaeth i ymddiriedolaethau a arweinir gan gymunedau sy'n achub adeiladau hanesyddol ac yn rhoi bywyd newydd iddynt er budd pobl leol.

Gall elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau eraill sy'n gwarchod adeiladau hanesyddol bellach fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth. Mae'r cynllun tair blynedd hwn yn cael ei gyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) drwy bartneriaeth gwerth £5 miliwn gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Beth mae'r rhaglen yn ei gynnig

Bydd deg i 13 o sefydliadau'n cael eu cefnogi i fynd yn Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth sy'n gynaliadwy yn ariannol drwy ariannu, cyngor a chefnogaeth.

Ein gweledigaeth yw creu rhwydwaith Deyrnas Unedig gyfan o sefydliadau sy'n gydnerth yn ariannol i adfywio adeiladau segur a chefnogi adfywio mewn rhai o leoedd a chymunedau mwyaf difreintiedig y wlad.

Bydd gan sefydliadau llwyddiannus fynediad at:

  • dair blynedd o arian refeniw, hyd at £70,000 y flwyddyn
  • grantiau prosiect i achub ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol, hyd at £75,000 y prosiect
  • cefnogaeth gan gymheiriaid i fagu hyder a gwybodaeth
  • cynghorwyr prosiect ymgynghorol gydag arbenigeddau sy'n cynnwys llywodraethu, ymgysylltu cymunedol, cynllunio busnes a chynaladwyedd amgylcheddol

Mae'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol eisoes wedi dangos effaith gadarnhaol y dull hwn o gefnogi sefydliadau treftadaeth adeiledig. Bu i gynllun peilot llwyddiannus gefnogi saith Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth rhwng 2020 a 2023.

A run down row of houses with the windows boarded up
Cyn ei adfer

Arbed ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol er budd cymunedau

Mae Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth yn bartneriaethau neu sefydliadau cymunedol nid-er-elw sy'n berchen ar bortffolio o adeiladau hanesyddol ac yn eu hailddatblygu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol parhaol dros bobl yn eu hardal.

Fe wnaeth un ymddiriedolaeth, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Tyne & Wear, adfywio rhes o dai masnachwyr Sioraidd yn Sunderland. Roedd un tŷ mewn cyflwr difrifol.

A restored row of houses
Ar ôl adfer

Trwy bartneriaeth â Pop Recs, sef siop recordiau wib yn wreiddiol, mae'r ymddiriedolaeth wedi trawsnewid yr adeilad yn siop goffi, lleoliad cerddoriaeth a bar, gan ychwanegu seilwaith diwylliannol mawr ei angen i'r ddinas a gwella'r ardal. 

Pwy sy'n gymwys?

Gall sefydliadau o bob cwr o'r DU wneud cais, o'r rhai sydd ond yn cychwyn arni i sefydliadau aeddfed sydd am ddatblygu ymagwedd newydd.

Mae'r AHF am gefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol a all gyflwyno adfywio lleol sy'n rhoi treftadaeth yn y sbotolau.

Sut i wneud cais

Cyflwynwch fynegiad o ddiddordeb drwy wefan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol. Mae angen i chi allu dangos:

  • uchelgais i dyfu: mae gennych y potensial i ddatblygu portffolio o adeiladau treftadaeth a fydd yn cyflwyno buddion lleol ac yn cynhyrchu incwm dros yr hir dymor
  • adeiladau treftadaeth mewn angen yn eich ardal: prosiectau posib mewn lleoedd sydd ag anghenion a chyfleoedd economaidd a threftadaeth
  • partneriaid lleol: awdurdod lleol cefnogol a'ch parodrwydd chi i feithrin cysylltiadau gweithio

Amserlen ymgeisio

  • cyflwyno datganiad o ddiddordeb erbyn 9am ar 26 Mehefin 2023
  • gwahoddir sefydliadau ar y rhestr fer i gyflwyno cais llawn rhwng Gorffennaf a Medi 2023
  • disgwylir penderfyniadau Rhagfyr 2023

Gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno ein nodau

Mae'r rhaglen bartneriaeth hon wedi'i hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a'i chyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y DU, mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â sefydliadau sy'n rhannu ein huchelgeisiau ac a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol.

“Ein partneriaeth gydag AHF yw un o'r ffyrdd y bydd modd i ni wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a'r amgylchedd naturiol.”

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn friffio ar-lein

Mae'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn cynnal sesiynau ar-lein i helpu pobl i ddeall y rhaglen a dysgu mwy am sut i wneud cais. Bydd y sesiynau briffio rhithwir hyn yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...