Wedi'i adeiladu ym 1876, mae Synagog Merthyr rhestredig Gradd II, wedi bod yn wag ac yn adfeiliedig ers dros 20 mlynedd.
Erbyn hyn mae'r adeilad yn paratoi i groesawu ymwelwyr unwaith eto fel canolfan ddiwylliannol, addysgol a chymunedol.
Gydag ariannu gennym ni mae Canolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru yn adfer rhannau mewnol hanesyddol y synagog gan gynnwys y balconi, yr arch a fyddai wedi dal sgroliau'r Torah a'r ffenestri Seren Dafydd sy'n weddill.
Gan gydweithio â'r gymuned leol, bydd artist yn creu ffenestr gwydr lliw newydd sy'n adlewyrchu themâu cyfoes. Mae Tŷ Primrose Hill cyfagos hefyd yn cael ei drawsnewid i gynnig gofod dysgu, swyddfeydd a chyfleusterau arlwyo.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y ganolfan yn gartref i arddangosfa barhaol ar hanes Iddewiaeth yng Nghymru ac yn ennyn diddordeb mwy o bobl mewn diwylliant Iddewig Cymru drwy:
- ddigwyddiadau dathlu sy'n canolbwyntio ar wyliau Iddewig mawr lle gall pobl o wahanol ffyddiau a diwylliannau ddod at ei gilydd i rannu defodau, bwyd a cherddoriaeth
- hyb digidol a fydd yn gwella mynediad at adnoddau archifol a straeon am fywyd Iddewig
- rhaglen Curadur Ifanc yn darparu hyfforddiant i bobl ifanc mewn dehongli a churadu arddangosfeydd
Dywedodd David Bearman, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru:
"Rydym wrth ein bodd i dderbyn cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i achub y Synagog hanesyddol ym Merthyr Tudful, sef safle treftadaeth Iddewig pwysicaf Cymru.
“Bydd y gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol yn ein galluogi i ailagor yr adeilad i’r cyhoedd a sefydlu Canolfan Ddiwylliannol Iddewig Cymru newydd. Bydd y ganolfan yn cynnwys arddangosfa sy'n adrodd straeon cyfraniad cymunedau Iddewig Cymru at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru a rhaglen amrywiol o ddysgu, digwyddiadau a gweithgareddau.”
Mynnwch fwy o wybodaeth am brosiectau sy'n gwarchod treftadaeth addoldai presennol a blaenorol ar draws y DU.