Cymru
O'n harfordiroedd a'n cestyll i'n tirweddau, ein llenyddiaeth ac un o'r ieithoedd llafar hynaf yn Ewrop, mae gan Gymru dreftadaeth hynafol a chwedlonol.
Rydym yn falch o chwarae rhan yn y gwaith o warchod a dathlu dinasoedd bywiog, tirweddau hardd, safleoedd hanesyddol a diwylliannau amrywiol y wlad. Mae'n rhan o'n gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.
Yr haf hwn, mae ein tîm yng Nghymru yn mynd i Wrecsam i gysylltu â chymunedau ac arddangos y gwaith rydyn ni’n ei gefnogi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cliciwch yma i weld ein cynlluniau am yr wythnos.
Mynnwch ysbrydoliaeth ar gyfer eich prosiect
Edrychwch isod ar astudiaethau achos prosiect a'r newyddion diweddaraf o'ch ardal.
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor – os oes gennych syniad am brosiect yng Nghymru, byddai’n bleser gennym glywed oddi wrthych. Mae grantiau ar gael o £10,000 hyd at £10m.
Cael gwybod mwy a gweld pa ariannu sydd ar gael.
Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd chwech)
Nod y gronfa hon, sy'n dyfarnu grantiau rhwng £250,000 ac £1miliwn, yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir, dŵr croyw a morol gwarchodedig, ac adeiladu gallu sefydliadau i gyflymu adferiad byd natur ac ymgysylltu â chymunedau.
Mae ein gweithdai ariannu a'n sesiynau cynghori rheolaidd yn gyfle gwych i gael gwybod am ein cyllid, cael awgrymiadau ar sut i wneud cais da a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill o'ch ardal.
Ydych chi'n ystyried gwneud cais i ni am grant hyd at £250,000? Cyflwynwch Ymholiad Prosiect i dderbyn adborth ar eich syniad am brosiect cyn i chi wneud cais llawn. Byddwn yn cysylltu'n ôl â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Manylion cyswllt
E-bost: cymru@heritagefund.org.uk
Rhif Ffôn: 029 2034 3413 (Dydd Llun i Gwener, 9.00am–5.00pm)
Cyfeiriad:
Clockwise Offices, Tŷ Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd, CF24 0EB
Anfonwch unrhyw eitemau drwy e-bost at eich cyswllt neu drwy'r prif gyfeiriad: cymru@heritagefund.org.uk
Mae gennym dîm cwbl ddwyieithog yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf. Rydym yn croesawu galwadau ffôn (Opsiwn 1 i siarad ag aelod o staff yn Gymraeg), e-byst a llythyrau yn Gymraeg ac yn Saesneg a ni fydd defnyddio'r Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi ychwanegol wrth ymateb. I gael rhagor o wybodaeth am y Gymraeg ac i glywed mwy am ein cynnydd presennol wrth i ni ddiweddaru ein Cynllun Iaith Gymraeg presennol, ewch i'r dudalen yma.
Publications
Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Mehefin 2026
Prosiectau
Diogelu dyfodol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwningar Merthyr Mawr
Bydd y prosiect hwn yn adfer ac yn ailgysylltu cynefinoedd ar draws un o systemau twyni tywod pwysicaf Ewrop, gan sicrhau dyfodol y warchodfa fel tirwedd sy'n doreth o fywyd gwyllt.
Prosiectau
Cadw lleisiau cyn-filwyr Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru
Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei redeg gan Age Cymru Dyfed, yn rhannu straeon am amser gan ddynion ledled canolbarth a gorllewin Cymru yn y Gwasanaeth Cenedlaethol.
Straeon
Lleoedd treftadaeth i ymweld â nhw yr haf yma
Prosiectau
Diogelu fflora brodorol Cymru
Bydd y prosiect hwn, a arweinir gan Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru, yn cryfhau cadwraeth planhigion sydd o dan fygythiad ac yn adfer cynefinoedd hanfodol.
Publications
Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Mai 2026
Prosiectau
Rheoli iechyd morol yn Nyfrffordd Aberdaugleddau
Bydd y prosiect hwn yn sbarduno dull cydlynol o fynd i'r afael â chyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron ymledol morol.
Prosiectau
Amgueddfa Glowyr De Cymru: Cryfhau Amgueddfa dan Arweiniad Gwirfoddolwyr
Mae amgueddfa mwyngloddio yng Nghwm Afan sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn meithrin sgiliau, hyder a gallu i sicrhau ei dyfodol a chefnogi ei chymuned.
Prosiectau
Adfer dwy afon yn Sir Faesyfed
Bydd y prosiect hwn yn cryfhau rhwydweithiau natur ac yn diogelu bioamrywiaeth ar hyd Afon Ithon ac Afon Marteg yng Nghymru.
Prosiectau
Achub cynefinoedd cacwn prinnaf Cymru
Mae'r prosiect hwn yn helpu i adfywio rhywogaethau cacwn ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin ac yn ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan mewn cadwraeth.
Prosiectau
Adfer cynefinoedd âr ym Mro Morgannwg
Mae Fieldwork Studios a Slade Farm Organics yn adfer cynefinoedd tir fferm i wella bioamrywiaeth, rhoi hwb i gydnerthedd ar raddfa'r dirwedd a chysylltu pobl â threftadaeth amaethyddol Cymru.
Prosiectau
Creu ac adfer cynefinoedd gwlyptir yn WWT Llanelli
Bydd y prosiect hwn yn gwella amodau ar gyfer adar gaeafu o bwys rhyngwladol ac yn dod â phobl leol yn agosach at fyd natur.