Gall Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) ledaenu trwy symudiad cychod a llongau eraill a pheri bygythiad sylweddol i amgylcheddau morol.
Mae Dyfrffordd Aberdaugleddau'n gynefin pwysig i fywyd gwyllt y môr o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol Sir Benfro.
Nod y prosiect yw gwarchod y ddyfrffordd ac adfer ei bioamrywiaeth. Bydd yn lliniaru'r risg o INNS trwy welliannau i seilwaith, hyfforddi staff iardiau cychod ac arweiniad i ddefnyddwyr dŵr.
Mae gosod cyfleusterau golchi llongau newydd mewn nifer o iardiau cychod yn allweddol i'r gwaith hwn. Bydd y cyfleusterau hyn yn atal bioffowlio niweidiol – cronni bywyd morol yn ddiangen – a rhywogaethau estron rhag mynd yn ôl i mewn i’r ddyfrffordd. Bydd hefyd yn helpu busnesau lleol i fabwysiadu arferion bioddiogelwch cryfion i atal clefydau, bacteria ac organebau peryglus rhag lledaenu.
Bydd cyfle hefyd i bobl ddysgu mwy am eu treftadaeth forol leol drwy adnoddau dwyieithog a fydd yn codi ymwybyddiaeth o INNS a'u heffaith ar fywyd gwyllt.
Dywedodd Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau: “Mae Dyfrffordd Aberdaugleddau'n ganolog i’n cymunedau, ein heconomi a’n treftadaeth naturiol, ac mae rhywogaethau estron ymledol yn peri bygythiad cynyddol i’w hiechyd ecolegol. Bydd y prosiect hwn yn caniatáu i ni a'n partneriaid roi mesurau bioddiogelwch blaenllaw yn y sector ar waith, gan gefnogi busnesau lleol wrth ddiogelu ACA Morol Sir Benfro a'r amgylchedd morol ehangach yn y tymor hir.”
Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect hwn drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.