Mae WWT Llanelli, sy'n amgylchynu arfordir Tir Morfa a Chilfach Tywyn ehangach, yn ffurfio rhwydwaith pwysig o gynefinoedd bywyd gwyllt yn Ne Cymru.
Bydd y prosiect tair blynedd hwn yn creu ac yn adfer gwlyptiroedd dŵr croyw a dŵr hallt i ddarparu hafanau diogel i adar – fel y rhostog gynffonddu, y gornchwiglen a’r hwyad biglydan – i fwydo a bridio.
Bydd ardaloedd bwydo ar gyfer mamaliaid a physgod hefyd yn cael eu cynnwys yn nyluniad y cynefinoedd newydd hyn, gan greu amgylcheddau croesawgar i rywogaethau fel dyfrgwn a'r llysywen Ewropeaidd sydd mewn perygl difrifol.
Gydag effeithiau a bygythiadau cynyddol newid hinsawdd ar ein hamgylchedd, ni fu erioed yn bwysicach adeiladu rhwydweithiau gwlyptiroedd mwy cryf, cydnerth a chydgysylltiedig.
Jo Jones, Rheolwr Safle WWT Llanelli
Y tu mewn i warchodfa natur WWT Llanelli, mae'n gwella profiad yr ymwelwyr trwy fyrddau dehongli newydd a mannau gwylio ar hyd Llwybr Parc Arfordirol y Mileniwm.
Bydd gwaith gwyddonol blaengar yn cael ei wneud i gefnogi cydnerthedd Ardal Warchodedig Arbennig ehangach Cilfach Tywyn. Bydd WWT yn dod â'i wyddonwyr arbenigol ynghyd â rheolwyr tir lleol. Gyda'i gilydd byddant yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â newid hinsawdd ar lawr gwlad trwy fentrau lleol.
Dywedodd Jo Jones, Rheolwr Safle WWT Llanelli: “Mae WWT Llanelli ac ardal ehangach Cilfach Tywyn yn annwyl i'r gymuned leol, felly rhan bwysig o’r prosiect hwn yw edrych ar sut y gallwn wneud gwelliannau nawr, a fydd yn fuddiol ymhell i’r dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Gydag effeithiau a bygythiadau cynyddol newid hinsawdd ar ein hamgylchedd, ni fu erioed yn bwysicach adeiladu rhwydweithiau gwlyptiroedd mwy cryf, cydnerth a chydgysylltiedig.”
Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect hwn drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.