Adfer dwy afon yn Sir Faesyfed

Afon yn llifo trwy goetir
Afon Marteg. Credyd: Silvia Sivers.
Bydd y prosiect hwn yn cryfhau rhwydweithiau natur ac yn diogelu bioamrywiaeth ar hyd Afon Ithon ac Afon Marteg yng Nghymru.

Bydd Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn arwain y gwaith hwn i adfer ardaloedd sy'n gyfoethog o ran bywyd gwyllt ar hyd y ddwy afon trwy adfer coetiroedd, creu gwlyptiroedd a rheoli tir yn effeithiol.

Bydd yn cynnal arolygon a monitro i nodi safleoedd allweddol ar gyfer rheoli cynefinoedd. Bydd ymyriadau'n cynnwys rheoli llifogydd yn naturiol megis creu argaeau sy'n gollwng dŵr ac ail-natureiddio glannau. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd dŵr a chefnogi amgylchedd gwell ar gyfer rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid sydd dan fygythiad fel dyfrgwn, lamprai'r afon a nant a chrafanc yr afon.

Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i warchod ac adfer rhai o'r darnau pwysicaf o afonydd yn y sir, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn iach ac yn fywiog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Victoria Heffer, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed 

Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i'r prosiect. Drwy gydweithio'n agos â ffermwyr a thirfeddianwyr lleol, bydd Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn cefnogi cyflwyno dulliau ffermio sy'n llesol i natur er mwyn gwella amodau tir a borir yn ormodol ar gyfer bywyd gwyllt.

Bydd ffurfio Partneriaeth Dalgylch Ithon yn dwyn ynghyd sefydliadau sy'n gweithio ar Afon Ithon i rannu gwybodaeth a bydd cyfleoedd gwirfoddoli a gwyddoniaeth ddinasyddion i bobl leol. Bydd nifer o interniaethau â thâl hefyd yn darparu sgiliau ymarferol a chysylltiad dyfnach â threftadaeth naturiol yr ardal.

Aderyn bach du a gwyn yn sefyll ar graig mewn afon
Bronwen y dŵr yn chwilio am fwyd ar afon. Credyd: Will Lewis.

Dywedodd Victoria Heffer, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed: “Afonydd yw gwaed einioes Sir Faesyfed. Maen nhw'n siapio ein tirweddau, yn cynnal ein bywyd gwyllt ac yn cysylltu ein cymunedau. Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i warchod ac adfer rhai o'r darnau pwysicaf o afonydd yn y sir, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn iach ac yn fywiog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect hwn drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Project data

Programme
Nature Networks Fund Round 5
Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Unknown
Awdurdod Lleol
Unknown
Ceisydd
The Radnorshire Wildlife Trust Limited
Rhoddir y wobr
£952350

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...