Mae'r prosiect, Living Field, yn adeiladu ar waith blaenorol i adfer rhywogaethau planhigion âr prin ym Mro Morgannwg, rhwng Dolydd Clemenstone ac Arfordir Southerndown. Mae'r ardaloedd hyn yn rhan o rwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig, ond maent yn parhau i fod dan bwysau o ganlyniad i golli cynefinoedd a newid amaethyddol.
Mae rhywogaethau gan gynnwys y Briwlys yr Ŷd, Mandon Las yr Ŷd a Llysiau Llywelyn bellach mewn poblogaethau gwasgaredig, sy'n cynrychioli un o'r dirywiadau mwyaf o unrhyw grŵp o blanhigion yn y DU.
Er mwyn cefnogi adferiad hirdymor y boblogaeth, bydd y bartneriaeth yn gweithredu'r Rhaglen Ailgyflwyno Planhigion Âr Prin.
Ymysg y gweithgareddau fydd:
- monitro ac arolygon i lywio rheoli cynefinoedd ac ailgyflwyno rhywogaethau
- creu cynefinoedd ar gyfer cnydau âr a gwrychoedd
- cynnal ymweliadau ysgol a theithiau fferm i ddyfnhau dealltwriaeth amgylcheddol gymunedol
- hyfforddiant i ffermwyr, ecolegwyr a gwirfoddolwyr i gryfhau sgiliau gwyrdd
Dywedodd Polly Davies, ffermwr yn Fferm Slade: “Mae’r prosiect yn ymwneud â ffermio mewn ffordd sy’n gweithio gyda natur, nid yn ei herbyn, gan adfer planhigion prin, dysgu wrth i ni fynd, a helpu pobl i weld y cysylltiad rhwng bwyd, ffermio a’r byd naturiol ar eu stepen drws.”
Dyfarnwyd ariannu i Living Field drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.