Mae Banc Hadau Cenedlaethol Cymru, a leolir yng nghanolfan wyddoniaeth yr ardd, yn labordy sydd wedi'i gyfarparu i sychu, glanhau, profi a storio hadau mewn modd proffesiynol. Ar hyn o bryd mae'n dal dim ond 11% o fflora Cymru.
Dros ddwy flynedd, bydd y prosiect yn ehangu'r gwaith hwn i gasglu a chadw hadau o 100 o blanhigion sydd i'w gweld ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar draws Cymru.
Dywedodd Dr Kevin McGinn, Curadur Banc Hadau a Herbariwm Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Mae cadwraeth hadau'n cynnig rhwyd ddiogelwch hanfodol i’n fflora brodorol. Drwy ehangu Banc Hadau Cenedlaethol Cymru, gallwn ddiogelu amrywiaeth genetig poblogaethau planhigion sydd o dan fygythiad ac adeiladu adnodd hanfodol i gefnogi adferiad byd natur ac ymchwil yn y dyfodol.”
Bydd seilwaith Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las hefyd yn cael ei wella drwy atgyweiriadau i ffensys, targedu cau llysysyddion allan a systemau dŵr stoc gwell. Bydd hyn yn galluogi i dda byw bori mewn ffordd sy'n fwy llesol i natur, gan helpu cynnal ac adfer glaswelltiroedd sy'n doreth o rywogaethau a choetiroedd cydnerth.
Bydd pobl leol yn cael eu gwahodd i gysylltu â threftadaeth naturiol drwy raglen ymgysylltu cymunedol. Mae hyn yn cynnwys Gŵyl Bioblitz a phrofiadau rhith-realiti trochol lle gall pobl ddysgu am gadwraeth planhigion.
Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect hwn drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.