Rhwng 1947 a diwedd y consgripsiwn ym 1963 galwyd mwy na 2 filiwn o ddynion i ymuno â lluoedd arfog y DU.
Trwy gyfweliadau fideo dwyieithog, mae Age Cymru Dyfed yn cofnodi profiadau cyn-filwyr, sydd bellach yn eu 80au a'u 90au, o atgofion o fywyd yn y Gatrawd Parasiwt i adroddiadau o wasanaethu ar rheng flaen Rhyfel Corea.
Mae'r recordiadau, ynghyd â ffotograffau a dogfennau, bellach wedi'u cadw ar-lein fel rhan o Gasgliad y Werin Cymru. Yn y cyfamser, mae deunyddiau addysgol a gweithgareddau ymgysylltu ag ysgolion yn trosglwyddo straeon y cyn-filwr ymlaen i genhedlaeth newydd.
Dywedodd Neil Davies o Age Cymru Dyfed: "Mae'r prosiect wedi dal lleisiau llawer o gyn-filwyr y Gwasanaeth Cenedlaethol sy'n byw yng Nghymru heddiw. Rydym wedi clywed straeon am dristwch ac aberth, wedi'u lliwio â hiwmor Cymreig nodweddiadol.
"Heb gyllid grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a chefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddai eu straeon yn aros yn gudd ac ar goll am byth. Mae etifeddiaeth y prosiect hwn, sydd ar gael ar-lein am ddim, yn enfawr."
Archwiliwch yr hanesion llafar ar wefan Casgliad y Werin Cymru a gweld rhagor o brosiectau rydyn ni wedi'u hariannu sy'n dogfennu a rhannu atgofion pobl.