Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth

Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth

A ship, the SS Great Britain, in a dock
SS Great Britain, Bristol.
Mae ein cyllid yn dathlu'r adeiladau, trafnidiaeth a thechnoleg arloesol a helpodd i lunio'r byd modern.

Ers 1994 rydym wedi dyfarnu dros £660m i 1,700 o brosiectau diwydiannol, morol a thrafnidiaeth ledled y DU.

Rydym am helpu mwy o bobl i gadw a diogelu eu treftadaeth ddiwydiannol leol. Gall ein cyllid helpu i drosglwyddo'r sgiliau i genedlaethau iau i ofalu amdanyn nhw.

Beth rydym yn ei gefnogi?

Mae’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu yn cynnwys:

  • gwasg argraffu
  • peiriannau pwmpio
  • melinau gwynt
  • llongau hanesyddol
  • locomotifau
  • tirweddau naturiol a drawsffurfiwyd gan ddiwydiant

Syniadau am brosiect

Gall ein harian helpu pobl i:

  • dadorchuddio a chofnodi atgofion pobl o'n gorffennol diwydiannol
  • rhoi pwrpas newydd i safle segur
  • adfer a chynnal peiriannau gweithredu
  • yn datgelu hanes diwydiant yn eich ardal chi
  • archwilio rhwydwaith o gamlesi’r genedl
  • darparu cyfleusterau i ymwelwyr ac adnoddau dysgu wedi'u staffio
  • helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd a gofalu am eu treftadaeth

Rheilffyrdd 200

Eleni rydyn ni'n nodi 200 mlynedd o'r rheilffordd fodern ac mae dathliadau’n cael eu cynnal ar draws y DU.

Ers 1994, rydyn ni wedi buddsoddi dros £105miliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn mwy na 600 o brosiectau treftadaeth rheilffyrdd ar draws y DU.

Mae ein buddsoddiad yn helpu i ddiogelu a dathlu treftadaeth rheilffyrdd, gan gefnogi gwirfoddoli a datblygu sgiliau a rhoi hwb i economïau lleol.

Mynnwch gip ar rai o'r prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu isod.

Sut i gael arian

Darganfyddwch os yw eich prosiect yn gymwys i gael arian

Visitors inside the Palm Houses look up at the plants
Visitors to the newly reopened Palm Houses at Royal Botanic Gardens Edinburgh are immersed in ferns and palms under the restored glass roofs. Credit: Eilidh Cameron.

Straeon

Lleoedd treftadaeth i ymweld â nhw yr haf yma

O longau hanesyddol i safleoedd archeolegol, mae digon o atyniadau treftadaeth i'w harchwilio sydd wedi agor yn ddiweddar