Ysbrydoli balchder yn nhirwedd llechi eiconig Cymru

Mae grŵp o gerddwyr yn edrych tuag at lyn a bryniau ar ddiwrnod heulog yn y gaeaf
Mae teithiau cerdded yn helpu i ddod â phobl yn agosach at fyd natur ar eu stepen drws. Credyd: LleCHI LleNI.
Yng Ngwynedd, gogledd Cymru, mae ein grant o £1.7 miliwn yn helpu i roi cymuned wrth wraidd eu treftadaeth naturiol a diwydiannol.

Yn 2021, daeth Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae LleCHI LleNI yn sicrhau bod y bobl sy'n byw yno yn elwa o, yn cysylltu â, ac yn cael dweud eu dweud yn nyfodol y dirwedd o'r radd flaenaf.

Mae trigolion wedi cael cyfle i gymryd rhan drwy fforwm cymunedol, cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi, rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ac arddangosfa deithiol ar dreftadaeth llechi.

Mae cynllun grantiau bach yn darparu ariannu i grwpiau cymunedol i redeg eu prosiectau treftadaeth eu hunain a gwneud gwaith cyfalaf ar raddfa fach i helpu gwarchod nodweddion naturiol ac adeiledig unigryw y rhanbarth.

Grŵp o blant ysgol gynradd yn dal baner a grëwyd â llaw
Mae gweithdai ysgolion yn cyflwyno cenhedlaeth newydd i'r Safle Treftadaeth y Byd. Credyd: LleCHI LleNI.

Ar yr un pryd, mae rhaglen llysgenhadon ifanc yn cefnogi pobl ifanc 13–16 oed i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, creadigol a threftadaeth ac i hyrwyddo eu hardal leol.

Dywedodd Lucy Thomas, Rheolwr Prosiect LleCHI LleNI: “Mae LleCHI LleNI yn rhaglen 5 mlynedd, gan ennyn ymdeimlad cryf o gynefin a balchder lleol yn y Dirwedd Llechi, gwella lles, darparu cyfleoedd, datblygu sgiliau a hybu'r economi leol. 

"O weithdai ysgolion i weithgareddau cadwraeth gymunedol, cyrsiau sgiliau traddodiadol, teithiau cerdded a hyd yn oed gŵyl bêl-droed llechi, ein nod yw darparu rhywbeth i bawb i ddathlu a chyfoethogi'r cysylltiadau dynol â threftadaeth y rhan arbennig hon o'r byd."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...

Project data

Programme
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Teigl
Awdurdod Lleol
Gwynedd
Ceisydd
Cyngor Gwynedd
Rhoddir y wobr
£1869555