Roedd gwaith Brymbo, a sefydlwyd ym 1792 gan y diwydiannwr enwog John 'Iron Mad' Wilkinson, yn rhan allweddol o ddiwydiant Cymru am bron i 200 mlynedd. Pan ddaeth cynhyrchu i ben ym 1990 roedd colli 1,125 o swyddi yn ergyd i'r gymuned leol a gadawyd y safle’n wag i raddau helaeth.
Erbyn hyn, gyda chymorth ariannu o £8.3 miliwn gennym, mae Brymbo yn croesawu pobl yn ôl trwy ei ddrysau ac yn creu cyfleoedd newydd i weithio, dysgu a chwarae.
Mae gweithdy peiriannau'r safle ar ei newydd wedd yn darparu cyfleusterau a mannau cymunedol ar gyfer busnesau bach gan gynnwys:
- canolfan ymwelwyr
- oriel gelf
- siop a siop goffi
- swyddfeydd a gweithdai y gellir eu rhentu
- man hyblyg ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau addysgol
Gyda'r disgwyliad y bydd yn denu hyd at 37,000 o ymwelwyr y flwyddyn, mae Stori Brymbo yn rhannu treftadaeth y safle a'i rôl wrth siapio'r ardal leol.
Mae adeileddau hanesyddol gan gynnwys Tŷ'r Asiant sydd wedi'i restru Gradd II*, y Lofa Chwyth a'r Ffowndri wedi'u hadfer ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ochr yn ochr â "choedwig ffosilau" 300 miliwn mlwydd oed".
Darganfuwyd y casgliad coed wedi'u ffosileiddio o bwys rhyngwladol ar y safle yn 2003. Nawr mae'n cael ei gloddio'n ofalus a'i roi dan gadwraeth. Mae cyfleoedd gwirfoddoli a chloddiadau cyhoeddus byw yn rhoi cyfle i bobl ennill sgiliau newydd gwerthfawr a chymryd rhan ym mhennod nesaf Brymbo.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae Stori Brymbo yn dangos pŵer adfywio a arweinir gan gymunedau: lle i storïau lleol, balchder a rennir a gweledigaeth uchelgeisiol ddod at ei gilydd i greu buddion parhaol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”