Grymuso gwirfoddolwyr yn Rhaeadr Aberdulais

Mae sawl person yn eistedd o amgylch bwrdd mawr wedi'i orchuddio â llyfrau nodiadau, pensiliau a phentwr o nodiadau post-it
Sesiwn hyfforddi gyda'r gwirfoddolwyr. Credyd: Ymddiriedolaeth St Giles.

Heritage Places

Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Aberdulais
Awdurdod Lleol
Neath Port Talbot
Ceisydd
St Giles Trust
Rhoddir y wobr
£249106
Mae canolfan gymunedol newydd yn rhoi hwb i sgiliau treftadaeth a chyflogadwyedd yng ngwaith tun a rhaeadr hanesyddol Castell-nedd Port Talbot.

Mae Aberdulais wedi bod yn lle diwydiant ac arloesi am dros 400 mlynedd, o fwyndoddi copr yn yr 16eg ganrif a chynhyrchu tunplat Fictoraidd i'r olwyn ddŵr heddiw sy'n cynhyrchu trydan y safle.

Mae'r ardal, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, hefyd yn hafan bioamrywiol ar gyfer glaswelltiroedd sy'n llawn neifer o rywogaethau, coetiroedd hynafol, ddyfrgwn, dippers a Glas y dorlan.

Nawr, mae Ymddiriedolaeth St Giles yn adfywio'r rhaeadr trwy gweithio gyda’r gymuned. Bydd tîm amrywiol o wirfoddolwyr – yn enwedig y rhai sy'n wynebu adfyd fel tlodi, gwahaniaethu a'r system cyfiawnder troseddol – yn derbyn hyfforddiant a chymorth dan arweiniad cymheiriaid i ddatblygu sgiliau treftadaeth.

Bydd y gwirfoddolwyr yn dysgu sut i gyflwyno teithiau tywys, prosiectau cadwraeth, a digwyddiadau cymunedol. Ochr yn ochr â hyn, bydd sesiynau 'Have a Go' yn rhoi blas ar grefftau treftadaeth, dysgu’r iaith Gymraeg, cymorth cyntaf a fwy. 

Dywedodd Anne-Marie Rogan, Rheolwr Datblygu Busnes St Giles yng Nghymru: "Bydd y grant hwn yn ein galluogi i weithio gyda'n partner, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn agor cyfleoedd i bobl yn y gymuned leol sy'n profi anfantais, gan eu helpu i feithrin hyder, sgiliau a'u cefnogi i symud ymlaen eu bywydau'n fwy gadarnhaol."

Mae Castell-nedd Port Tabolt yn rhan o'n menter strategol Treftadleoedd. Darganfyddwch fwy am sut rydym yn helpu treftadaeth leol i ffynnu.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...