Gwaith haearn hanesyddol Brymbo am adrodd ei hen, hen hanes

Gwaith haearn hanesyddol Brymbo am adrodd ei hen, hen hanes

Machine Shop at Brymbo
Bydd cyn-waith haearn a dur Brymbo ger Wrecsam yn cael ei drawsnewid i fod yn atyniad ymwelwyr, canolfan gymunedol a gofod busnes newydd.

Diolch i grant o £4,147,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect  pum mlynedd hwn yn cynnig cyfleusterau, swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau newydd i’r ardal.

Bydd hefyd yn diogelu’r ‘goedwig ffosilau’ 300 miliwn o flynyddoedd oed ac yn ei agor i ymwelwyr. Darganfyddwyd y safle rhyngwladol bwysig wrth fwyngloddio glo brig yn 2003.

Ailddychmygu etifeddiaeth ddiwydiannol

 

Brymbo steelworks in the 1980sGwaith Brymbo yn yr 1980au

 

Sefydlwyd gwaith Brymbo gan y diwydiannwr John 'Iron Mad' Wilkinson (1728–1808) a wnaeth ei ffortiwn yn arloesi mewn gweithgynhyrchu nwyddau haearn.

Yn dilyn llwyddiant ei fusnes toddi haearn a dyfeisio technolegau newydd, dechreuwyd cynhyrchu dur ar y safle o 1885. Ffynnodd y busnes yn ystod y degawdau canlynol.

Fodd bynnag, canrif yn ddiweddarach daeth tro ar fyd. Yn dilyn dirywiad y diwydiant yn y 1970au a’r 1980au, dioddefodd Brymbo yn enbyd ac yn y diwedd daeth cynhyrchu i ben yno yn 1990.  Gadawyd y safle fwy neu lai’n wag a’r gymuned leol wedi ei dinistrio ar ôl colli 1,125 o swyddi.    

 

Building interiorCanolfan ymwelwyr y Siop Beiriannau

Dyfodol newydd

Mae disgwyl i’r safle ddenu hyd at 37,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ar ôl cael ei adfer, a bydd:

  • Y Siop Beiriannau yn cael ei hadfer a’i hailbwrpasu fel canolfan ymwelwyr fydd yn cynnwys arddangosfa treftadaeth, siop a chaffi, gofodau swyddfa/gweithdy i’w rhentu a gofod hyblyg ar gyfer dysgu a chyfarfodydd.
  • Ailbwrpasu’r Gweithdy Patrwm a Seiri fel gofod arddangos, dehongli a digwyddiadau.
  • Creu awyrgylch dan do, wedi ei ddiogelu i gloddio a chyflwyno’r goedwig ffosilau, gan alluogi ymwelwyr i fynd ar daith gronolegol drwy hanes Brymbo o ffosilau i lo, haearn i ddur, cau i adnewyddu.
  • Adnewyddu a thrwsio strwythurau hanesyddol. Bydd rhain yn cynnwys Tŷ’r Asiant sy’n adeilad Rhestredig Gradd II*, y Lofa Chwyth, a chyfres o adeiladau’r gwaith haearn gan gynnwys y Ffowndri, y Tŷ Castio a’r Ffwrnais Chwyth.
  • Cynnal gweithgareddau ymgysylltu a dysgu ar gyfer gwirfoddolwyr, pobl ag anableddau a phobl sydd ar incwm isel.

Mwy o wybodaeth

Cofiwch wylio Coast and Country ar ITV Wales heno (Iau, 19 Mawrth) am 9pm i ddarganfod mwy am brosiect cyffrous Brymbo.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...