80 mlynedd o UNESCO: sut mae ein hariannu'n gwarchod safleoedd treftadaeth sy'n bwysig yn fyd-eang
Mae'r mis hwn yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu UNESCO, asiantaeth y Cenhedloedd Unedig sy'n ymroddedig i hyrwyddo a dathlu addysg, gwyddoniaeth, cyfathrebu a diwylliant ar draws y byd, gan gynnwys ein treftadaeth a rennir.
Yn y DU, mae gennym 30 o Safleoedd Treftadaeth y Byd, saith Biosffer a 10 Geoparc UNESCO – dynodiadau a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n gwarchod amrywiaeth eang o ryfeddodau hanesyddol naturiol, o waith dynol ac anniriaethol.
I ddathlu'r pen-blwydd, rydym yn myfyrio ar sut mae ein hariannu'n helpu i ddiogelu'r dreftadaeth a drysorir hon. Ers i ni ein hunain gael ein sefydlu ym 1994, rydym wedi buddsoddi mewn 3,839 o brosiectau safle UNESCO, o adrodd storïau ein gorffennol diwydiannol i adfer cynefinoedd sy'n hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Gwarchod un o galonnau diwydiannol Cymru
Roedd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yn ganolfan mwyngloddio a chrefft lewyrchus o'r 18fed ganrif ymlaen. Heddiw mae'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO gwarchodedig, un o bedwar ar draws Cymru, o Gaernarfon yn y gogledd i Flaenafon yn y de.
Mae ein grant o £12 miliwn yn cefnogi’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis i ailddatblygu ei gweithdai, creu mannau dysgu newydd, gwella hygyrchedd a datblygu arddangosfeydd cyfareddol am sut y gwnaeth llechi o Ogledd Cymru 'roi to ar y byd’. Mae ein hariannu i Reilffordd Ffestiniog gerllaw hefyd wedi trawsnewid gweithfeydd peirianneg rheilffordd hynaf y byd sy'n gweithredu'n barhaus i ganolfan sgiliau treftadaeth a chyfleoedd gwirfoddoli.
Ffynhonnau a ffatrïoedd yn Swydd Efrog
Ar lannau Afon Skell, mae adfeilion Abaty Fountains o'r 12fed ganrif yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Parc Brenhinol Studley, tirwedd ddyluniedig hardd o'r 18fed ganrif. Fe wnaethom gefnogi Skell Valley Project i adfer cynefinoedd yr afon a gwella ei rheolaeth hirdymor. Daeth y prosiect â phartneriaid, tirfeddianwyr, ffermwyr a grwpiau gwirfoddol lleol ynghyd i atal yr afon sy'n dueddol o orlifo rhag peri risg i'r Abaty, y dirwedd a bywyd gwyllt lleol.
Tri deg milltir i'r de, ar gyrion Bradford, mae Saltaire yn un o oroeswyr rhyfeddol diwydiant tecstilau Swydd Efrog. Yn dref fodel a adeiladwyd ym 1851 ac a ddewiswyd fel safle UNESCO yn 2001, mae'n parhau i esblygu. Yn 2024, symudodd y Peace Museum ei chasgliad unigryw o Bradford i Saltaire gyda chefnogaeth ein grant o £245,000.
Croesawu'r byd i Arfordir Sarn y Cawr
Â'i statws UNESCO wedi'i ddyfarnu'n ôl ym 1986, mae Sarn y Cawr yn enwog ar draws y byd am ei 40,000 o golofnau basalt du ar hyd arfordir Gogledd Iwerddon.
Yn 2008, fe wnaethom ddyfarnu £3m tuag at ddatblygu canolfan ymwelwyr newydd sydd wedi'i dylunio i ategu'r dirwedd eiconig. Cefnogodd ein hariannu'r gwaith o greu llwybrau cerdded newydd a rhaglenni gweithgareddau hefyd. Agorodd y ganolfan ymwelwyr yn 2012 ac mae'n croesawu cynifer â 700,000 o bobl bob blwyddyn.
Diogelu Flow Country Yr Alban
Yn 2024, daeth rhanbarth yng ngogledd pell tir mawr Yr Alban yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO diweddaraf y DU. Mae'r 'Flow Country' yn gartref i'r ardal fwyaf a mwyaf cyflawn o orgorsydd yn y byd. Mae'r cynefin prin hwn yn cynnal ystod amrywiol o fywyd gwyllt a gall helpu dyfnhau ein gwybodaeth am sut y gall corsydd ddal carbon a lliniaru'r argyfwng hinsawdd.
Gwnaethom ddyfarnu £4m i brosiect Flow to the Future y Peatland Partnership. Mae'r bartneriaeth wedi adfer y dirwedd ac ar yr un pryd wedi rhannu arddangosfa deithiol ac adnoddau ar-lein gyda selogion byd natur, gan eu helpu i ddysgu am fioamrywiaeth yr ardal a'r effaith ar yr hinsawdd.
Atyniad serennog yn Jodrell Bank
Yn hyb arloesol datblygiad ac esblygiad seryddiaeth radio, dewiswyd Jodrell Bank i fod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2019. Y safle yn Swydd Gaer i'r de o Fanceinion, a sefydlwyd ym 1945, yw'r arsyllfa seryddiaeth radio gynharaf yn y byd sy'n dal i fodoli.
Ers 2015, rydym wedi buddsoddi £12.2m yn natblygu a chyflwyno canolfan ddarganfod newydd. Agorodd First Light at Jodrell Bank yn 2022 ac mae'n gartref i arddangosfa ryngweithiol barhaol a phlanetariwm. Mae wedi dod â hanes y safle a gwyddoniaeth archwilio'r bydysawd drwy donnau radio yn fyw, gan esbonio i ymwelwyr sut mae'r lle rhyfeddol hwn wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r bydysawd.
Wedi'ch ysbrydoli i ddechrau archwilio treftadaeth y DU sy'n enwog yn fyd-eang? Mynnwch gip ar fap darluniadol o holl Safleoedd Treftadaeth y Byd, Dinasoedd Creadigol, Geoparciau a Biosfferau UNESCO y DU, a grëwyd gyda chefnogaeth gan y Gronfa Treftadaeth.