Digidol – canllaw arfer da

Digidol – canllaw arfer da

Waeth beth fo math neu faint eich prosiect treftadaeth, mae’n debyg y byddwch yn creu rhai allbynnau digidol. Mae’n bwysig bod y rhain yn bodloni amodau ein hariannu: argaeledd, hygyrchedd a naws agored.

Drwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn dysgu mwy am ein gofynion penodol a sut y maent yn amrywio gan ddibynnu ar faint eich grant. Mae’r gofynion hyn yn helpu gwella mynediad i dreftadaeth gyfoethog y DU a hyrwyddo defnydd arloesol o ddigidol ar draws y sector.

Mae gennym lawer mwy o wybodaeth a chyngor ar sut i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol, i wneud treftadaeth yn fwy hygyrch a phleserus, ac i gynyddu effaith a chyrhaeddiad eich prosiect. Rydym yn cysylltu â hynny isod. Mae'r canllaw hwn yn rhoi'r hanfodion i chi.

Ynghylch allbynnau digidol

Wrth 'allbynnau digidol' rydym yn golygu unrhyw beth a grëir mewn fformat digidol sydd wedi'i ddylunio i roi mynediad i dreftadaeth neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.

Mae’n cynnwys popeth sy’n ymwneud â threftadaeth a gynhyrchir mewn fformat digidol o arolygon ac adroddiadau amgylcheddol a daearyddol i ddeunydd addysgol, adnoddau ymwelwyr a chynnwys arddangos digidol. Gallai eich allbynnau digidol gynnwys:

  • ffotograffau, recordiadau sain a fideo
  • dogfennau electronig a chronfeydd data
  • cynnwys gwefannau ac apiau
  • meddalwedd a chod
  • modelau 3D

Ein disgwyliadau

Yn y Gronfa Treftadaeth, rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau’r budd cyhoeddus, cymdeithasol ac economaidd mwyaf posibl o’r gwaith rydym yn ei ariannu. Mae sgiliau digidol a thechnoleg yn rhan allweddol o'n Strategaeth Treftadaeth 2033 a gallant gefnogi'r egwyddorion buddsoddi sy’n llywio ein penderfyniadau.

Rydym am i adnoddau treftadaeth ddigidol a ariennir yn gyhoeddus fod ar gael i’r cyhoedd heb gost ac yn agored, nawr ac yn y dyfodol. felly, mae'n ofynnol gennym i bobl sy'n derbyn ein hariannu fodloni ein gofynion digidol ar argaeledd, hygyrchedd a naws agored. Bydd y gofynion hyn yn helpu sicrhau bod y prosiectau digidol a ariannwn yn cyflawni ein hegwyddorion buddsoddi.

Os ydych yn bwriadu creu adnoddau digidol gyda'ch grant bydd angen i chi:

  • ddeall beth mae pob un o'n gofynion yn ei olygu
  • cynnwys cynlluniau ar gyfer bodloni nhw (er enghraifft, trwy gasglu caniatadau perthnasol) yn eich cynllun prosiect
  • cynnwys costau cymesur (er enghraifft, costau yn ymwneud â lletya, gwirio hygyrchedd neu reoli hawliau) yng nghyllideb eich prosiect

Argaeledd

Rhaid i’ch allbynnau digidol fod ar gael i’r cyhoedd trwy fynediad rhydd am rhwng pump ac 20 mlynedd o ddyddiad cwblhau’r prosiect, gan ddibynnu ar lefel eich ariannu:

  • grantiau o £10,000 i £250,000 – rhaid i allbynnau fod ar gael am bum mlynedd
  • grantiau o £250,000 i £5miliwn – rhaid i allbynnau fod ar gael am 10 mlynedd
  • grantiau o £5miliwn i £10miliwn – rhaid i allbynnau fod ar gael am 20 mlynedd

Hygyrchedd

Mae angen i chi gadw at safonau hygyrchedd cydnabyddedig er mwyn i gynifer o bobl â phosibl gyrchu eich allbynnau digidol:

  • grantiau o £10,000 a £250,000 – rhaid i wefannau gadw at wiriadau hygyrchedd sylfaenol
  • grantiau dros £250,000 –rhaid i wefannau gwrdd â'r safon hygyrchedd W3C AA o leiaf

Mae VocalEyes wedi cynhyrchu adroddiad ac offeryn meincnodi i helpu sefydliadau i sicrhau bod eu gwefannau'n hygyrch ac yn gynhwysol.

I gael gwybod mwy am hygyrchedd ar-lein, gweler ein canllaw digidol: cyflwyniad i hygyrchedd ar-lein.

Naws agored

Oni bai bod eithriad cydnabyddedig (y byddwn yn ymhelaethu arno isod) dylai eich allbynnau digidol gael eu rhannu o dan drwydded agored.

Mae trwydded agored yn rhoi caniatâd ymlaen llaw i gyrchu, ailddefnyddio a rhannu allbynnau digidol cyn belled â bod telerau’r drwydded yn cael eu bodloni. Bydd eich allbynnau digidol yn cynnwys delweddau, ymchwil, deunyddiau addysgol, adroddiadau amgylcheddol, meddalwedd, cynnwys gwe ac apiau, cronfeydd data, modelau 3D, recordiadau sain a fideo.

Mae telerau’r drwydded yn sicrhau y rhoddir credyd a chydnabyddiaeth ddyledus i’r sefydliadau a/neu’r unigolion sy’n gyfrifol am greu’r allbynnau, ac i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gefnogi’r prosiect.

Gofynion

O fis Medi 2020, y drwydded ddiofyn y mae’r Gronfa Treftadaeth yn gofyn i chi ei defnyddio yw'r drwydded  Priodoliad Creative Commons 4.0 Rhyngwladol  (CC-BY 4.0).

Rhaid i grantïon gymhwyso'r drwydded agored hon i'r allbynnau digidol y maent yn eu cynhyrchu a sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael yn gyhoeddus am o leiaf pum mlynedd. Dylai aelodau o'r cyhoedd sy'n edrych ar eich deunyddiau prosiect digidol allu gweld bathodyn y drwydded CC-BY 4.0 a datganiad priodoli.

Dylid rhannu metadata, data a chod a gynhyrchir gan y prosiect o dan Ymroddiad Parth Cyhoeddus Cyffredinol Creative Commons 0 1.0 (CC0 1.0) neu drwydded meddalwedd agored.

Rhaid i gofnodion rhywogaethau a chynefinoedd a gesglir yn ystod prosiectau a ariannwn gael eu rhannu ag Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN) a/neu’r Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LERC). Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan NBN ac yn ein canllaw arfer da tirweddau, moroedd a natur.

Mae gwaith sydd eisoes yn y parth cyhoeddus y tu hwnt i gwmpas y gofyniad hwn. Er mwyn sicrhau nad yw'r deunyddiau hyn yn cael eu camgymryd am ddeunyddiau hawlfraint, argymhellwn i chi adnabod asedau parth cyhoeddus yn glir trwy ddefnyddio'r ymroddiad CC0 1.0 neu gyfwerth. Ni ddylai unrhyw hawliau newydd godi o atgynhyrchu gweithiau parth cyhoeddus a gefnogir gan ein hariannu. Dylid rhannu atgynyrchiadau digidol o ddeunyddiau parth cyhoeddus, gan gynnwys delweddau ffotograffig a data 3D, o dan yr ymroddiad CC0 1.0.

Ni ellir rhannu gweithiau amddifad (lle na ellir dod o hyd i berchennog yr hawlfraint neu ei fod yn anhysbys) o dan drwydded agored.

Trosolwg o drwyddedau agored

Mae nifer o faterion ychwanegol i fod yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys hawlfraint, moeseg a GDPR, ac mae gennym wybodaeth fanylach i’ch helpu:

Eithriadau cydnabyddedig

I rai prosiectau mae'n bosibl y bydd trefniadau amgen neu eithriadau i'n trwydded ddiofyn yn briodol. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau ag allbynnau digidol sy’n:

  • dangos pobl sydd o dan 18 oed ar hyn o bryd
  • cynnwys data categori arbennig, er enghraifft, mewn cyfweliadau hanes llafar
  • yn cael eu cynhyrchu gan, neu sy'n dangos, oedolion mewn perygl o niwed

Rydym yn annog pob prosiect i ystyried moeseg mewn perthynas â hawlfraint, trwyddedu a rheoli treftadaeth ddiwylliannol. Er enghraifft, gall fod gwrthwynebiadau rhesymol i rannu ymchwil, data a chyfryngau eraill a gynhyrchir mewn perthynas â gweithiau ysbrydol, gwrthrychau angladdol a gweddillion dynol o dan drwydded agored.

Dylai prosiectau godi materion y maent yn credu y byddent yn eu hatal rhag trwyddedu eu hallbynnau digidol yn agored cyn gynted â phosibl yn y broses ymgeisio, neu, os ydynt yn derbyn dyfarniad ar hyn o bryd, gyda’u Rheolwr Buddsoddi.

Adnoddau ychwanegol

Unwaith y byddwch yn deall hanfodion argaeledd, hygyrchedd a naws agored, gallwch archwilio agweddau eraill ar weithio gyda thechnoleg ddigidol.

Mae'r Hyb Treftadaeth Ddigidol, sydd wedi'i gefnogi gan y Gronfa Treftadaeth, yn cynnwys atebion i 100 o'r cwestiynau digidol mwyaf dybryd a chyffredin a gofynnir gan y sector.

Canllawiau ar sut i ddefnyddio digidol yn greadigol, yn ddiogel ac yn effeithiol:

Sesiwn briffio arweinyddiaeth ddigidol:

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...