Coetiroedd Bach yng Nghymru (rownd un a dau)

Coetiroedd Bach yng Nghymru (rownd un a dau)

Cynllun grant gyda’r nod o greu Coetiroedd Bach, fel rhan o Goedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Cafodd y dudalen ei diweddaru ar 19 Rhagfyr 2023. Gweler yr holl ddiweddariadau.

Pwysig

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau newydd. Archwiliwch ein cyllid sydd ar gael.

Ai dyma’r cynllun iawn i chi?

  • Ydych chi’n berchen ar dir yng Nghymru, neu’n rheoli tir yng Nghymru, neu wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir i wneud cais ar gyfer y cynllun hwn?
  • Ydych chi’n ystyried creu Coetir Bach sy’n glynu wrth egwyddorion Earthwatch?
  • Allwch chi gynnwys y gymuned wrth greu a rheoli safle eich coetir?
  • Oes angen grant o hyd at £40,000 arnoch ar gyfer un safle, neu hyd at £250k ar gyfer safleoedd lluosog?

Os ydych chi wedi ateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau hyn, mae’r cynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru yn addas i chi.

Trosolwg

Mae’r angen i helpu adferiad natur yn fater brys. Mae gofalu am natur a helpu pobl i ddeall ei phwysigrwydd yn fwy perthnasol nag erioed.

Mae Coetiroedd Bach yng Nghymru yn gynllun grant newydd fel rhan o raglen y Goedwig Genedlaethol i Grymru. Rydym yn cynnig grantiau llai o rhwng £10k a £40K ar gyfer safleoedd (hyd at £250k ar gyfer safleoedd lluosog) sy’n glynu wrth egwyddorion Coetiroedd Bach.

Beth yw’r Goedwig Genedlaethol i Gymru?

Menter dan arweiniad Llywodraeth Cymru yw’r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd yn creu rhwydwaith o goetiroedd a choedwigoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd ledled Cymru, o dan reolaeth o safon uchel.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, fel y gall pawb gael mynediad ati. Bydd yn cynnwys ardaloedd trefol a gwledig ill dau – gydag ymrwymiad i greu 100 o Goetiroedd Bach a 30 o safleoedd coetir Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Bydd yn sicrhau amrywiaeth enfawr o fuddion – a elwir yn wasanaethau ecosystemau – i’r amgylchedd, yr economi a chymdeithas fel a ganlyn:

  • bydd yn gwneud cyfraniad pwysig o ran gwarchod natur a mynd i’r afael â mater colli bioamrywiaeth
  • bydd yn cynyddu gwaith cynhyrchu pren a dyfir yn lleol - gan ganiatáu i’r diwydiant coedwigaeth lleol ffynnu, creu swyddi a lleihau dibyniaeth ar bren wedi’i fewnforio
  • bydd yn darparu mwy o lefydd lle gall pobl ymgolli ym myd natur a threulio amser gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd, ac yn rhoi hwb i dwristiaeth ledled Cymru 
  • bydd yn cefnogi iechyd a llesiant cymunedau - enghraifft weithredol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn dod â phobl at ei gilydd, gyda’r rhan fwyaf o goetiroedd yn cael eu plannu’n wirfoddol gan gymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ledled Cymru.

Coetiroedd Bach yw’r enw ar gyfer Tiny Forests in Wales.

Mae’r rhain yn ardaloedd newydd o goetiroedd trwchus, cynhenid sy’n dilyn dull Dr Akira Miyawaki o greu coetiroedd. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda, sy’n hygyrch i bobl ac sy’n rhoi’r cyfle i gymunedau lleol ymwneud â choetiroedd a natur. Dylai’r coetir fod tua 200 metr sgwâr (tua maint cwrt tenis).

Mae gan Goetiroedd Bach nodweddion ffisegol a chymdeithasol penodol ac arferion monitro gwyddonol:

Nodweddion ffisegol 

  • maen nhw’n cynnwys coed a llwyni cynhenid yn unig
  • maen nhw’n gynnyrch gwaith ymchwil maes a llenyddiaeth i’r rhywogaethau cynhenid mwyaf addas yn lleol
  • mae ganddyn nhw bridd sydd wedi’i baratoi yn ôl dull plannu Coetiroedd Bach
  • maen nhw’n goedwigoedd heb gemegion (gwrteithiau na phlaladdwyr)
  • mae ganddyn nhw 25 o rywogaethau gwahanol o goed
  • mae ganddyn nhw 3 coeden fesul metr sgwâr
  • maen nhw’n darparu lle i’r coed gael llonydd i dyfu am o leiaf 10 mlynedd (dim gwaith teneuo coed na chynaeafu pren ac eithrio  mewn amgylchiadau eithriadol fel clefydau neu bryderon am ddiogelwch)
  • mae canghennau, dail, a choed marw yn cael eu gadael i orwedd lle maen nhw wedi disgyn
  • mae hyd cyfan y coetir o leiaf 4 metr o led, heb ddim i dorri ar draws hynny (fel llwybr)
  • mae ganddyn nhw haen o domwellt (fel gwellt) sydd o leiaf 15cm o ddyfnder

Nodweddion cymdeithasol

  • maen nhw’n cynnwys ystafell ddosbarth awyr agored lle y bo hynny’n ymarferol
  • mae ganddyn nhw bartner lleol fel gwirfoddolwr neu grŵp cymunedol, neu Awdurdod Lleol
  • maen nhw wedi’u plannu gan drigolion lleol, gweithwyr corfforaethol a/neu blant ysgol
  • gellir eu defnyddio fel lle i drigolion lleol ddod at ei gilydd ac ar gyfer gwersi awyr agored gyda phlant ysgol
  • maen nhw’n galluogi cyfleoedd ymgysylltu i drigolion lleol, gweithwyr corfforaethol a/neu blant ysgol
  • maen nhw’n cael eu cynnal (chwynnu/dyfrio/casglu ysbwriel) gan dîm o Geidwaid Coed, sef 4-5 o wirfoddolwyr lleol am y 2 flynedd gyntaf

Gofynion monitro

Gan ddefnyddio methodoleg Earthwatch, bydd angen i chi wneud gwaith monitro o leiaf ddwywaith y flwyddyn am y ddwy flynedd gyntaf ar ôl plannu, yn ddelfrydol drwy wyddoniaeth dinasyddion.

Bydd angen i chi gyflwyno’r data monitro a gesglir i Earthwatch ar ddiwedd pob tymor tyfu. Byddwch yn cael manylion mewngofnodi ar gyfer cofnodi’r data ar y porth Coetiroedd Bach.

Yn ogystal â’r uchod, gellir cynnwys llwybrau ac ystafell ddosbarth agored yn y dyluniad.

Mae’r cynllun hwn ar gyfer sefydliadau, cymunedau ac unigolion sy’n berchen ar leiniau bach o dir neu sydd â rheolaeth drostyn nhw, ac sydd am greu coetiroedd bach newydd wedi’u rheoli ar y cyd â’r gymuned leol.

Am fwy o fanylion gweler adran ‘Beth yw Coetiroedd Bach?’ y canllawiau hyn.

Bydd y cynllun yn cynnig:

  • grantiau o hyd at £40,000 y safle. Gall ymgeiswyr wneud un cais i gynnwys sawl safle ond ni chaiff unrhyw safle fod yn fwy na chost o £40k, ac uchafswm y grant mwyaf sydd ar gael fesul cais yw £250k.
  • gellir cael hyd at 100% o gyllid
  • hyfforddiant cynhwysfawr gan Earthwatch Europe i gynllunio a chreu Coetir Bach (7.5 awr dros 3 sesiwn ynghyd â hyfforddiant a chefnogaeth barhaus) (hanfodol)
  • aelodaeth o’r rhwydwaith Coetiroedd Bach dan arweiniad Earthwatch Europe (hanfodol)
  • mae gan ymgeiswyr llwyddiannus tan ddiwedd mis Mawrth 2025 i gyflawni’r prosiect
  • cyllid cyfalaf a refeniw
  • cymorth gan swyddogion cyswllt Coedwig Genedlaethol i Gymru ynghylch rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru a sut i ddangos y canlyniadau

Bydd 3 rownd o gyllid Coetiroedd Bach yng Nghymru ar gael yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Darllenwch yr adran ‘Terfynau amser gwneud cais a dyddiadau allweddol’ i gael rhagor o wybodaeth am yr amserlen.

Cyllideb

£2.62 miliwn yw cyfanswm y cyllid sydd ar gael ym mlynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25.

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ac fe’i rheolir ar eu rhan gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae Earthwatch Europe yn bartner allweddol sy’n darparu hyfforddiant ac yn monitro safonau’r  Coetiroedd Bach.

Cronfa ar gyfer gwneud gwaith cyfalaf yw hon yn bennaf, felly dylai’r rhan fwyaf o’ch costau fod yn gostau cyfalaf. Mae canllawiau ar gyfer yr hyn sy’n cyfrif fel costau refeniw a chyfalaf ar gael isod yn yr adran ‘Pa gostau allwch chi wneud cais amdanyn nhw?'

Mae’r cynllun yn agored i unrhyw un sy’n berchen ar dir neu sy’n rheoli tir yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw a pherchnogion preifat. Mae’n rhaid i chi fod â rheolaeth lwyr ar y tir, neu ganiatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir. Gallwch wneud cais mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, neu ar ran tirfeddiannwr, ond mae’n rhaid i’r bartneriaeth fod yn gyfreithiol rwymol ac mae’n rhaid nodi’n glir pwy yw’r partner arweiniol. Bydd angen i chi gael y caniatâd, y trwyddedau a’r cydsyniadau cywir mewn lle hefyd i gynnal gweithgarwch.

Mae’n rhaid i’ch prosiect gynnwys y nodweddion canlynol:

  1. creu Coetir Bach (Tiny Forest) sy’n bodloni’n llawn meini prawf Coetiroedd Bach (gweler adran ‘Beth yw Coetiroedd Bach’ y canllawiau hyn).
  2. cyflwyno coetiroedd hygyrch i bawb eu mwynhau   
  3. cynnwys trigolion lleol, gwirfoddolwyr, awdurdodau lleol neu ysgolion
  4. cynnal y Coetir Bach gan ddefnyddio "tîm o geidwaid coed", sef gwirfoddolwyr am o leiaf 2 flynedd ar ôl i’r prosiect orffen
  5. diwallu anghenion pobl leol fel man cyhoeddus a chyfrannu at wasanaethau ecosystemau yn yr ardal leol.
  6. dangos buddion lluosog sy’n cwmpasu llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol
  7. ystyried mapiau datganiadau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  8. gwirio am unrhyw faterion sensitif yn y safle drwy gyfeirio at Fap Cyfle Coetir y Llywodraeth

Mae gennym ddiddordeb penodol yn y canlynol:

  • ardaloedd trefol sydd heb fannau gwyrdd
  • ardaloedd a fydd yn sicrhau cysylltiad â gofod naturiol

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am eich safle:

  • Bydd y Coetir Bach ei hun yn mesur oddeutu 200 metr sgwâr, gyda lle hefyd ar gyfer peiriannau trwm i wneud gwaith paratoi, felly gall cyfanswm y gofod fod hyd at 500 metr sgwâr.
  • Gall yr ardal hon fod o unrhyw siâp/ogwydd, ond ni chaiff y coetir fod yn gulach na 4 metr ar draws yn unrhyw fan penodol. Dydy lleiniau tenau hir fel gwrychoedd ddim yn addas ar gyfer Coetiroedd Bach.
  • Ni ddylai fod â seilwaith tanddaearol. Fel arfer mae angen cloddio’r pridd i ddyfnder o 1 metr, ac mae’n rhaid parchu parthau clustogi cyfleustodau.
  • Ni ddylai fod â seilwaith uwchben. Gallai’r coed dyfu hyd at 20 metr neu ragor.
  • Byddan nhw’n hygyrch i beiriannau mawr. Bydd angen cloddiwr bach i baratoi’r pridd, a bydd angen i dryciau danfon deunydd tomwellt ac atchwanegiadau pridd eraill fynd yno.
  • Bydd pwynt mynediad dŵr. Efallai y bydd angen dyfrio’r coed yn ystod 2 flynedd gyntaf y gwaith cynnal a chadw, felly mae’n rhaid canfod naill ai pwynt mynediad dŵr gerllaw neu bydd yn rhaid i gerbyd a thancer dŵr allu cael mynediad i’r safle.
  • Ni fydd yn rhwystro hawl tramwy pobl. Y rheswm am hyn yw y bydd y coetir yn tyfu’n drwchus iawn a bydd yn amhosib mynd trwyddo oni bai bod llwybr penodol yn cael ei ymgorffori yn y dyluniad.
  • Bydd yn hawdd ei gyrraedd i ddefnyddwyr fel trigolion lleol, plant ysgol, a gweithwyr
  • Ni fydd wedi ei ddynodi’n sensitif mewn unrhyw ffordd fel SoDdGA, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ramsar neu arall
  • Bydd yn ardal agored – dydyn ni ddim am dynnu coed oddi yno i blannu rhai newydd! Mae rhywfaint o brysg neu lystyfiant isel yn iawn, yn ogystal â choed ar ymyl y safle arfaethedig oherwydd gellir o bosibl ymgorffori’r rhain yn y dyluniad.
  • Bydd yn cael ei ffensio am y 3 blynedd gyntaf o leiaf gyda mynediad drwy gât

Cronfa i wneud gwaith cyfalaf yw hon yn bennaf. Gellir dyrannu uchafswm o 13% o bob grant i wariant refeniw. Yn ogystal, gellir defnyddio hyd at 10% o’r elfen gyfalaf ar gyfer cynllunio’r prosiect a chostau uniongyrchol eraill ar gyfer rhoi’r prosiect ar waith.

Dogfen Arweiniad Costau

Rydym wedi darparu arweiniad cyllideb i'ch helpu ysgrifennu eich cais am ariannu – defnyddiwch hwn i helpu cynllunio'ch costau.

Mae’n bwysig eich bod yn nodi beth yw costau cyfalaf eich prosiect a beth yw’r costau refeniw. Gall ceisiadau gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

Costau Cyfalaf

Arian sy’n cael ei wario ar fuddsoddi ac ar bethau a fydd yn creu twf yn y dyfodol yw gwariant cyfalaf. Dyma enghreifftiau o gostau cyfalaf derbyniol.

Nodwch nad ydy hon yn rhestr hollgynhwysfawr, a bydd pob un o’r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • prynu coed, llwyni a phlanhigion eraill i greu’r Coetiroedd Bach
  • paratoi safle, fel gwaith paratoi’r pridd /cloddiadau, arolygon, ffensio, clirio sbwriel a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol
  • adeiladu llwybrau a gatiau hygyrch gydag ymrwymiad i’w cadw’n agored i’r cyhoedd a’u cynnal am o leiaf 20 mlynedd, os nad am gyfnod amhenodol
  • creu llwybrau natur/addysgol
  • creu gofodau ar gyfer hamdden, chwarae ac addysg (fel ystafell ddosbarth awyr agored)
  • creu gofodau i gynnal a gweld natur
  • cost llafur sy’n gysylltiedig â chreu’r Coetiroedd Bach
  • arwyddion/byrddau dehongli
  • meinciau/seddi
  • cyflawni prosiect (mae hyn yn golygu costau sy’n eich helpu i greu’r Coetiroedd Bach, er enghraifft: cynllunio prosiect, deunyddiau caffael, rheolaeth ariannol y prosiect, llunio, a dadansoddi gwybodaeth reoli o waith cyflawni’r prosiect, nad yw’n fwy na 10% o gyfanswm cost cyfalaf y prosiect)
  • darpariaeth y Gymraeg, fel costau cyfieithu

Costau hyrwyddo’r coetir i’r gymuned ehangach, fel:

  • argraffu taflenni
  • bag cit (70L)
  • gwiail pren
  • tâp mesur
  • pelen o linyn
  • rhestr o rywogaethau coed
  • canllaw adnabod coed
  • siswrn
  • caliperau
  • pren mesur metel
  • dyfais i fesur cyfradd ymdreiddiad dŵr mewn pridd neu sylweddau mandyllog eraill
  • stopwatsh
  • gordd
  • jwg fesur
  • planciau pren
  • poteli dŵr
  • dyfais boced i fesur gwydnwch dail
  • trywel
  • gorsaf dywydd
  • treipod a throed addasadwy
  • canllawiau adnabod bioamrywiaeth
  • cod QR ar gyfer monitro
  • taflenni maes protocol   

Costau refeniw

Gall cyllid refeniw helpu gyda’r gost gyffredinol o redeg y prosiect. Mae’n cynnwys costau sy’n cael pobl i fod yn rhan o waith cyflawni’r prosiect.

Gellir defnyddio arian refeniw i wneud y canlynol:

  • cyfraniad at gostau craidd/gweithredu ychwanegol rhedeg y prosiect
  • digwyddiadau i hyrwyddo’r cynllun coetir i’r gymuned ehangach, ac i ddathlu cyflawniadau cymunedol
  • oriau ychwanegol i gydlynydd gwirfoddolwyr presennol recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno’r coetir
  • arferion da gwirfoddoli a threuliau (yn unol â chanllawiau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)
  • gweithgarwch hybu’r prosiect
  • unrhyw wariant rhesymol a fydd yn galluogi’r prosiect i lwyddo

Rhaid i chi gynnwys llinell gyllideb ar gyfer aelodaeth a hyfforddiant Earthwatch. Dyma gost refeniw i’r prosiect ac mae’n £250 neu’n £750 gan ddibynnu ar y pecyn cymorth rydych chi’n penderfynu ei ddewis.

Costau anghymwys

Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o gostau nad ydyn nhw’n gymwys. Dydy hon ddim yn rhestr hollgynhwysfawr, a bydd pob un o’r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • prynu tir
  • cost prydlesu tir
  • prynu adeiladau
  • ail-stocio coed ar safle lle mae’r coed wedi’u cwympo
  • gwaith rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am ymgymryd ag ef
  • unrhyw waith ffisegol ar y safle a wnaed cyn y dyddiad awdurdodedig ar gyfer dechrau’r gwaith
  • prynu cerbydau
  • eich costau llafur a chyfarpar eich hun
  • peiriannau a chyfarpar canolig/mawr
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol
  • costau cynnal a chadw
  • cyfalaf gweithio
  • TAW y gellir ei adhawlio
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract prydlesu, fel lwfans y prydleswr, llog cost ariannu, gorbenion a chostau yswiriant
  • costau trefnu cyfleusterau gorddrafft, benthyciadau neu adnoddau cymorth ariannol eraill - yn cynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu gostau eraill
  • gorbenion wedi’u dyrannu neu eu dosrannu ar gyfraddau sy’n faterol uwch na’r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer unrhyw waith tebyg a wnaed gan yr ymgeisydd
  • gwariant tybiannol
  • taliadau am weithgarwch o natur wleidyddol
  • dibrisio, amorteiddiad ac amhariad ar asedau a brynwyd gyda chymorth y grant

Costau nad ydyn nhw’n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni eich prosiect, gan gynnwys:

  • darpariaethau
  • rhwymedigaethau digwyddiadol
  • elw a wneir gan yr ymgeisydd
  • difidendau
  • costau llog
  • taliadau gwasanaethau o ganlyniad i brydlesau cyllid, trefniadau hurbwrcasu a chredyd
  • costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
  • costau sy’n gysylltiedig â dirwyn cwmni i ben
  • taliadau am ddiswyddo annheg
  • taliadau i gynlluniau pensiwn preifat
  • taliadau i bensiynau heb eu hariannu
  • iawndal am golli swydd
  • dyledion drwg sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchnogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
  • taliadau am anrhegion neu roddion
  • adloniant, er enghraifft, partïon staff
  • dirwyon a chosbau statudol
  • dirwyon troseddol ac iawndal
  • treuliau cyfreithiol mewn perthynas ag ymgyfreitha

Bydd sawl rownd o Goetiroedd Bach yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’r rhaglen yn agor ar 3 Ebrill 2023.

Rownd dau

•    terfyn amser ymgeisio: 12 hanner dydd ar 16 Hydref 2023
•    bydd penderfyniad yn cael ei wneud: ddiwedd mis Tachwedd 2023
•    Sesiynau hyfforddi Earthwatch (ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus): 9.30am – 12 hanner dydd, 12 a 13 Rhagfyr 2023
•    dyddiad cwblhau eich prosiect: 31 Mawrth 2025

Rownd tri

  • dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 hanner dydd 8 Mai 2024
  • bydd penderfyniad yn cael ei wneud: ddiwedd Mehefin 2024
  • dyddiad cwblhau eich prosiect: 31 Mawrth 2025

Y disgwyl yw y bydd pob ymgeisydd yn cysylltu â Swyddog Cyswllt Coetir ei ranbarth er mwyn cael cyngor a chael y cydsyniadau neu’r caniatâd angenrheidiol gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), neu gyrff eraill - fel Cadw - cyn cyflwyno cais.

Os nad yw pob caniatâd/cydsyniad yn eu lle gennych, mae angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am gydsyniad neu ganiatâd.

Dim ond ar ôl i bob cydsyniad/caniatâd gael ei roi y bydd cyllid yn cael ei ryddhau, ac mae’n bosibl y bydd grantiau’n cael eu tynnu’n ôl os na fydd y rhain wedi’u derbyn o fewn chwe mis i ddyddiad dyfarnu’r grant.

Asesiadau o’r effaith amgylcheddol

Ni fydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) arnoch, oni bai bod eich Coetir Bach yn mynd i gael ei blannu ar safle dynodedig. Os yw o fewn safle dynodedig, bydd angen barn AEA arnoch.

Tystiolaeth o berchnogaeth tir

Rhaid dangos tystiolaeth o berchnogaeth tir. Mae angen i ni weld copi swyddogol cyfredol gan y Gofrestrfa Tir sy’n dangos eich bod yn berchen ar y tir (neu ar gyfer tir heb ei restru, y gweithredoedd perthnasol). Dylid atodi’r rhain gyda’ch cais.

Rhaid darparu tystiolaeth i ddangos mai tir ar les yw’r tir dan sylw ac mae angen inni weld copi o fanylion perchennog y tir a'r les. Mae angen inni hefyd weld bod perchennog y tir wedi rhoi caniatâd ichi ymgymryd â'r prosiect arfaethedig, yn ogystal â pharhau i’w fonitro a’i reoli ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau.

Rheoli cymhorthdal

Adeg cyhoeddi'r canllawiau hyn, nid yw cyllid cyhoeddus ar gyfer sefydliadau yn dod bellach o dan reolau’r Comisiwn Ewropeaidd ar gymorth gwladwriaethol. Mae’r rheolau sydd mewn grym yn eu lle i’w gweld mewn deddfwriaeth newydd gan y DU, sef Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Darllenwch fwy am reoli cymhorthdal.

Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau bod eich cais yn cael ei ystyried a'i wirio yn unol â’r rheolau rheoli cymhorthdal. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol os nad ydych yn siŵr a fydd angen cadarnhad bod eich prosiect yn bodloni gofynion y rheolau rheoli cymhorthdal.

Rydym yn cadw'r hawl i benni rhagor o ofynion ac amodau ychwanegol mewn perthynas â'r mater hwn.

Gweithio ar dir preifat

Mae llawer o gynefinoedd a rhywogaethau dynodedig ar dir sy’n eiddo i unigolion preifat neu sefydliadau er-elw.

Gall prosiectau ddarparu gwaith neu weithgareddau ar dir preifat, cyn belled â bod unrhyw fudd cyhoeddus yn amlwg yn drech nag unrhyw fudd preifat posibl. Hefyd, cyn belled nad yw rheolau rheoli cymhorthdal yn cael eu torri.

Byddwn yn asesu eich prosiect ar sail ei botensial i fodloni meini prawf Coetiroedd Bach. Mae’r meini prawf hyn ar gael yn yr adran ‘Beth yw Coetir Bach?’ y canllawiau hyn.

Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y canlynol:

  • ardaloedd trefol sydd heb fannau gwyrdd
  • ardaloedd a fydd yn golygu y gellir cael cysylltiad â gofod naturiol

Bydd y canllawiau Derbyn Grant yn cael eu hanfon at bob prosiect a ddyfernir a bydd yn rhoi manylion ar sut y byddwch yn derbyn eich cyllid a’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych.

Mae angen i chi gynnwys y Gymraeg yn eich prosiect, a dweud wrthym sut y byddwch yn gwneud hyn yn eich ffurflen gais. Gellir cynnwys costau cyfieithu yn eich cyllideb.

Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y nodir yn ein canllawiau ar sut i gydnabod eich grant Llywodraeth Cymru.

Ariennir y Grant Coetiroedd Bach yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac fe’i gweinyddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd angen i chi gydnabod EarthWatch fel partner cyflawni hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich data’n cael ei brosesu dan y rhaglen grantiau hon, gweler ein polisi preifatrwydd.

Deallwn y gallai ein penderfyniad fod yn siom i chi.

Does dim hawl apelio am y cynllun Coetiroedd Bach yng Nghymru. Allwn ni ddim adolygu ein penderfyniad oni bai y gallwch chi wneud cwyn ffurfiol am y modd rydym ni wedi ymdrin â’ch cais. Mae gennym broses gwynion dau gam ar gyfer y gronfa hon.

Er mwyn i ni allu ystyried ac ymchwilio i’r gŵyn, bydd yn rhaid i chi allu dangos y canlynol:

  • na wnaethom ni ddilyn y gweithdrefnau a gyhoeddwyd ar gyfer asesu eich cais
  • ein bod wedi camddeall rhan sylweddol o’ch cais
  • na wnaethom ni gymryd sylw o wybodaeth berthnasol

Rhaid gwneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn penderfyniad am eich cais. Mae’n rhaid i chi anfon eich cwyn at: enquire@heritagefund.org.uk

Ein nod yw cydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith.

Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu i ddechrau gan un o’n Cyfarwyddwyr Cenedl ac Ardal, sy’n annibynnol ar baneli argymhellion a phenderfynu ar gyfer y gronfa hon.

Ein nod yw cyfleu penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o’r adeg i chi gyflwyno’ch cwyn.

Am gymorth, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu e-bostiwch enquire@heritagefund.org.uk.

Newidiadau i’r canllawiau hyn

Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth defnyddwyr. Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau yn ôl y gofyn. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl drwy’r dudalen we hon.

11 Medi 2023: eglurhad ynghylch cysylltiadau'r rhaglen hon â rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.

6 Hydref 2023: Ychwanegwyd templed costau newydd.

19 Rhagfyr 2023: diweddariad i'r neges wybodaeth ar frig y dudalen.


Caiff Grant Coetiroedd Bach yng Nghymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

The logos of The National Lottery Heritage Fund and the Welsh Government