Ysbrydoliaeth ar gyfer eich cais Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Ysbrydoliaeth ar gyfer eich cais Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Ydych chi'n ystyried a yw eich syniad am brosiect yn gwbl iawn? Rydym wedi rhoi gwybodaeth at ei gilydd am ddetholiad o brosiectau a ariannwyd drwy'r rhaglen Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG). Maent yn enghreifftiau da o'r math o geisiadau y gallwn eu cefnogi.

Mae'r prosiectau hyn i gyd yn rhan o fenter Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru.

Drwy'r rhaglen TWIG rydym yn helpu i gyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu rhwydwaith o Goedwigoedd Cenedlaethol a fydd yn ymestyn ar hyd a lled Cymru. Mae’r prosiectau rydym yn eu hariannu, gan gynnwys yr enghreifftiau isod, yn goetiroedd a choedwigoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar draws Cymru. Gyda'i gilydd maent yn gwarchod natur, yn mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth ac yn cefnogi iechyd a lles cymunedau.