Nodiadau cymorth ymgeisio: Grant Buddsoddi mewn Coetir

Nodiadau cymorth ymgeisio: Grant Buddsoddi mewn Coetir

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau newydd. Mae’r arweiniad ymgeisio hwn i’w defnyddio gan ymgeiswyr Rownd 5 sydd wedi llwyddo yn y cam FfYP ac sydd wedi’u gwahodd i gyflwyno cais llawn i’r Grant Buddsoddi mewn Coetir am grantiau rhwng £40,000 a £250,000.

Cafodd y dudalen ei diweddaru ar 8 Chwefror 2024.

Pwysig

Nid oes Ffurflen Gais TWIG benodedig. Felly, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau isod yn ofalus fel arweiniad i chi wrth ateb y cwestiynau yn ein ffurflen gais grant safonol £10,000 i £250,000 ar y porth. Defnyddiwch hwn ochr yn ochr ag Arweiniad Ymgeisio'r Rhaglen TWIG.

Defnyddiwch y dudalen hon:  

  • i weld pa gwestiynau sy'n ymddangos yn y cais
  • am arweiniad ar y ffordd orau o ateb cwestiynau'r cais
  • dewch o hyd i arweiniad ar sut i ffitio meini prawf y Rhaglen TWIG i'n ffurflen gais safonol

Mae terfyn geiriau i bob cwestiwn; fodd bynnag, nid oes angen i chi gyrraedd hwn. Dim ond yr wybodaeth y gofynnwn amdani sy'n berthnasol i'ch prosiect y mae angen i chi ei chynnwys.

Ynghylch eich gweledigaeth

Disgrifiwch yr hyn yr hoffai eich sefydliad ei gyflawni drwy eich prosiect.

Byddwn yn defnyddio eich ateb i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.  

Rydym yn cyhoeddi manylion ceisiadau a dyfarniadau grant ar ein gwefan ac mewn cronfeydd data cyhoeddus. Mae hyn yn gweddu i'n hymrwymiad i dryloywder ac egwyddorion data agored. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu wrth ateb y cwestiwn hwn i ddisgrifio'ch prosiect.

Dywedwch wrthym beth rydych yn gobeithio ei gyflawni a'r hyn yr ydych yn gobeithio fydd etifeddiaeth eich prosiect.

Fel rhan o'r rhaglen Goedwig Genedlaethol, mae tair thema ychwanegol. Dylai ymgeiswyr ddisgrifio sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at o leiaf un o'r themâu hyn:

  • lliniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
  • cefnogi twristiaeth a'r economi
  • cefnogi neu gyflwyno sgiliau a hyfforddiant

Ar gyfer eich cais TWIG, ystyriwch y canlynol hefyd:

  • sut rydych yn meddwl y bydd eich syniad yn cyfrannu at ddatblygiad y rhwydwaith Coedwigoedd Cenedlaethol
  • sut rydych wedi cyfeirio at Safonau Coedwigaeth y DU (UKFS), a sut y maent yn effeithio ar eich cynnig
  • disgrifio'r hyn yr ydych yn credu yw'r rhwystrau i gyfranogiad eich cymuned benodol
  • sut y caiff unigolion a chymunedau eu cefnogi i gymryd rhan
  • sut y bydd y gwaith arfaethedig yn gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau a'r amgylchedd naturiol
  • sut y byddwch yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn eiddo i'r gymuned ac yn cael eu cyflwyno dros y gymuned, gan y gymuned
  • ar beth y byddwch yn gwario'r ariannu (yn gyffredinol). Mae lle ychwanegol ar gyfer cyllideb lawn yn ddiweddarach yn y ffurflen gais. Cofiwch y gellir defnyddio uchafswm o 25% o'r grant hwn at ddibenion refeniw.
  • sut y byddwch yn cynnwys y Gymraeg a/neu ieithoedd cymunedol yn eich prosiect

[Maes testun - 150 gair]

Ynghylch eich ffocws treftadaeth

Dywedwch wrthym am y dreftadaeth y byddwch yn canolbwyntio arni fel rhan o'r prosiect hwn.

Rhowch ddisgrifiad o'r dreftadaeth naturiol fel y mae heddiw. Dylech gynnwys y fath wybodaeth â lleoliad, cyflwr presennol y tir, unrhyw rywogaethau neu nodweddion pwysig neu warchodedig, maint y safle, defnyddiau presennol, cyfranogiad cymunedol a sut y byddant ar eu hennill, ac ati.

Dylech ystyried mapiau datganiad ardal Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), arweiniad Safon Coedwigaeth y DU a Map Cyfleoedd Coetir 2021 i gael arweiniad ar sensitifrwydd tebygol safle arfaethedig o ran plannu newydd.

Mae angen Cynllun Creu Coetir ar gyfer coetiroedd newydd.

Bydd angen Cynllun Rheoli Coedwig (CRhC) ar bob prosiect, sy’n sicrhau bod:

  • coetiroedd yn cael eu rheoli'n unol ag egwyddorion Safon Coedwigaeth y DU.
  • coetiroedd yn dangos bod meini prawf hanfodol y Goedwig Genedlaethol yn cael eu cyflawni, sef 'coetiroedd cydnerth o ansawdd da, sydd wedi'u dylunio a'u rheoli'n dda’

Gall y manylion yn y cynllun fod yn gymesur â maint y prosiect - po fwyaf yw'r safle, y mwyaf o fanylion y byddem yn disgwyl eu gweld yn eich cynllun.

Os nad oes gennych CRhC, gallwch wneud cais am gostau i ddatblygu eich cynllun, yn yr achos hwn defnyddiwch dempled y Cynllun Rheoli Coedwig a chwblhewch y ddwy adran â'r enw:

  • CRhC yr Ymgeisydd
  • Crynodeb o'r Rhaglen Waith

Peidiwch â defnyddio'r adran hon i ddweud wrthym am eich prosiect, neu beth fydd yn digwydd yn ystod eich prosiect. Byddwn yn gofyn i chi am hyn yn nes ymlaen yn y cais.  

[Maes testun - 500 gair]

A yw'r dreftadaeth hon mewn perygl?

Dylech ateb ydy i'r cwestiwn hwn a darparu'r wybodaeth isod.

Esboniwch pam fod y dreftadaeth o dan fygythiad, sut mae'n cael ei rheoli ar hyn o bryd a chan bwy, a pha gamau sydd wedi'u cymryd (os o gwbl) i isafu'r risg.

Ystyriwch y canlynol: a yw natur (cynefinoedd a rhywogaethau) ar y safle a/neu yn eich ardal leol o dan fygythiad a sut y bydd y prosiect hwn yn helpu.

Cyn i chi wneud cais, rhaid i chi ystyried a oes angen Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer eich cynigion. Dangoswch eich bod wedi gwirio'r meini prawf perthnasol ac nad yw'r cynigion yn dod o fewn y mathau penodedig hynny sy'n ofynnol ar gyfer AEA. Os oes angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, dywedwch wrthym beth yw’r canlyniad neu rhowch dystiolaeth eich bod o leiaf wedi gwneud cais am un.

[Maes testun - 500 gair]

Ynghylch eich prosiect

Beth yw teitl eich prosiect?

Rhowch deitl neu enw i ni allu cyfeirio at eich prosiect.

Dechreuwch enw/teitl eich prosiect gyda #COED2. Er enghraifft, #COED2 Beddgelert neu #COED2 Creu Coetir Bangor.

Mae hyn yn ein helpu i adnabod eich cais yn gywir, a gallai methu â gwneud hyn olygu bod eich cais yn methu’r dyddiad cau.

Bydd hwn yn cael ei weld gan y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, ac os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw bostiadau cyhoeddus a wneir am eich prosiect a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis teitl rydych chi'n hapus i amrywiaeth eang o bobl ei weld.

Rydym yn eich annog i gadw eich teitl yn fyr ac yn ddisgrifiadol.  

[Mewnbynnu testun - 255 nod]

Pryd fydd eich prosiect yn digwydd?

Rhowch amserlen ar gyfer eich prosiect.

Dylech dderbyn penderfyniad ar eich cais TWIG ym mis Mehefin 2024. 

Ar gyfer y rownd hon o'r Rhaglen TWIG, rhaid i'ch prosiect gael ei gwblhau erbyn 26 Mehefin 2026.

Ble mae eich prosiect yn digwydd?

Os yw eich prosiect yn digwydd ar fwy nag un safle, dywedwch wrthym ble y bydd y rhan fwyaf o'ch prosiect yn digwydd. Os oes gennych 'What Three Words' gallwch rannu hwn i roi union leoliad i ni.

  • yr un lle â chyfeiriad fy sefydliad [Blwch ticio]
  • rhywle arall [Blwch ticio]

Os rhywle arall:

Dywedwch wrthym beth yw cyfeiriad eich prosiect.

Rydym yn deall efallai nad oes gennych god post. Dywedwch wrthym beth yw'r cod post agosaf at leoliad eich prosiect.

A ydych wedi derbyn unrhyw gyngor gennym ynghylch y prosiect hwn?

Dylech ateb ydw i'r cwestiwn hwn a chynnwys unrhyw adborth a gawsoch gennym ar eich cais Ffurflen Ymholiad Prosiect (FfYP). Bydd gennych gyfle yn y cwestiwn nesaf i ddweud wrthym am unrhyw gyngor a gawsoch gan unrhyw un y tu allan i'r Gronfa Treftadaeth.

[Maes testun - 500 gair]

A ydych wedi derbyn unrhyw gyngor gan unrhyw un arall am y prosiect hwn?  

Dylech ateb ydw i'r cwestiwn hwn. O dan y cwestiwn hwn, dylech gynnwys unrhyw gyngor a gawsoch gan CNC, Llais y Goedwig, Cadw, Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor Sir neu sefydliadau cymunedol perthnasol eraill yn eich ardal. Yn benodol, nodwch unrhyw gymorth yr ydych wedi'i dderbyn gan swyddogion cyswllt Coetir CNC ynghylch rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru a sut i ddangos y canlyniadau.

Dywedwch wrthym hefyd a ydych wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol arall am eich prosiect.

Gallai hyn gynnwys:  

  • unrhyw ymgynghoriad rydych wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect
  • unrhyw gyngor ar gynnig y prosiect, megis gan bensaer neu gadwraethwr  
  • unrhyw gyngor cyn-ymgeisio ar faterion cynllunio a/neu ganiatâd adeilad rhestredig, er enghraifft gan eich awdurdod lleol neu archeolegydd  
  • cyngor ar sut i ymdrin â lles y cyfranogwyr yn eich prosiect, er enghraifft gan elusen neu grŵp lleol a all ddarparu cymorth sy’n berthnasol i’w profiad o lygad y ffynnon

[Maes testun - 500 gair]  

Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.

Rhowch drosolwg o'r hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.  

Er enghraifft, disgrifiwch unrhyw:

  • weithgareddau y byddwch yn eu gwneud
  • digwyddiadau y byddwch yn eu cynnal  
  • eitemau neu adnoddau y byddwch yn eu creu
  • eitemau neu adeiladau treftadaeth y byddwch yn eu hadfer
  • tirweddau y byddwch yn eu gwella

Ar gyfer gwaith cyfalaf: rhowch fanylion y gwaith a'r costau gan gofio bod arian refeniw yn uchafswm o 25% o'r grant hwn. Yn ogystal, gellir defnyddio hyd at 10% o'r elfen gyfalaf ar gyfer cynllunio'r prosiect a chostau gweithredu prosiect uniongyrchol eraill.

Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth yw diben eich prosiect.

Dylai eich cynllun prosiect ddarparu gwybodaeth fanylach am bob elfen o'ch prosiect.

[Maes testun - 500 gair]

A fydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect?

Dylech ateb bydd i'r cwestiwn hwn.

Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased. Gall hwn gynnwys gwaith ffisegol ar dirweddau, byd natur ac adeiladau, atgyweirio, cadwraeth, adeiladu o'r newydd, digideiddio, neu waith i sefydlogi cyflwr gwrthrychau.

Enghreifftiau o waith cyfalaf:

  • plannu coed
  • atgyweiriadau i adeilad hanesyddol
  • gosod paneli dehongli

Mae'r rhaglen TWIG ar gyfer tirfeddianwyr a/neu'r rhai sydd â rheolaeth lawn dros dir felly mae'n bwysig i chi ddweud wrthym pwy sy'n berchen ar y dreftadaeth.

Os mai eich sefydliad chi sy'n berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • A oes gan eich sefydliad rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • A oes gan eich sefydliad les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • A oes gan eich sefydliad, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem o dreftadaeth. Os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni. Os oes gennych un, uwchlwythwch ddogfen o berchnogaeth.

Os yw sefydliad partner yn berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:

  • enw'r sefydliad partner
  • a oes gan y partner yn y prosiect rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
  • a oes gan y partner yn y prosiect les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
  • a oes gan y partner yn y prosiect, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem o dreftadaeth
  • os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni

[Maes testun - 500 gair]

Uwchlwythwch ddogfen o berchnogaeth.  

[Dewis ffeil]

Rhaid dangos tystiolaeth o berchnogaeth ar dir fel rhan o'r Rhaglen TWIG. Mae angen i ni weld copi swyddfa diweddar gan y Gofrestrfa Tir yn dangos mai chi sy'n berchen ar y tir (neu ar gyfer tir nad yw'n gofrestredig, y gweithredoedd perthnasol).

Rhaid darparu tystiolaeth o dir sydd wedi'i lesio ac mae angen i ni weld copi o'r les, ochr yn ochr â chaniatâd y tirfeddiannwr y gallwch ymgymryd â'r prosiect arfaethedig. 

Rhaid i chi ddal les fel y bo'n berthnasol i'r hyn a amlinellir isod neu mae angen i'r tirfeddiannwr ymrwymo i delerau'r grant.

  • sefydliad nid-er-elw: rhaid bod o leiaf pum mlynedd yn weddill ar eich les ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect
  • perchennog preifat: rhaid bod o leiaf deng mlynedd yn weddill ar eich les ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect

A oes angen unrhyw ganiatâd arnoch i wneud y gwaith cyfalaf?

Dylech ateb ydw i'r cwestiwn hwn. Disgwylir y bydd pob ymgeisydd yn dod o hyd i'r caniatadau angenrheidiol gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), neu gyrff eraill – fel Cadw – cyn cyflwyno cais.

Os nad oes gennych eich holl ganiatadau yn eu lle, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am ganiatâd.

Cyfeiriwch at dudalen dogfennau ategol y rhaglen TWIG i lawrlwytho'r cynllun Coetiroedd a'r rhestr wirio caniatadau. Dylid cyflwyno'r rhain gyda'ch cais.

Enghreifftiau o'r hyn y gallai fod angen caniatâd ar ei gyfer:

  • cydsyniad gan berchennog ased treftadaeth
  • hawliau mynediad gan berchennog tir
  • caniatâd adeilad rhestredig
  • caniatâd cynllunio gan y cyngor
  • cydsyniad i recordio sain neu dynnu lluniau o unigolion

A yw arolwg cyflwr wedi'i gynnal yn ystod y pum mlynedd diwethaf?

Rhowch wybod i ni am unrhyw arolygon ecolegol neu archeolegol sydd wedi'u cwblhau ar y tir nad yw'n dod o dan eich Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

[Maes testun - 500 gair]

A oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r dreftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect?

Dywedwch wrthym os yw’r gofrestr teitl neu ddogfennau perchnogaeth eraill yn cynnwys unrhyw waharddiadau neu gyfyngiad ar ei defnydd neu berchnogaeth, neu a oes angen unrhyw ganiatadau ar gyfer unrhyw drafodion. Os oes, bydd angen i chi roi'r manylion llawn a thystiolaeth bod y rhain wedi'u bodloni.

Gallai hyn gynnwys:

  • cyfamod Cyfyngol sy’n cyfyngu ar y math o ddefnydd ar gyfer y tir neu’r eiddo
  • cyfyngiad sy’n rhoi hawl i barti arall gael ei hysbysu am unrhyw drafodion neu nodi amodau y byddai angen eu datrys cyn gwerthu’r eiddo

[Maes testun - 500 gair]

A yw'r dreftadaeth hon ar y Gofrestr Mewn Perygl?

Atebwch nac ydy i'r cwestiwn hwn.

A fyddwch yn creu unrhyw waith digidol fel rhan o'ch prosiect?  

Atebwch nac ydy i'r cwestiwn hwn.

A fyddwch yn caffael unrhyw adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth fel rhan o'ch prosiect?

Atebwch nac ydy i'r cwestiwn hwn. Ni chaniateir caffael tir o dan y cynllun hwn.

Mae ein hariannu'n ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Dywedwch wrthym a ydych o'r farn bod yr ariannu y gwnaed cais amdano yn Gymhorthdal o dan y Ddeddf ac am unrhyw gyngor yr ydych efallai wedi'i geisio.  

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus ac y gall fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.  

[Maes testun - 500 gair]

Sut fyddwch chi'n cynnal buddion eich prosiect ac yn talu unrhyw gostau cysylltiedig?

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli buddion eich prosiect ar ôl i'r ariannu ddod i ben.

Dyma le y byddwch yn disgrifio'ch cynllun cynnal a chadw parhaus ar gyfer y safle. Dylid atodi Cynllun Cynnal a Chadw drafft i'r cais a gellir ei adolygu a'i ailgyflwyno yn ystod oes y prosiect. Gallwch gynnwys costau datblygu'r cynllun yn eich cais.

Cofiwch: ni allwn ddarparu ariannu pellach ar ôl y prosiect. Fodd bynnag, gallwn wneud un taliad cynhaliaeth am y pum mlynedd ar ôl i ariannu'r prosiect ddod i ben. Mae hyn yn amodol ar dderbyn cynllun cynnal a chadw cwbl ddatblygedig ac addas. Cofiwch gynnwys pum mlynedd o gostau cynnal a chadw ar ôl cyflwyno'r prosiect yng nghostau eich prosiect.

[Maes testun - 500 gair]

Ynghylch am yr angen am eich prosiect

Pam mae angen i'ch prosiect ddigwydd?

Mae'r gronfa hon yn gystadleuol a bydd angen i chi esbonio eich cymhellion dros wneud y cais hwn.

Beth am y lleoliad sy'n gwneud hwn y peth iawn i'w wneud nawr?

Er enghraifft:

  • A oes pwysau datblygu penodol ar y tir?
  • A oes cyfle unwaith ac am byth i ailgysylltu coetiroedd ynysig?
  • A yw'r gymuned wedi bod yn awyddus i wella neu greu coetir yn eu hardal?

[Maes testun - 500 gair]

A oes cymuned benodol y mae eich prosiect wedi ymrwymo i'w gwasanaethu? Dewiswch unrhyw un sy'n berthnasol.

Dewiswch o'r rhestr isod i adlewyrchu pwy fydd eich prosiect yn ei gefnogi. Dewiswch unrhyw a phob un sy'n berthnasol, neu dewiswch 'dim un o'r uchod' os nad yw hyn yn berthnasol i'ch prosiect.

Os byddwch yn dewis yr opsiwn 'grwpiau penodol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys', dywedwch fwy wrthym am y grwpiau neu'r cymunedau hyn.  

Os ydych yn gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed fel rhan o'ch prosiect, bydd angen i chi fod wedi rhoi polisïau ac arferion diogelu ar waith. Dylech hefyd sicrhau bod lles staff y prosiect, cyfranogwyr ac ymwelwyr yn cael ei ystyried trwy gydol eich prosiect.

Dylech wneud addasiadau rhesymol i'r ffordd yr ydych yn cyflwyno eich prosiect neu wasanaethau fel y gall pawb gymryd rhan.

  • Cymunedau sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol [Blwch ticio]
  • Cymunedau ffydd [Blwch ticio]
  • Pobl sydd wedi mudo a/neu sydd â phrofiad o’r system fewnfudo [Blwch ticio]
  • Pobl f/Fyddar, anabl, dall, â golwg rhannol a/neu niwrowahanol [Blwch ticio]
  • Pobl hŷn (65 oed a throsodd) [Blwch ticio]
  • Pobl iau (o dan 25 oed) [Blwch ticio]  
  • Menywod a merched [Blwch ticio]  
  • Pobl LHDTC+ [Blwch ticio]  
  • Pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd [Blwch ticio]  
  • Grwpiau penodol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys [Blwch ticio]  
  • Ddim un o'r uchod [Blwch ticio]

Pwy arall ydych chi wedi cysylltu â nhw ynghylch ariannu eich prosiect?

Dywedwch wrthym am unrhyw ariannu arall:  

  • rydych wedi'i sicrhau i helpu tuag at gost eich prosiect
  • rydych yn bwriadu gwneud cais amdano i gefnogi'r prosiect hwn
  • y byddwch yn ei godi drwy godi arian neu gyfraniadau torfol

Dywedwch wrthym a ydych wedi codi unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect.  

Er y gallwn ariannu cost gyfan y prosiect, dylech esbonio pam na allwch godi unrhyw ariannu arall naill ai o'ch adnoddau eich hun neu o ffynonellau eraill.

[Maes testun - 500 gair]

Ein hegwyddorion buddsoddi

Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi'n cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033

Ein hegwyddorion buddsoddi yw:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Ar gyfer y rhaglen TWIG - trwy gwrdd â'r tri chanlyniad Coedwig Genedlaethol hanfodol ac unrhyw un o'r canlyniadau hynod ddymunol sy'n berthnasol i'ch prosiect, rydych wrth reswm yn bodloni un neu fwy o'n Hegwyddorion Buddsoddi.

I gwblhau'r adran hon o'r ffurflen gais, llenwch y Templed Canlyniadau Coedwig Cenedlaethol sy'n ddogfen ategol orfodol ar gyfer y Rhaglen TWIG. Cyfeiriwch at adran 'Sut fyddwn ni'n asesu ceisiadau?' yr Arweiniad Ymgeisio TWIG sy'n darparu rhagor o fanylion am ganlyniadau'r Goedwig Genedlaethol. Cofiwch gyflwyno'r ddogfen hon gyda'ch cais.

Yn y ffurflen gais o dan yr adran hon, gofynnir i chi lenwi gwybodaeth o dan unrhyw Egwyddor Fuddsoddi sy'n berthnasol i'ch prosiect.  Ar gyfer eich prosiect TWIG, dilynwch y cyfarwyddiadau isod i gwblhau’r adran hon:

  • Rhowch Dd/B o dan yr Egwyddor Fuddsoddi 'Sut fydd eich prosiect yn achub treftadaeth'
  • Rhowch Dd/B o dan yr Egwyddor Fuddsoddi 'Sut fydd eich prosiect yn diogelu'r amgylchedd'
  • Rhowch 'Cyfeiriwch at y ddogfen Cefnogi Canlyniadau Coedwigoedd Cenedlaethol’ o dan 'Esboniwch sut fydd eich prosiect yn cynyddu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad'
  • Rhowch Dd/B o dan yr Egwyddor Fuddsoddi 'Sut fydd eich prosiect yn gwella cynaladwyedd sefydliadol'
  • Parhewch gyda'ch ffurflen gais ond cofiwch gyflwyno eich templed canlyniadau Coedwig Cenedlaethol ynghyd â'r dogfennau ategol eraill ar ddiwedd y ffurflen gais.

Cyflwyno eich prosiect

Pam mai eich sefydliad chi yw'r un gorau i gyflwyno'r prosiect hwn?  

Dywedwch wrthym pam y dylai eich sefydliad chi'n benodol redeg y prosiect hwn.  

Gall hyn gynnwys:

  • unrhyw brofiad sydd gan eich sefydliad o redeg prosiectau tebyg
  • gwybodaeth a sgiliau staff a/neu aelodau Bwrdd ac Ymddiriedolwyr
  • capasiti eich sefydliad i gyflwyno'r prosiect ar yr un pryd â'ch gwaith arferol
  • eich cysylltiadau â phrosiectau neu sefydliadau perthnasol eraill

[Maes testun - 500 gair]

Sut fyddwch chi'n rheoli cyflwyniad eich prosiect?

Dywedwch wrthym sut y bydd eich prosiect yn cael ei reoli o ddydd i ddydd ac am y bobl a fydd yn ymwneud ag ef.

Dylai hyn gynnwys dweud wrthym:

  • bwy fydd yn gwneud penderfyniadau, profiad y bobl sy'n cymryd rhan a'u rolau yn y prosiect
  • am swyddi staff, prentisiaid, hyfforddeiaethau, neu unrhyw gyfleoedd cyflogedig eraill, y bydd eich prosiect yn eu creu
  • am unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli y bydd eich prosiect yn eu creu. Gwirfoddolwyr yw pobl sy'n rhoi o'u hamser am ddim i helpu cyflwyno eich prosiect
  • os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol i weithio ar y prosiect, dywedwch wrthym beth yw eu cymwysterau ar gyfer y rôl

Cofiwch, rhaid i chi hysbysebu pob swydd staff newydd yn agored, oni bai eich bod yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol i weithio ar y prosiect.

[Maes testun - 500 gair]

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth?

Dywedwch wrthym bwy yw eich partneriaid, natur eich partneriaethau a sut y byddwch yn gweithio ar y cyd.

Hoffem weld eich cytundeb partneriaeth os ydych yn gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect. Os oes gennych un, gallwch ei uwchlwytho yma.

Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei llofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol.

Does dim angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod sefydliad arall yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.

[Maes testun - 500 gair]

Uwchlwythwch gytundeb partneriaeth.  

[Dewis ffeil]

Sut fyddwch yn gwerthuso eich prosiect?

Rhaid i chi werthuso eich prosiect a darparu adroddiad gwerthuso ysgrifenedig ar ôl i chi orffen eich prosiect.  

Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch yn cywain data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud ac yn y pen draw i ddarparu tystiolaeth o'r canlyniadau y mae eich prosiect wedi'u cyflawni.  

Dywedwch wrthym pwy fydd yn gwneud eich gwerthusiad. Gallai hyn fod yn staff yn eich sefydliad neu'n unigolyn neu sefydliad y bydd angen i chi ei gyflogi. Dylech ddarparu brîff ar gyfer y gwaith hwn fel dogfen ategol.  

Byddem yn disgwyl gweld costau ar gyfer eich gwerthusiad wedi'u cynnwys yn eich costau prosiect.

[Maes testun - 500 gair]

A fydd unrhyw ran o'ch prosiect yn digwydd yng Nghymru?

Dylai eich prosiect cyfan ddigwydd yng Nghymru i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen TWIG. Dylech felly ateb bydd i'r cwestiwn hwn.

Mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.  

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn defnyddio'r Gymraeg yn eich prosiect, a chofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn yr adran costau prosiect.  

[Maes testun - 500 gair]

Dywedwch wrthym am unrhyw heriau allweddol neu risgiau posibl i'ch prosiect yr ydych wedi'u nodi.

Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wynebu heriau a risgiau. Dywedwch wrthym am yr heriau neu'r risgiau yr ydych wedi'u nodi, a allai effeithio ar eich prosiect.  

Dylai eich cofrestr risgiau ddarparu gwybodaeth fanylach am yr heriau neu'r risgiau hyn a sut y byddwch yn eu rheoli.  

Byddem yn disgwyl gweld cronfa wrth gefn yn eich costau prosiect i helpu rheoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd.  

[Maes testun - 500 gair]

Costau prosiect

Dywedwch wrthym faint y bydd yn ei gostio i gyflwyno eich prosiect  

Dylech gynnwys yr holl gostau sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.  

Cyfeiriwch at adran “Pa gostau allwch chi ymgeisio amdanynt?” yn yr Arweiniad ymgeisio TWIG. Cofiwch gynnwys costau cyfieithu Cymraeg, cydnabyddiaeth a chostau cynnal a chadw ar ôl y prosiect.

Llenwch ac uwchlwythwch y templed Costau'r Rhaglen TWIG ar dudalen Dogfennau Ategol TWIG. Mae'r ddogfen hon yn orfodol a bydd yn rhoi dadansoddiad manwl o'r costau refeniw a chyfalaf sy'n ofynnol gyda'ch cais.

Bydd angen i chi ychwanegu cost newydd ar gyfer pob cost prosiect wahanol.  

Er enghraifft, os ydych yn recriwtio tri aelod staff newydd i reoli'ch prosiect, bydd angen i chi ychwanegu tair cost staff newydd wahanol. Bydd angen i bob cost fod â'i disgrifiad a'i swm ei hun. 

Os ydych yn hawlio TAW ar unrhyw un o'ch costau prosiect, cofiwch sicrhau'n gyntaf na ellir ei hadennill trwy ffynonellau eraill. Ni allwn dalu costau TAW y gallwch ei adennill.

Os bydd eich statws TAW yn newid yn ystod eich prosiect, byddwn yn lleihau ein cyfraniad at y costau os ydych wedi llwyddo i hawlio'r TAW yn ôl.

A ydych yn derbyn unrhyw gyfraniadau arian parod i gefnogi eich prosiect?  

Cyfraniadau arian parod yw cronfeydd eraill y disgwyliwch eu derbyn tuag at gost eich prosiect. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfraniad arian parod gan eich sefydliad eich hun.  

Os ydy: Uwchlwythwch dystiolaeth. Gallai hwn fod yn llythyr yn cadarnhau’r cynnig neu’n gopi o gyfriflenni banc yn dangos yr arian yn eich cyfrif.  

A ydych yn derbyn unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i gefnogi eich prosiect?  

Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yw pethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes angen i chi dalu amdanynt.  

Er enghraifft, defnyddio ystafell mewn busnes lleol, neu ddeunyddiau a roddir gan gwmni lleol.

Rhowch amcangyfrif o faint y byddai hyn wedi'i gostio os oedd angen i'ch prosiect dalu amdano.  

Dogfennau ategol

Cyfeiriwch at dudalen we Dogfennau ategol TWIG ar gyfer y dogfennau ychwanegol sydd eu hangen yn ychwanegol at ein dogfennau ategol safonol a amlinellir isod. Rhaid cyflwyno'r rhain fel atodiadau i'ch cais. Mae dogfennau ategol penodol TWIG yn cynnwys:

  • templed Canlyniadau Coedwig Cenedlaethol – mae'r ddogfen hon yn orfodol
  • templed costau – mae'r ddogfen hon yn orfodol
  • rhestr wirio mesur llwyddiant – bydd hyn yn ein helpu gwirio sut mae eich prosiect yn cyflawni ein canlyniadau
  • Cynllun coetiroedd a rhestr wirio caniatadau – byddem yn disgwyl i bob cais am ganiatâd perthnasol fod wedi’i wneud neu ar y gweill. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran o'r dudalen arweiniad hon â'r enw 'Camau i'w cymryd cyn ymgeisio’.

Cofiwch uwchlwytho'r dogfennau a ganlyn gyda'ch cais:

  • Cynllun Creu Coetir (os yn berthnasol)
  • Dogfennau perchnogaeth -mae'r ddogfen hon/dogfennau hyn yn orfodol
  • Arolwg cyflwr (os yn berthnasol)
  • Cynllun Rheoli Coedwig (CRhC) – mae'r ddogfen hon yn orfodol
  • tystiolaeth o Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA)

Gellir uwchlwytho'r rhain o dan yr adran 'Tystiolaeth o Gefnogaeth' ar ddiwedd y ffurflen gais. 

Fel rhan o'n proses ymgeisio safonol, bydd angen i chi ddarparu'r dogfennau ategol perthnasol, a amlinellir isod.

Rhaid i chi ddarparu'r dogfennau gorfodol a ganlyn:

  • dogfen lywodraethu
  • gwybodaeth cyfrifon
  • cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Dogfen lywodraethu (er enghraifft, cyfansoddiad)  

Rhaid i chi ddarparu copi o ddogfen lywodraethu eich sefydliad.  

Rhaid bod gennych o leiaf ddau berson ar eich bwrdd neu bwyllgor rheoli nad ydynt yn perthyn i'w gilydd trwy waed neu briodas, nac yn byw yn yr un cyfeiriad.

Dylai eich dogfen lywodraethu gynnwys y canlynol:

  • enw cyfreithiol a nodau eich sefydliad
  • datganiad sy’n atal eich sefydliad rhag dosbarthu incwm neu eiddo i’w aelodau yn ystod ei oes
  • datganiad sy’n cadarnhau, os caiff eich sefydliad ei ddirwyn i ben neu ei ddiddymu, y bydd asedau’r sefydliad yn cael eu dosbarthu i sefydliad elusennol neu nid-er-elw arall ac nid i aelodau’r sefydliad
  • y dyddiad y cafodd ei fabwysiadu a llofnod eich cadeirydd neu berson awdurdodedig arall

Ni allwn ariannu eich sefydliad os nad yw eich cyfansoddiad yn cynnwys yr uchod. Mae'r Comisiwn Elusennau'n darparu arweiniad ar greu dogfen lywodraethu.

Nid oes angen i ni weld eich dogfen lywodraethu os ydych yn:

  • sefydliad cyhoeddus, er enghraifft, awdurdod lleol neu brifysgol
  • perchennog preifat treftadaeth
  • elusen sy'n gofrestredig gyda Chomisiynau Elusennau Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu Reoleiddiwr Elusennau'r Alban  

Cyfrifon

Uwchlwytho cyfrifon eich sefydliad.

Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd.

Mae angen i gyfrifon fod:

  • yn enw cyfreithiol eich sefydliad
  • â dyddiad arnynt
  • â llofnod mewn llawysgrifen. Nid yw hyn yn cynnwys llofnodion digidol
  • cynnwys teitl y sawl sy'n eu llofnodi. Rhaid i'r person hwn fod yn gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, cyfrifydd, neu berson uwch arall yn eich sefydliad

Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis, rhaid hefyd i chi ddarparu tri mis o'ch cyfriflenni banc diweddaraf. Dylai hyn fod y tri mis cyn y dyddiad yr ydych yn cyflwyno eich cais.  

Os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nid oes gennych set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau bod eich sefydliad wedi agor cyfrif.

Nid oes angen i ni weld eich cyfrifon os ydych yn sefydliad cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol neu brifysgol.  

Uwchlwythwch eich cyfrifon [Dewis ffeil]

Cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Uwchlwytho eich cynllun prosiect a'ch cofrestr risgiau.

Rhaid i bob prosiect gyflwyno cynllun prosiect a chofrestr risgiau. Argymhellwn i chi ddefnyddio’r templed ar ein gwefan – bydd dolen i hwn yn y ffurflen gais.

Uwchlwythwch eich cynllun prosiect a chofrestr risgiau [Dewis ffeiliau]

Disgrifiadau swydd

Uwchlwytho disgrifiadau swydd ar gyfer unrhyw staff neu brentisiaid newydd.

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi gyflwyno disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Os ydych yn symud aelod presennol o staff i rôl ar y prosiect, neu'n ymestyn ei oriau i gefnogi'r prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd o hyd.

Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.

Uwchlwythwch unrhyw ddisgrifiadau swydd [Dewis ffeil]

Briffiau

Uwchlwytho briffiau ar gyfer unrhyw waith a gomisiynir.

Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith yr ydych yn bwriadu ei gomisiynu yn ystod eich prosiect.  

Os ydych yn comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech ddarparu brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio.  

Gallwch ddod o hyd i dempled o frîff ar ein gwefan.  

Uwchlwythwch unrhyw friffiau ar gyfer gwaith [Dewis ffeil]

Adennill costau llawn

Uwchlwytho cyfrifiadau ar gyfer adennill costau llawn.

Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yng nghostau eich prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn.

Dylai costau fod yn gymesur â'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Gallwn hefyd dalu cyfran o gost aelod staff presennol, ar yr amod nad yw'n gweithio'n gyfan gwbl ar y prosiect a ariennir mewn swydd newydd.

Uwchlwythwch eich cyfrifiad adennill costau llawn [Dewis ffeil]

Delweddau

Uwchlwytho delweddau o'r prosiect.

Darparwch hyd at chwe delwedd sy'n helpu rhoi darlun o'ch prosiect.  

Gallai hyn gynnwys:

  • delwedd o fap o'r ardal yn dangos y lleoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect, os yw'n digwydd ar draws mwy nag un lle neu ar draws ardal eang.

Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen i rannu'r delweddau hyn gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn defnyddio'r rhain i ddweud wrth bobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio unrhyw ddelweddau a anfonwch atom i hyrwyddo'ch prosiect yn gyhoeddus.  

Uwchlwythwch unrhyw ddelweddau [Dewis ffeil]

Tystiolaeth o gefnogaeth

Defnyddiwch yr adran hon i uwchlwytho unrhyw ddogfennau ategol ychwanegol sy'n benodol i TWIG. Gallwch uwchlwytho hyd at chwe dogfen ychwanegol. 

Uwchlwythwch unrhyw dystiolaeth o gefnogaeth [Dewis ffeil]

Dilynwch y camau nesaf ar y porth i gyflwyno'ch cais.

Caiff crynodeb o'ch holl atebion ei ddangos i chi.  

Bydd gennych yr opsiwn hefyd i fynd yn ôl a newid ateb os oes angen.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais:

  1. Byddwn yn anfon e-bost atoch cyn bo hir gyda rhif cyfeirnod prosiect.
  2. Byddwn yn gwirio'ch cais a'r wybodaeth a ddarparwyd, i sicrhau bod gennym bopeth sydd ei angen arnom i asesu'ch cais. Bydd hyn yn cynnwys gwirio eich bod wedi darparu'r holl ddogfennau ategol priodol.
  3. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth neu ddogfennau os bydd angen.  
  4. Byddwn yn gwirio eich cais ac unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i asesu eich cais, byddwn yn rhoi ein penderfyniad i chi yn gynnar ym mis Mehefin 2024.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.