Cronfa Rhwydweithiau Natur

Cronfa Rhwydweithiau Natur

Nod y Gronfa hon yw cryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o dir gwarchodedig a safleoedd morol, gan gefnogi adferiad gwyrdd i natur a chymunedau.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 1 Mehefin 2021.

Pwysig

Nid yw'r Gronfa Rhwydweithiau Natur bellach yn derbyn ceisiadau.

Dylai ymgeiswyr sydd wedi pasio'r cam Datganiadau o Ddiddordeb barhau i ddatblygu eu ceisiadau. 

Trosolwg

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw gwella cyflwr a gwydnwch rhwydwaith ardaloedd morol a daearol gwarchodedig Cymru.

Mae'n cydnabod pwysigrwydd yr ardaloedd hyn o ran helpu i sicrhau ecosystemau gwydn ehangach a'r manteision y maent yn eu darparu a all gefnogi adferiad gwyrdd.

Bydd gwella cyflwr ardaloedd gwarchodedig yn eu galluogi i weithredu'n well wrth wraidd rhwydweithiau natur ‒ ardaloedd hanfodol o wydnwch ecolegol lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu.

Bydd adfer cysylltedd yn y rhwydweithiau hyn yn atal dirywiad pellach mewn cyflwr rhywogaethau a chynefinoedd, ac yn gwella'r gallu i addasu i newid yn yr hinsawdd. 

Bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn ardaloedd gwarchodedig ac o'u cwmpas. Mae cryfhau ymgysylltiad â natur yn dod â manteision iechyd a llesiant uniongyrchol i bobl, yn ogystal â gwella gwydnwch y safleoedd eu hunain.  

Beth yw'r rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig?

Mae'r rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig yn cwmpasu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (rhwydwaith Natura 2000 gynt) a Safleoedd eraill o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIs).

I ddarganfod os yw eich tir wedi'i gynnwys yn y diffiniad yma, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Beth a olygwn wrth 'adferiad gwyrdd'?

  • gwrthdroi'r dirywiad mewn natur
  • mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a chynyddu gwydnwch i effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • mynd i'r afael â phatrymau cynhyrchu a defnyddio anghynaliadwy, drwy'r economi gylchol
  • adferiad economaidd, drwy fuddsoddiad sy'n cefnogi creu swyddi a marchnadoedd newydd
  • adferiad cymdeithasol, drwy dargedu camau gweithredu at y grwpiau, y cymunedau a'r lleoedd hynny sydd fwyaf agored i niwed, a/neu sydd wedi cael eu taro galetaf i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac amddifadedd sylfaenol

Nodau'r Gronfa

Drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur rydym am ariannu:

  • Camau gweithredu sydd o fudd penodol i reoli cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSA) ac sy'n dangos bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy drwy Gymru benabaladr.
  • Gwelliannau ar safleoedd gwarchodedig y gall cymunedau lleol gymryd rhan ynddynt, ac elwa arnynt. Un nod fyddai cefnogi ymwneud gweithredol ag amrywiaeth eang o bobl a chymunedau (yn enwedig grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol) i gynyddu'r rhwydwaith o bobl sy'n ymwneud â natur, ac adeiladu gwydnwch eu hecosystemau lleol.

Bydd y cynllun yn agored i bob unigolyn a sefydliad yng Nghymru, ar yr amod bod ganddynt y caniatâd a'r trwyddedau cywir ar waith i ymgymryd â gweithgarwch ar y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos.

Mae'n rhaid i weithgareddau sicrhau manteision uniongyrchol i'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig. Gall hyn gynnwys yn uniongyrchol ar safle, ac ar yr ardaloedd cyfagos a fydd yn gwella cyflwr a chysylltedd safleoedd.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn ymwybodol o'r caniatâd a'r trwyddedau perthnasol i gyflawni eu prosiectau a'u bod yn gweithio tuag atynt.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos bod eu prosiect arfaethedig yn cyflawni yn erbyn amcanion rheoli'r safle perthnasol.  

Dylai tua 90% o gyfanswm costau'r prosiect fod yn gyfalaf. Mae hyd at 10% o gyllid refeniw ar gael i helpu i gyflawni'r prosiect.

Byddai angen i geisiadau am gyllid i gefnogi cyfranogiad cymunedol gweithredol ymgorffori hyn mewn prosiect lle mae'r ffocws craidd ar adfer safleoedd gwarchodedig. Ni fydd ceisiadau sy'n canolbwyntio ar yr agwedd cysylltiad yn unig yn gymwys i gael arian. 

Gan fod y cyllid hwn yn cael ei ddosbarthu gan Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru, nid yw ein gofynion gorfodol arferol o ran ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl yn berthnasol. Ceir canllawiau pellach ar beth i'w ystyried ynglŷn â chanlyniadau isod yn yr adrannau 'Sut i wneud cais'.

Grantiau rhwng £50,000 a £100,000

12 Ebrill – 24 Mai: Byddwn yn derbyn ceisiadau rhwng £50,000 a £100,000.

  • Cewch wybod am ein penderfyniad erbyn 30 Gorffennaf

Grantiau rhwng £100,000 a £500,000

12–30 Ebrill: Cam Datganiadau o Ddiddordeb gorfodol. 

  • Mae hwn yn gyfnod gorfodol ar gyfer y lefel yma o gyllid. 
  • Byddwn yn adolygu eich cynigion ac yn penderfynu a ddylid eich gwahodd i gyflwyno cais llawn am grant ai peidio. 
  • Cewch wybod am ein penderfyniad erbyn 14 Mai.

19 Mai – 30 Mehefin: Byddwn yn derbyn ceisiadau rhwng £100,000 a £500,000.

  • Dim ond os ydych wedi pasio'r cam Datganiad o Ddiddordeb y gallwch gyflwyno cais.  
  • Cewch wybod am ein penderfyniad erbyn 10 Medi.

Mae'n rhaid cwblhau'r holl brosiectau a ariennir erbyn 31 Mawrth 2023.

Mae'n bwysig eich bod yn nodi pa rai o gostau eich prosiect yw cyfalaf a refeniw. Gall ceisiadau gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

Costau cyfalaf

  • prynu eitemau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli tir, megis coed, planhigion gwrychoedd, ffensys ac eitemau gwaith cyfalaf sydd eu hangen i gyflawni'r canlyniadau
  • costau cyffredinol yr eir iddynt wrth osod y gwaith cyfalaf, sy'n cynnwys costau contractwyr ar gyfer llafur a defnyddio offer 
  • prynu peiriannau ac offer hyd at werth yr ased ar y farchnad 
  • prynu, dylunio a gosod paneli dehongli (a chostau cyfieithu)
  • caffael neu ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau a nodau masnach
  • ffioedd ymgynghorwyr a phenseiri, costau dylunio technegol eraill, arolygon safleoedd a ffioedd proffesiynol fel ffioedd sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd
  • Ffioedd a chostau ceisiadau cynllunio. Mae ffioedd yr eir iddynt am ganiatâd statudol, trwyddedau a chydsyniadau hefyd yn gymwys hyd yn oed os ydynt wedi'u cwblhau a'u talu cyn eu cymeradwyo, ar yr amod eu bod yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r prosiect cyfalaf.
  • Gellir defnyddio hyd at uchafswm o 10% o wariant cyfalaf i alluogi cyflawni prosiectau. Drwy hyn rydym yn golygu costau cyflawni prosiectau uniongyrchol sy'n eich galluogi i ymgymryd â'r gwaith prosiect cyfalaf megis cynllunio prosiectau, caffael deunyddiau neu reoli prosiectau.  
  • Gellir cynnwys hyd at £3,000 fel arian wrth gefn cyfalaf. Mae'n rhaid defnyddio hyn ar wariant cyfalaf.

Costau refeniw

Gall y rhain fod hyd at 10% yn ychwanegol at y gyllideb gweinyddu cyfalaf, a gallant gynnwys:

  • amser staff
  • adennill costau llawn neu gostau sefydliadol craidd
  • costau gweithgareddau (digwyddiadau, lluniaeth ac ati)
  • llogi ystafell
  • gwerthuso

Ni allwch gynnwys costau cynnal a chadw neu gostau cynnal parhaus yn y dyfodol.

Yr Iaith Gymraeg

Mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd ar eich gwaith a dweud wrthym sut y byddwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru. Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch yn cynnig darpariaeth ddwyieithog yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys y gyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais. Os hoffech ragor o wybodaeth ar sut i fod yn ddwyieithog cysylltwch â cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk 

Sut i gyflwyno cais

Darllenwch gwestiynau'r cais a pharatowch eich atebion ymlaen llaw. Mae'r ffurflen gais ar-lein bellach ar gael i'w defnyddio. Mae’n rhaid i chi gwblhau eich cais mewn un cyfle. Nid oes modd arbed eich cais na dychwelyd ato.

Darllenwch y canllawiau hyn yn ogystal â'r nodiadau cymorth ymgeisio safonol i ddeall pa wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer pob adran o'r ffurflen gais.

Mae angen ateb rhai cwestiynau'n wahanol ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Pan fydd y ffurflen ar-lein neu'r nodiadau cymorth ymgeisio safonol yn gwrth-ddweud y canllawiau pwrpasol ar gyfer y Gonfa Rhwydweithiau Natur, mae'r ddogfen ganllaw bwrpasol yn cael blaenoriaeth.

Sicrhewch bod eich dogfennau ategol gorfodol yn barod i'w cyflwyno. Noder: nid yw eich cais wedi'i gwblhau nes i chi gyflwyno'r dogfennau ategol gorfodol ar y templedi a ddarperir.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar 24 Mai 2021. Bydd unrhyw geisiadau nad ydynt wedi cyflwyno'r dogfennau ategol gywir erbyn hanner dydd ar 26 Mai 2021 yn cael eu tynnu'n ôl yn awtomatig.

Terfynau geiriau

Wrth ddrafftio eich atebion, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw o fewn y terfyn 6,000 gair ar gyfer y ffurflen gais. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno eich cais os byddwch yn mynd y tu hwnt i'r terfyn hwn.

Sylwch fod ein ffurflenni'n cyfrifo cyfrif y gair yn awtomatig a gall hyn achosi ychydig o anghysondebau mewn dogfennau a gaiff eu torri a'u gludo o Word. Bydd unrhyw atalnodi a ddefnyddir rhwng dau air heb le (er enghraifft "nad yw'n hanfodol" neu "ddim") yn cael ei gyfrif fel dau air.

Adran un: Eich prosiect

1a Teitl y prosiect

Dylech gynnwys yr hashnod #NNF yn nheitl eich prosiect. Er enghraifft #NNF gwarchodfa natur Glöynnod Byw

1d Ble fydd eich prosiect yn digwydd?
Ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar safleoedd neu dirweddau, rhowch rif cyfeirnod grid chwe digid yr Arolwg Ordnans ar gyfer canol ardal eich prosiect (er enghraifft: SK510072).

Os ydych yn gweithio ar sawl safle, gwahanwch bob cyfeirnod grid gyda semicolon (er enghraifft: SK510072; SX163777; TQ317842). Peidiwch â chynnwys unrhyw destun ychwanegol gyda'ch cyfeirnodau grid.

1e Pryd ydych chi'n bwriadu dechrau a gorffen eich prosiect?
Dylai prosiectau Rhwydweithiau Natur ddechrau cyn diwedd 2021, a rhaid eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2023. Sicrhewch fod y dyddiadau a roddwch yn dod o fewn yr amserlen hon.

1k Yn ogystal â chydnabod eich grant fel y nodir yn ein gofynion, gofynnwn hefyd i chi ddarparu mynediad arbennig a/neu gynigion i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Dywedwch wrthym sut y byddech yn gwneud hyn.
Gan fod yr arian hwn yn dod gan Lywodraeth Cymru, nid yw'r gofynion safonol sy'n ymwneud â chydnabod Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn berthnasol. Gadewch y blwch hwn yn wag.

Adran dau: Y dreftadaeth

Pan fydd cwestiynau'n cyfeirio at dreftadaeth ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur, dylech ganolbwyntio'n bennaf ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau a geir ar y safle gwarchodedig.

2b Dewiswch y math o dreftadaeth sy'n brif ffocws eich prosiect:
Dewiswch Tirweddau a Natur. Yna bydd chwe opsiwn pellach yn ymddangos i chi ddewis o'u plith.

2e A fyddwch yn ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect? Byddwn/Na fyddwn
Dewiswch Byddwn. Cynllun grant cyfalaf yw hwn yn bennaf.  

Adran tri: Rheoli eich prosiect

3f Sut byddwch chi'n gwerthuso eich prosiect?
Disgwyliwn i holl grantwyr Rhwydweithiau Natur gydweithio â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i gasglu data safleoedd ar gyfer gwerthuso'r prosiectau hyn. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn cyfweliadau, a nodi data llinell sylfaen presennol lle bo hynny'n berthnasol.

Efallai yr hoffech gynnal eich gwerthusiad eich hun o lwyddiant y cynllun hwn. Os gwnewch hynny, amlinellwch eich dull gweithredu yma.

Adran pedwar: Canlyniadau'r prosiect

Noder nad yw'r canlyniad 'bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth' yn orfodol yn y rhaglen hon.

Dylai eich prosiect o leiaf gyflawni'r canlyniad 'bydd treftadaeth mewn cyflwr gwell', ond ticiwch bob un sy'n berthnasol a rhowch fanylion perthnasol. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i wella'r ffordd y rheolir y cynefinoedd a'r rhywogaethau y mae'r safleoedd wedi'u dynodi ar eu gyfer.

Adran pump: Costau'r prosiect

5a Costau'r Prosiect

Cyfeiriwch at y canllawiau uchod wrth ‘Baratoi eich cais' i sicrhau bod costau eich prosiect yn gymwys.

Nodwch eich costau'n glir, gan gynnwys gwahanu TAW os byddwch yn gwneud cais am y gost hon. Gall y penawdau cost canlynol eich helpu i:

  • Staff newydd
  • Ffioedd proffesiynol
  • Recriwtio
  • Pris prynu eitemau treftadaeth
  • Gwaith atgyweirio a chadwraeth
  • Gwaith adeiladu newydd
  • Allbynnau digidol
  • Offer a deunyddiau gan gynnwys deunyddiau dysgu
  • Hyfforddiant i staff
  • Hyfforddiant i wirfoddolwyr
  • Teithio i staff
  • Teithio i wirfoddolwyr
  • Treuliau i staff
  • Treuliau i wirfoddolwyr
  • Costau digwyddiadau
  • Grantiau cymunedol
  • Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
  • Gwerthuso
  • Adennill Costau Llawn
  • Arian wrth gefn
  • Chwyddiant

Nid oes isafswm gofyniad am arian cyfatebol yn y rhaglen hon.

Mae'n bwysig nad yw'r costau y gofynnwch inni eu talu yn gymhorthdal anghyfreithlon i chi. Gofynnir i chi wneud datganiad eich bod wedi ystyried a gwirio'r rheolau ar reoli cymorthdaliadau pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, ac i dynnu sylw at unrhyw faterion posibl.

Adran chwech: Eich sefydliad

Llenwch yr adran hon yn unol â'n canllawiau safonol.

Adran saith: Dogfennau ategol

Mae popeth sydd ei angen arnom i asesu eich cais ar y ffurflen gais a'r dogfennau ategol.

Byddwch yn derbyn e-bost ar ôl i chi gyflwyno'ch cais gyda chyfarwyddiadau i lanlwytho eich dogfennau ategol gorfodol.

Os nad ydych wedi'i dderbyn ar ôl 24 awr, cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk. Peidiwch â newid llinell pwnc yr e-bost oherwydd gallai ohirio eich cais. Mae'n cynnwys cyfeirnod adnabod unigryw, sy'n cynnwys rhifau a llythrennau. Rydym yn defnyddio hwn i gyfateb eich dogfennau ategol i'r cais cywir.

Mae'n haid i chi anfon eich dogfennau ategol atom yn brydlon ar ôl derbyn yr e-bost hwn. Peidiwch â chyflwyno unrhyw ddogfennau ychwanegol gan na fyddwn yn eu defnyddio yn ein hasesiad.

Fformatau a ganiateir ar gyfer dogfennau ategol yw jpg, xlsx, jpeg, pdf, doc, docx, pptx, a ppt.

Wrth anfon eich dogfennau ategol gorfodol atom, defnyddiwch enwau'r dogfennau isod fel y gallwn adnabod pob dogfen yn hawdd. Gall methu â defnyddio'r enwau dogfennau cywir oedi eich cais.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw hanner dydd ar 24 Mai 2021. Mae'n rhaid i'ch dogfennau ategol fod gyda ni erbyn hanner dydd ar 26 Mai 2021. Os na fyddwn yn derbyn eich dogfennau ategol erbyn y dyddiad hwn, ni fydd eich cais yn cael ei asesu a bydd yn cael ei dynnu'n ôl.

Rydym yn gofyn am y dogfennau canlynol:

  • dogfen lywodraethol (os oes gennych un)
  • cynllun prosiect (gorfodol)
  • cytundebau partneriaeth (os yw'n berthnasol)
  • arolwg cyflwr (lle bo'n bosibl)
  • disgrifiadau swydd (os yw'n berthnasol)
  • briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynwyd (os yw'n berthnasol)
  • delweddau (os yw'n berthnasol)
  • llythyrau cymorth (dim mwy na chwech)
  • cyfrifo adennill costau llawn (os yw'n berthnasol)
  • dogfennau perchnogaeth(e.e.  prydlesu; os yw'n berthnasol)
  • cyfrifon archwiliedig (gorfodol)

Adran wyth: Gwybodaeth a datganiad ychwanegol

Llenwch yr adran hon yn unol â'n canllawiau safonol.

 

Datganiad o ddiddordeb

Mae ein proses ymgeisio yn gystadleuol ac ni allwn ariannu pob cais o ansawdd da a gawn.

Rydym yn cydnabod y gwaith sy'n mynd i baratoi cais. Er mwyn cadw cystadleuaeth ar lefelau y gellir eu rheoli, a rhoi'r cyfle gorau posibl i chi, gofynnwn i bob ymgeisydd am grant dros £100,000 i lenwi ffurflen fer Mynegi Diddordeb .

Mae'n haid i chi gyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb erbyn y dyddiad cau am hanner dydd 30 Ebrill 2021.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i benderfynu a ddylid eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu ai peidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol ond mae'n dangos ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol. 

Ein nod yw ymateb i'ch Datganiad o Ddiddordeb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os byddwch yn llwyddiannus, rhaid i chi gyflwyno'ch cais llawn erbyn y dyddiad cau am hanner dydd 30 Mehefin 2021.

Darllenwch y cwestiynau Mynegi Diddordeb a pharatowch eich atebion ymlaen llaw.

Rydym yn defnyddio ffurflen Datganiad o Ddiddordeb bwrpasol ar gyfer y cyllid yma, sydd bellach ar gael i'w defnyddio. Mae'n rhaid i chi gwblhau eich cais mewn un ymgais. Ni allwch gadw eich cais na dychwelyd ato. 

Defnyddiwch y nodiadau cymorth safonol i lenwi'r ffurflen Mynegi Diddordeb. 

Teitl y prosiect

Dylech gynnwys yr hashnod #NNF yn nheitl eich prosiect. Er enghraifft #NNF Gwarchodfa Natur Gwas y Neidr

2a Dywedwch wrthym am eich prosiect
Rhowch wybodaeth ychwanegol am y canlynol:

  • A fydd eich prosiect yn gwella cyflwr a gwydnwch rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru, ac yn benodol y cynefinoedd a'r rhywogaethau y mae'r safleoedd wedi'u dynodi ar eu gyfer?
  • Ble a sut y bydd y gwaith yn digwydd?
  • Gyda pha gymunedau y byddwch chi'n gweithio?

2c. Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais cam datblygu os cewch eich gwahodd i wneud hynny? 
Sylwer bod y Gronfa hon yn wahanol i'n grantiau safonol, felly nid oes arnom angen ceisiadau cam datblygu a chyflawni ar wahân. Rhaid cyflwyno eich cais llawn erbyn 30 Mehefin 2021.

Sut i gyflwyno cais

Mae'r ffurflen gais lawn am grantiau o £100,000-£500,000 bellach ar agor. Bydd prosiectau sydd wedi llwyddo i basio'r cam Mynegi Diddordeb yn cael eu hysbysu drwy e-bost, a byddant yn derbyn dolen i'r ffurflen hon. Os nad ydych wedi clywed gennym am eich Datganiad o Ddiddordeb erbyn dydd Gwener 21 Mai, cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk.

Ceir canllawiau ar lenwi'r ffurflen gais, a thempledi ar gyfer y Dadansoddiad Cost Manwl a'r Cynllun Prosiect, yn yr adran 'Cymorth pellach, adnoddau a gweminar wedi'u recordio' isod.

Rheoli cymorthdaliadau

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cadarnhau bod ei gais wedi'i ystyried a'i wirio mewn perthynas â rheolau rheoli cymhorthdal.

Ar yr adeg o gyhoeddi'r canllawiau hyn i ymgeiswyr, nid yw cyllid cyhoeddus ar gyfer sefydliadau bellach yn cael ei lywodraethu gan reolau cymorth gwladwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd fel y nodir yn Erthygl 107-109 o Gytuniad Swyddogaeth yr Undeb Ewropeaidd a rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig. 

Yn hytrach, mae'r holl benderfyniadau grant a wneir ar ôl 11pm ar 31 Rhagfyr 2020 yn ddarostyngedig i drefn rheoli cymhorthdal newydd y DU, a nodir yr egwyddorion ym Mhennod 3 (Cymorthdaliadau) Teitl XI (Tegwch yn y Farchnad) Rhan Dau (Masnach, Trafnidiaeth, Pysgodfeydd a Threfniadau Eraill) y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Disgwylir y bydd canllawiau pellach, ymgynghoriad a deddfwriaeth newydd o bosibl yn y maes hwn i adeiladu ar yr egwyddorion hynny. Bydd disgwyl i chi gydymffurfio ag egwyddorion y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau a bodloni unrhyw ofynion yn y dyfodol.

Bydd cytundebau yr ymrwymwyd iddynt yn cael eu hadolygu a'u hamrywio yn unol â hynny. Rydym yn cadw'r hawl i osod gofynion pellach ac amodau ychwanegol mewn perthynas â'r mater hwn. 

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio a oes angen cymorth gwladwriaethol neu glirio rheolaeth cymhorthdal. Dylai ymgeiswyr ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol os nad ydynt yn siŵr a fydd angen clirio'r prosiect.

Gweithio ar dir preifat

Mae llawer o gynefinoedd a rhywogaethau dynodedig yn digwydd ar dir sy'n eiddo i unigolion preifat neu sefydliadau er elw. Gall prosiectau gyflawni gwaith neu weithgareddau ar dir preifat cyn belled â bod unrhyw fudd cyhoeddus yn amlwg yn drech nag unrhyw enillion preifat posibl, ac ar yr amod na dorri'r rheolau rheoli cymhorthdal. 

Er enghraifft, gallem ariannu'r gwaith o adfer gwrychoedd neu greu pyllau fferm, ar yr amod nad ydynt yn ychwanegu gwerth ariannol i'r tir nac yn cyfleu unrhyw fudd ariannol anuniongyrchol sylweddol a allai dorri rheolau rheoli cymhorthdal.

Wrth weithio ar dir preifat rydym yn deall y gall fod cyfyngiadau ar fynediad i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym yn annog mynediad cyhoeddus pryd bynnag y bo hynny'n ymarferol. Rydym hefyd yn derbyn efallai na fydd mynediad corfforol bob amser yn briodol nac yn ddymunol am resymau cadwraeth cynefinoedd. Os bydd gwell mynediad yn bosibl, efallai y byddwch hefyd am wneud cais am gyllid ar gyfer seilwaith newydd, er enghraifft llwybrau neu guddfannau, a all helpu i ddarparu ar gyfer mwy o fynediad i'r cyhoedd.

Gall gwaith ddigwydd ar dir sy'n eiddo i un o adrannau'r Llywodraeth neu gorff hyd braich (ALB), ar yr amod nad ydynt yn elwa'n ariannol o unrhyw fuddsoddiad. Pe bai elusen neu bartneriaeth amgylcheddol yn ymgymryd â gwaith ar dir o'r fath, yna dim ond ar gyfer gwaith na fyddai'n dod o dan unrhyw gyfrifoldeb statudol y gall fod.

I gael cymorth technegol neu gymorth gyda hygyrchedd, cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid drwy e-bost: enquire@heritagefund.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd ein ffurflen gais mynegi diddordeb, gweler ein Datganiad Hygyrchedd.

I gael ymholiadau penodol am y rhaglen, cysylltwch â natur@heritagefund.org.uk

Canllawiau Derbyn Grant Cronfa Rhwydweithiau Natur: dywedwch wrthych beth sydd angen ichi ei wneud os ydych yn llwyddiannus a bod gennych fwy o fanylion am ein gofynion

Telerau safonol y grant £10,000 i £100,000: yn amlinellu telerau ein grantiau

Canllawiau arferion da: cyngor ar amrywiaeth o bynciau i'ch helpu i gyflawni prosiect o ansawdd uchel

Canllawiau natur a thirweddau: helpu i gynllunio a chyflawni prosiectau

Canllawiau ymgeisio £100,000 i £500,000: defnyddiwch y canllawiau hyn i'ch helpu i lenwi'r ffurflen gais ar gyfer prosiectau o £100,000-£500,000.

Templed Cynllun Prosiect: mae'n rhaid i bob cais gyflwyno cynllun prosiect. Argymhellir y templed ar gyfer £100,000-£250,000 ar gyfer pob prosiect Rhwydweithiau Natur dros £100,000, ond efallai y byddwch yn creu eich prosiect eich hun os yw'n well gennych.

Templed Cost Gorfodol: mae'r ddogfen hon yn orfodol ar gyfer pob cais dros £100,000

Mae'r datganiadau ardal hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu'r heriau a'r mentrau allweddol sy'n digwydd ym mhob ardal yng Nghymru.

Os oes angen, gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi cyngor ar yr amcanion rheoli: e-bostiwch sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Newydd – ymunwch gyda’n sesiynau cynghori mis Ebrill

Dewch i siarad hefo ni am wneud cais am grant o’r Gronfa Rhwydweithiau Natur. Byddwn yn cynnal dwy sesiwn gynghori i ateb eich cwestiynau am eich ceisiadau a’ch Datganiadau o Ddiddordeb. Byddant yn cymryd lle o hanner dydd tan 1pm ar 27 Ebrill a 4.30-5.30pm ar 28 Ebrill.

Sesiynau anffurfiol ar Teams bydd y rhain, felly mae croeso i chi ymuno a gofyn eich cwestiynau unrhywbryd. Byddwn yn ateb cwestiynau ar sail y cyntaf i’r felin.

Ebostiwch natur@heritagefund.org.uk am fanylion ymuno.

Gweminar cefnogol

Gwyliwch recordiad o'n gweminar a gynhaliwyd ar 6 Ebrill. Mae'n rhoi trosolwg o'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, gan gynnwys:

  • Yr hyn y gallwn ei ariannu

  • Pwy all wneud cais

  • Sut i wneud cais

  • Adnoddau defnyddiol

{"preview_thumbnail":"/sites/default/files/styles/video_embed_wysiwyg_preview/public/video_thumbnails/ydh5xJGcSG4.jpg?itok=j-BV9Yke","video_url":"https://www.youtube.com/watch?v=ydh5xJGcSG4","settings":{"responsive":1,"width":"854","height":"480","autoplay":0},"settings_summary":["Embedded Video (Responsive)."]}

Y siaradwyr yw:

  • Julie Hughes, Pennaeth Buddsoddi Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

  • Jason Jones, Rheolwr Buddsoddi, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

  • Alice Teague, Pennaeth Rhaglen (Bioamrywiaeth), Llywodraeth Cymru

  • Christine Edwards, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol: Rhaglen Safleoedd Gwarchodedig, Cyfoeth Naturiol Cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich data'n cael ei brosesu o dan y rhaglen grant hon, gweler ein polisi preifatrwydd.

Deallwn y gallech fod yn siomedig gyda phenderfyniad. Nid oes hawl i apelio nac ymgeisio eto am y Gronfa Rhwydweithiau Natur.

Dim ond os gallwch wneud cŵyn ffurfiol am sut rydym wedi delio â'ch cais y gallwn adolygu ein penderfyniad.

Byddwn ond yn gallu ystyried ac ymchwilio i'r gŵyn os gallwch ddangos:

  • ni wnaethom ddilyn y gweithdrefnau cyhoeddedig ar gyfer asesu eich cais
  • rydym wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais
  • ni wnaethom gymryd sylw o wybodaeth berthnasol

Rhaid gwneud cŵyn ffurfiol yn ysgrifenedig drwy anfon e-bost at enquire@heritagefund.org.uk  o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich penderfyniad cais. Ein nod yw cydnabod eich cŵyn o fewn tri diwrnod gwaith.

Bydd eich cŵyn yn cael ei hadolygu i ddechrau gan gyfarwyddwr ardal/gwlad yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n annibynnol ar baneli argymhelliad a phenderfyniadau ar gyfer y Gronfa hon.

Ein nod yw gwneud penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith o'r adeg y gwnaethoch gyflwyno'ch cŵyn.

Am gymorth, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 020 7591 6044 neu anfonwch e-bost at enquire@heritagefund.org.uk.

Mae'r Gronfa Treftadaeth yng Nghymru yn dosbarthu  Cronfa Rhwydweithiau Natur ar ran Llywodraeth Cymru

Nature Networks partnership logo