Y gronfa buddsoddi effaith newydd ar gyfer diwylliant a threftadaeth

Y gronfa buddsoddi effaith newydd ar gyfer diwylliant a threftadaeth

A Tudor building
Rydym yn un o saith buddsoddwyr yn y Gronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant, sef y gronfa fuddsoddi effaith gymdeithasol fwyaf o'i bath.

Bydd Cronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant yn cynnig benthyciadau rhwng £150,000 ac £1miliwn gyda chyfnod ad-dalu o 10 mlynedd. Cyfanswm y pot buddsoddi fydd o leiaf £20miliwn.

"Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o'r cydweithio newydd yma a fydd yn cefnogi'r sector diwylliannol a threftadaeth i fod yn fwy arloesol, gwydn a chynaliadwy."

René Olivieri, Cadeirydd dros dro Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae'r Gronfa yn agored i geisiadau gan sefydliadau o bob maint ar draws y sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn y DU. Mae'n targedu'n benodol sefydliadau sy'n gwneud effaith gymdeithasol glir, gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a sefydliadau treftadaeth.

Y nod yw helpu'r sefydliadau hyn i arloesi a thyfu.

Man with traditional drum
Dyn gyda drwm traddodiadol. Credyd: Nick Karvounis

 

Dywedodd René Olivieri, Cadeirydd dros dro Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o'r cydweithio newydd yma a fydd yn cefnogi'r sector diwylliannol a threftadaeth i fod yn fwy arloesol, gwydn a chynaliadwy. Mae Cronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant, y fwyaf o'i bath, yn cynnig cyfle gwych ar gyfer newid a fydd yn helpu sefydliadau i gynyddu eu heffaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau."

Mae Cronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant yn cael ei lansio gan sefydliad arloesedd NESTA, sydd wedi ymrwymo £6m. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo £2m, gyda rhagor o arian yn dod o:

  • Cyngor Celfyddydau Lloegr
  • Sefydliad Esmee Fairbairn 
  • Big Society Capital 
  • Bank of America Merrill Lynch

Gallai'r rhai sy'n cael y benthyciadau elwa hefyd o gael cymorth ychwanegol gan NESTA, megis cyngor busnes.

Mae'r Gronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant yn dilyn Cronfa Effaith Gelfyddydol NESTA a'r Gronfa Datblygu Effaith Ddiwylliannol, sy'n cefnogi sefydliadau fel Canolfan ac Amgueddfa Genedlaethol yr Holocost a Ballet Brenhinol Birmingham.

Darganfyddwch fwy ac ymgeisiwch ar wefan Cyllid Celfyddydau a Diwylliant.
 

Ein buddsoddiadau

Fel rhan o'n Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024, rydym wedi ymrwymo i ehangu ein cylch gwaith i gynnwys buddsoddiad cymdeithasol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cyllid newydd ar gyfer hyfforddiant sgiliau busnes a mentergarwch.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...