Deuddeg prosiect arloesol ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Treftdaeth Gorwelion

Deuddeg prosiect arloesol ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Treftdaeth Gorwelion

Heritage Horizon Awards logo
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gwahodd 12 o brosiectau sydd wedi dangos gweledigaeth, uchelgais a'r potensial i fod yn wirioneddol drawsnewidiol i gyflwyno cais i'r Gwobrau Treftadaeth Gorwelion.

Bydd pob prosiect yn cystadlu am gyfran o £50miliwn y mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn bwriadu ei ddyfarnu yn 2020. Dyma'r flwyddyn gyntaf o gronfa grant tair blynedd gwerth £100m i gyd, wedi'i chynllunio i chwyldroi treftadaeth y DU.

"Gofynnom am brosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsnewidiol, nid yn unig o ran treftadaeth, ond i bobl a chymunedau hefyd. Cafodd y panel ei ryfeddu a'i ysbrydoli gan yr hyn a welodd."

 

Eilish McGuinness, Cyfarwyddwr Gweithredol a Chadeirydd Panel Gwobrau Treftadaeth Gorwelion yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Newid treftadaeth

Mae pob un o'r prosiectau yn rhannu ein gweledigaeth i ddod â newid systemig i dreftadaeth ledled y DU. Mae nifer o themâu cymhellol sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys:

  • ymateb i argyfwng newid hinsawdd
  • mynd i'r afael â'r dreftadaeth sydd fwyaf mewn perygl
  • ffermio ar gyfer y dyfodol
  • gwella cydnerthedd a mentergarwch  yn y sector treftadaeth
  • helpu pobl a lleoedd i ffynnu

Prosiectau trawsnewidiol

Dywedodd Eilish McGuinness, Cyfarwyddwr Gweithredol a Chadeirydd Panel Gwobrau Treftadaeth Gorwelion yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Gofynnom am brosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsnewidiol, nid yn unig o ran treftadaeth, ond i bobl a chymunedau hefyd. Cafodd y panel ei ryfeddu a'i ysbrydoli gan yr hyn a welodd."

"Roedd hefyd yn braf iawn gweld cynifer o gynigion yn cydnabod cyfraniad anhygoel y Loteri Genedlaethol yn ogystal â'n ffocws ar flaenoriaethau strategol gan gynnwys tirwedd a natur, treftadaeth sydd mewn perygl a chynhwysiant.   

"Rydyn ni'n wirioneddol ddiolchgar i bawb a gyflwynodd, gan gynnwys y rhai nad ydyn ni wedi llwyddo i'w gwahodd i fynd â'u prosiectau ymhellach. Rydym yn optimistaidd eu bod wedi gweld y cyfle yma yn ymarfer buddiol, mewn rhai achosion yn datblygu syniadau y mae'n ddigon posibl y byddant yn cael eu cyflwyno mewn ffyrdd gwahanol.

"Rydym yn gyffrous iawn am gam nesaf y broses a byddwn yn awr yn gweithio gyda'r prosiectau cyn cyflwyno cais am gyllid datblygu yn ddiweddarach eleni."

Y 12 prosiect ar y rhestr fer

Y prosiectau ar y rhestr fer a wahoddwyd i wneud cais am arian datblygu ar gyfer Gwobr Treftadaeth Gorwelion yw:

  • Cairngorms 2030: pobl a natur yn ffynnu gyda'i gilydd – Awdurdod Parc Cenedlaethol Cairngorms
  • Archifau Creadigol: Prosiect Archif ar y cyd Sir Ddinbych a Fflint – Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint
  • Diving in: A future for Moseley Road Baths – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol
  • Great Yarmouth Gardens - Cyngor Bwrdeistref Great Yarmouth
  • Amgueddfa Caethwasiaeth Rhyngwladol: gynnau syniadau a gweithredu – Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl
  • Cynnydd mawndiroedd: gweledigaeth newydd ar gyfer y Fens – Yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ar gyfer Swydd Bedford, Sir Gaergrawnt a Swydd Northampton
  • Parc Morol Cenedlaethol Plymouth Sound – Cyngor Dinas Plymouth
  • Arbed Mavisbank: Dulliau arloesol o ymdrin â chymunedau treftadaeth – Amgylchedd Hanesyddol yr Alban    
  • Secured for our Children – Nature, World Heritage and Farming in the Lake District  – Sefydliad Lake District
  • Shipshape & Brunel Fashion  – Ymddiriedolaeth SS Great Britain
  • Gweddnewid Amgueddfa Werin Ulster: Prosiect i Bobl – Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon
  • Vision 2025 – Amgueddfa Genedlaethol y Rheilffyrdd

Beth sy'n digwydd nesaf

Mae'r Gwobrau Treftadaeth Gorwelion newydd, a lansiwyd gan y Prif Swyddog Gweithredol Ros Kerslake ym mis Mehefin 2019, wedi'u cynllunio i drawsnewid treftadaeth y DU drwy fuddsoddiad o £100m dros dair blynedd.

Erbyn hyn, mae gan y 12 prosiect tan fis Tachwedd 2020 i wneud cais am gyllid datblygu. Gwneir penderfyniadau yn gynnar yn 2021, a disgwylir i tua hanner y prosiectau ar y rhestr fer dderbyn cyllid i ddatblygu eu cynigion ymhellach.

Bydd y prosiectau hynny'n gwneud cais am y cyntaf o ddau swp o £50m ac mae ganddynt hyd at ddwy flynedd i gyflwyno cynigion cyflenwi, gyda dyfarniadau cyllid llawn yn cael eu penderfynu gan Fwrdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...